Cynan a'r Orsedd: secsist neu achubwr?
- Cyhoeddwyd
Wrth i seremonïau'r Orsedd gael eu diwygio oherwydd agweddau israddol tuag at ferched, ydi'r ffigwr dadleuol wnaeth eu cyflwyno nhw yn y lle cyntaf wedi cael gormod o glod dros y blynyddoedd - neu feirniadaeth annheg?
Roedd Cynan yn ffigwr canolog am ran helaeth o'r ugeinfed ganrif: yn fardd, yn Archdderwydd - ddwywaith, ac yn un o brif gynrychiolwyr Y Sefydliad yng Nghymru gafodd ei urddo'n farchog.
Y brenhinwr o Bwllheli, wnaeth chwarae rôl yn yr Arwisgo yn 1969, wnaeth ddiwygio'r Orsedd gan gyflwyno nifer o'r agweddau sydd dan y lach heddiw fel Morwyn a Mam y Fro a'r Ddawns Flodau.
A hithau'n 50 mlynedd ers marwolaeth Albert Evans Jones, Cymru Fyw fu'n holi'r Athro Gerwyn Wiliams, Prifysgol Bangor, sydd ar fin cyhoeddi llyfr am y ffigwr dadleuol.
Ydy'n deg dweud bod Cynan wedi ceisio ail-greu ei gariad at y frenhiniaeth, pasiantri a'r holl syniad o rolau traddodiadol dynion a merched, yn seremonïau'r orsedd?
Yr Athro Gerwyn Wiliams: Bwriad Cynan oedd creu pasiant lliwgar drwy gyfrwng seremonïau'r Orsedd ac mae apêl weledol ac esthetig y pasiantri hwnnw i'w phrofi hyd heddiw. Nid yw'n amhosib fod seremonïaeth frenhinol wedi dylanwadu arno a hefyd ddefodaeth mudiad y Seiri Rhyddion yr oedd yn aelod ffyddlon ohono, ond fe greodd rywbeth unigryw a Chymreig.
Mae'n amlwg fod Dawns y Flodau a gyflwynwyd gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth yn 1937 wedi bod yn boblogaidd iawn, er na chynhwyswyd mohoni o fewn seremoni'r cadeirio tan y 1950au. A pheth arall a sylweddolodd Cynan oedd mai cerddoriaeth a dawns oedd y ffactorau allweddol yn y seremonïau hyn felly cafodd wared o gynifer â phosib o areithiau hirwyntog ohonynt.
Dyfeisio traddodiadau newydd a wnaeth wrth ddatblygu holl seremonïaeth yr Orsedd. Ond ar ôl cyfnod y dyfeisgarwch dychmygus hwn, efallai mai ei ddrwg oedd caniatáu i'r seremonïaeth honno fynd i rigol yn y man a'i fod yn wrthwynebus i newidiadau pellach.
Nid yw'r galwadau diweddar am ddiwygiadau yn rhywbeth newydd. Er enghraifft, bu cwyno cyson yn y gorffennol am na châi awduron rhyddiaith gydnabyddiaeth ddyledus yr un fath â'r beirdd. A rhan o'r amddiffyniad oedd mai Gorsedd y Beirdd oedd hon! Dyna pam y mae'r newid enw diweddar i Orsedd Cymru yn arwyddocaol mewn mwy nag un ystyr gan ei fod yn awgrymu corff mwy cynhwysol nad yw'n eiddo i'r beirdd yn unig.
Nid tan 1992 pan enillodd Robin Llywelyn gyda'r nofel Seren Wen ar Gefndir Gwyn y caed y seremoni Orseddol gyntaf ar gyfer y Fedal Ryddiaith.
Beth oedd bwriad Cynan wrth ddiwygio'r Orsedd yn 1936? Oedd hyn yn gydnaws â gweledigaeth Iolo Morgannwg?
Yr Athro Gerwyn Wiliams: Robyn Llŷn yw'r unig Archdderwydd i wasanaethu hyd yma ar sail ei fod yn Brif Lenor yn unig, a dywedodd ar ôl y cyn-Arwyddfardd Dilwyn Cemais mai Cynan oedd "y ffigwr mwyaf dylanwadol a welodd yr Orsedd yn ei holl hanes, er pan sefydlwyd hi gan Iolo Morganwg".
Corff radicalaidd oedd ffrwyth dychymyg Iolo Morganwg ar gyfer yr Orsedd gyntaf a gyfarfu ym Mryn y Briallu yn Llundain yn 1792. Ysbrydolwyd Iolo gan y Chwyldro Ffrengig a gafodd wared o'r frenhiniaeth a hyrwyddo gweriniaeth. Yn syniadaethol, roedd Cynan ar y pegwn arall i Iolo ac yn frenhinwr o argyhoeddiad.
Erbyn y 1920au roedd Iolo yn destun beirniadaeth gan ysgolheigion modern fel John Morris-Jones a Griffith John Williams, yn enwedig ei honiadau ffug fod tras hynafol i'r Orsedd a ymestynnai'n ôl i'r Oesoedd Canol.
A does dim ond i rywun edrych ar luniau ohoni yn y cyfnod hwn i weld mor ddi-raen yr ymddangosai ei haelodau ac mor flêr oedd ei seremonïau. Roedd yr Orsedd yn gymaint o embaras i ŵr fel Saunders Lewis fel na chredai fod lle iddi yn y Gymru newydd a wawriodd ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf. Ond roedd Cynan mor frwd o blaid yr Orsedd â Iolo Morganwg a'r hyn a welodd ef oedd ffordd ganol.
Yn hollbwysig, derbyniodd y dadleuon academaidd ynghylch ffug hynafiaeth yr Orsedd, ond lawn cyn bwysiced, credodd yn yr Orsedd a gweld ei photensial fel corff urddasol a allai wneud lles mawr i'r iaith a'r diwylliant Cymraeg mewn cyfnod pan oedd gwir angen hynny. Felly roedd ymyrraeth Cynan o ganol y 1930au ymlaen yn gwbl allweddol i barhad yr Orsedd. Gwnaeth fwy na'i diwygio - fe'i hachubodd!
Sut roedd Cynan yn cysoni ei gariad at y frenhiniaeth gyda'i gariad at Gymru?
Yr Athro Gerwyn Wiliams: Ni welai Cynan unrhyw anghysondeb o fath yn y byd rhwng ei gariad at Gymru a'i gariad at y frenhiniaeth. Ymfalchïai yn nhras Cymreig y brenin Tuduraidd Harri VII yn yr Oesoedd Canol. Ac fel y mwyafrif mawr o'i gyd-Gymry a anwyd yn oes y Frenhines Fictoria, roedd yn frenhinwr i'r carn.
Ar ôl yr Ail Ryfel Byd aeth ati i gryfhau'r berthynas rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a'r frenhiniaeth. Yn Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1946 cyflwynodd y Dywysoges Elisabeth, aer y Goron, i'w hurddo'n aelod o'r Orsedd.
Ac yn 1953, ar ôl i Elisabeth o Windsor ddod yn Frenhines Elisabeth II, fe'i croesawodd i bafiliwn Eisteddfod Genedlaethol y Rhyl. Ac fel mae'n digwydd, Elisabeth yw'r aelod o'r teulu brenhinol sydd wedi ymweld amlaf â'r brifwyl - gwnaeth hynny bum gwaith rhwng 1946 a 1963.
A gellid dweud mai Cynan a gynrychiolai'r mwyafrif o'i gyd-Gymry yn ei sêl dros y teulu brenhinol. Oherwydd hyd yn oed yn 2019, mae'n werth cofio bod un pôl piniwn yn tystio bod 48% o'r Cymry a holwyd yn cefnogi'r teulu brenhinol, lleihad o 9% ers pôl blaenorol yn 2009.
Cymro Prydeinig oedd Cynan, ond hyd yn oed yn achos Cenedlaetholwr Cymreig mor amlwg â Saunders Lewis, ni wrthwynebai'r Coroni yn 1953. I'r gwrthwyneb, parodd ysgrif ganddo a ymddangosodd yn Y Faner ym Mehefin 1953 gryn ddadlau. '[D]ylai gwerth y Goron fod yn amlwg', meddai, a 'gall gwrthwynebiad cyndyn a ffyrnig i lywodraeth Seisnig ar Gymru fod yn gyson â chroeso siriol i'r frenhines ei hunan pan ddaw hi i'n gwlad."
Nid mai felly y gwelai Cenedlaetholwyr fel Jennie Eirian Davies, Trefor Morgan a DJ Williams bethau ar y pryd ac anghytunwyd yn groch â datganiad un o sylfaenwyr a chyn-lywydd Plaid Cymru.
Efallai mai'r mwyaf tryloyw a chyson ei frenhiniaeth ar y pryd oedd Cynan a dyna pam y daeth yn gymaint o gocyn hitio. Achos erbyn hynny roedd Cymru wahanol yn ymffurfio - sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac enillodd Plaid Cymru ei sedd seneddol gyntaf.
Ond nid oedd gan Cynan ddim i'w ddweud wrth y gwrthwynebiad o du Cenedlaetholwyr ar y pryd i gysylltiadau brenhinol yr Eisteddfod. A'r agwedd benderfynol a digyfaddawd hon a arweiniodd yn y pen draw at y gwrthdaro mawr rhyngddo ac amryw gyd-Gymry oherwydd y rhan a chwaraeodd yr Orsedd yn yr Arwisgiad yn 1969.
Yn ddadlennol, yn ystod Eisteddfod olaf Cynan sef Eisteddfod Genedlaethol y Fflint yn 1969 yr ymwelodd aelod o'r teulu brenhinol ddiwethaf â'r brifwyl.
Ydy hi'n bryd inni anghofio am y traddodiadau yma erbyn hyn sy'n teimlo mor amhriodol a secsist y dyddiau yma?
Yr Athro Gerwyn Wiliams: Mae gennym le i ddiolch i Cynan a'i gymheiriaid am achub yr Eisteddfod Genedlaethol rhag anhrefn, amherthnasedd a difancoll o ganol y 1930au ymlaen. A golygai hynny nid yn unig ailwampio'r Orsedd ond hefyd sefydlu'r Cyngor i lywodraethu'r Eisteddfod. A fyddai gennym brifwyl werth sôn amdani i'w mwynhau bob blwyddyn heblaw amdanynt sy'n gwestiwn mawr.
Nid yw'n syndod yn y byd fod rhai agweddau ar seremonïau'r Orsedd erbyn hyn yn cael eu cyfri'n rhywiaethol a phatriarchaidd. Ond fel yr aeth ef ati i'w diwygio mewn modd creadigol a dychmygus, dyna'r her ar gyfer arweinwyr y presennol hwythau.
Ac a bod yn deg, mae yna ddiwygiadau wedi eu cyflwyno'n dawel bron heb i rywun sylweddoli hynny. Er enghraifft, geiriau cân a gyflwynwyd gan Cynan am y tro cyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe yn 1926 yw 'Cân y Cadeirio', ond faint ohonom a sylwodd fod y cyfeiriad at 'Hwn ydyw brenin beirdd yr Ŵyl i gyd' ers 2007 wedi ei newid yn fwy cynhwysol i 'Ti ydyw seren beirdd yr Ŵyl i gyd'?
Mae seremonïau'r Orsedd yn cael eu huniaethu gyda'r Eisteddfod Genedlaethol a byddai'r brifwyl a Chymru'n dlotach hebddynt. Maen nhw'n dynfa ac yn bleser i amryw ac yn enghraifft lachar o'r hyn a alwodd Robyn Llŷn yn Gymreictod Gweladwy.
Onid ar ddiwygio yn hytrach na dileu rhai o'r traddodiadau a gysylltir â hi y dylid rhoi'r pwyslais? Hynny yw, dal ati i esblygu a pharhau'n gyfredol drwy osgoi gadael i bethau fynd i rigol. Ac onid dyna a welwn ni yn yr Orsedd dan ei harweinyddiaeth bresennol sy'n effro i'r her?
Bydd cofiant Gerwyn Wiliams Cynan: Drama Bywyd Albert Evans Jones (1895-1970), yn cael ei gyhoeddi gan Y Lolfa fis Medi.
Hefyd o ddiddordeb: