Ymestyn cyfnod Archdderwydd ar ôl gohirio'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Bydd cyfnod Archdderwydd yr Orsedd yn cael ei ymestyn am flwyddyn arall yn sgil gohirio'r Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Pleidleisiodd aelodau Gorsedd Cymru yn unfrydol i ymestyn cyfnod Myrddin ap Dafydd wrth y llyw mewn cyfarfod ddydd Iau.
Bydd ei gyfnod fel Archdderwydd yn dod i ben ar ôl tair Eisteddfod - yn Llŷn ac Eifionydd yn 2022.
Mae'r Orsedd hefyd wedi newid y rheolau i olygu bod tymor pob Archdderwydd bellach yn ymestyn dros dair Eisteddfod yn hytrach na thros dair blynedd.
Dywedodd yr Archdderwydd Myrddin ap Dafydd: "Mi gafodd hynny ei gadarnhau yng nghyfarfod blynyddol Gorsedd Cymru... sef bod tymor Archdderwydd ac unrhyw swyddog neu aelod arall o'r bwrdd o hyn ymlaen yn golygu tair Eisteddfod yn hytrach na thair blynedd.
"Dwi'n falch iawn d'eud y gwir, mai fy Steddfod ola' i fydd yma yn Llŷn ac Eifionydd.
"Dwi 'di cael dechra' yn fy mro enedigol yn Nyffryn Conwy, dwi 'di cael, gobeithio, ymweld â Cheredigion lle dreuliais i amser braf iawn yn y coleg yn Aberystwyth, ac yna gorffen yn Llŷn ac Eifionydd."
Ychwanegodd ei bod hi'n "chwith" bod y dathliad o dalentau Cymru wedi ei golli eleni, ond ei bod hi'n "dda bod yr Orsedd wedi cyhoeddi'r rhestr o'r rhai sy'n cael eu hurddo pan fydd yr urddo yn digwydd yn Nhregaron".
Ond dywedodd "fel pawb arall, mae 'na hen siom am y flwyddyn yma eleni".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2020