Galw am ddisgyblu cynghorydd am ei sylwadau am yr iaith

  • Cyhoeddwyd
Y Cynghorydd Amanda JennerFfynhonnell y llun, Cyngor Powys
Disgrifiad o’r llun,

Y Cynghorydd Amanda Jenner

Mae deiseb wedi cael ei lansio yn galw am ddisgyblu un o gynghorwyr sir Powys, yn dilyn sylwadau a wnaeth am ddysgu Cymraeg.

Yn ôl Elfed Jones, a ddechreuodd y ddeiseb ar wefan Change.org, roedd sylwadau'r cynghorydd Ceidwadol, Amanda Jenner, yn "israddol at yr iaith".

Mewn erthygl ar y wefan Conservative.Home, roedd y Cynghorydd Jenner wedi dweud nad oedd hi am weld y Gymraeg yn cael ei gwthio ar gymunedau nad oedd yn rhai traddodiadol Gymraeg.

Ond dywed y Cynghorydd Jenner fod y sylwadau wedi cael eu cymryd o'u cyd-destun.

Ei hunion eiriau yn yr erthygl dan sylw oedd: "I don't want to see the Welsh language forced upon every nook and cranny of Wales, including those communities whose traditions and cultures may not have the Welsh language embedded in them."

'Digon yw digon'

Dywed y ddeiseb y dylai Ms Jenner gael ei disgyblu, ac y dylai'r cyngor roi 'hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith' i bob cynghorydd.

Â'r ddeiseb ymlaen i ddweud: "Mae'r Iaith Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru, ac mae ei hanes a'i thraddodiad yn ddwfn ym Mhowys."

Roedd sylwadau tebyg dros y canrifoedd wedi rhannu cymunedau a thanseilio'r iaith, meddai, gan ychwanegu: "Digon yw digon."

Ffynhonnell y llun, oliver dixon | geograph

Cafodd y Cynghorydd Jenner ei beirniadu am y mater gan y Cynghorydd Plaid Cymru, Elwyn Vaughan mewn cyfarfod o'r cyngor llawn ar 30 Gorffennaf.

Ond bryd hynny dywedodd Ms Jenner nad oedd hi'n cyfeirio at Bowys yn ei herthygl.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Powys mai'r Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus oedd yn ystyried cwynion yn erbyn cynghorwyr yng Nghymru.

'Sôn am bolisi i'r dyfodol'

Dywedodd y Cynghorydd Jenner, a safodd dros y Blaid Geidwadol yng Ngheredigion yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Rhagfyr, fod y sylwadau wedi cael eu cymryd o'u cyd-destun.

"Mae'r geiriau wedi eu cymryd o erthygl a ysgrifennais ynglŷn â pholisi y dymunwn ei weld yng Nghymru yn y dyfodol," meddai.

"Fel yr eglurais yn fy erthygl, hoffwn weld cymunedau ac ardaloedd yn cael yr hawl i arwain ar wneud penderfyniadau mewn mwy o feysydd sy'n effeithio ar eu hardaloedd, yn cynnwys twf yr iaith Gymraeg.

"Yn amlwg, rwyf yn siarad am bolisi yn y dyfodol."

Gofynnodd y Gwasanaeth Gohebu Democratiaeth Lleol i'r Cynghorydd Jenner egluro ymhle'r oedd yr iaith Gymraeg wedi cael ei gwthio ar bobl, os nad ym Mhowys.

Dywedodd nad oedd ei sylwadau'n "ymwneud â'r gorffennol".

Mae dros 1,000 o bobl wedi arwyddo'r ddeiseb hyd yma.