Ffatri gwneud seti awyrennau yn diswyddo 155

  • Cyhoeddwyd
Safran Seats GB's Cwmbran at Lakeside CloseFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni wedi bod yn ymgynghori gyda'r gweithwyr ers mis Ebrill

Mae 155 o swyddi wedi eu colli mewn ffatri yng Nghwmbrân sy'n gwneud seti ar gyfer awyrennau.

Dywed Safran Seats eu bod wedi ymgynghori gyda staff am y toriadau ers mis Ebrill.

Mae 68 o'r diswyddiadau yn rhai gorfodol, gydag 87 yn penderfynu cymryd telerau diswyddo gwirfoddol.

Roedd y cwmni o Ffrainc yn arfer cyflogi 1,200 yn y DU, mewn safleoedd yng Nghwmbrân a Chasnewydd.

Dywedodd llefarydd: "Ers cyhoeddiad gan Safran Seats GB ar 22 Ebrill ynglŷn ag ailstrwythuro, rydym wedi cynnal proses ymgynghorol eang... gan geisio lleihau'r angen am ddiswyddiadau gorfodol."

Ychwanegodd fod 68 o'r swyddi wedi eu colli o ganlyniad i effaith Covid-19 ar y diwydiant awyrennau.