Dewis 'brawychus' rhieni am lawdriniaeth yn y cyfnod clo

  • Cyhoeddwyd
Brayden ac Emma BullFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth cyflwr Brayden waethygu yn ystod y cyfnod clo

Mae rhieni bachgen saith oed wedi sôn am y profiad brawychus o weld eu mab yn gorfod mynd drwy lawdriniaeth ar y galon yng nghanol yr argyfwng Covid-19.

Wrth i'r pandemig gydio a'r cyfnod clo ddod i rym, roedd yr afiechyd ar galon Brayden Bull hefyd yn gwaethygu.

Golygodd hynny bod yn rhaid i'w rieni wneud penderfyniad anodd rhwng llawdriniaeth fyddai'n achub ei fywyd, a'r risg o coronafeirws.

Ond yn dilyn wyth awr o lawdriniaeth, mae Brayden bellach adref yn y Rhondda a nawr yn edrych ymlaen at drip i Disneyland pan fydd hynny'n bosib.

'Dim byd yn hollol saff'

Ar ôl cael ei eni'n gynnar cafodd Brayden ddiagnosis o atresia'r ysgyfaint, cyflwr sy'n atal falf y galon rhag datblygu'n iawn.

Cafodd lawdriniaeth pan oedd yn saith wythnos oed i gael gwythïen artiffisial, ond roedd ei rieni'n gwybod y byddai angen llawdriniaeth fawr arall arno rywbryd.

Pan oedd yn chwech dechreuodd ei galon ddirywio, a dywedodd meddygon y byddai angen trawsblaniad arno eleni.

Ond yna daeth y pandemig Covid-19, gyda Brayden yn cael ei roi ar y rhestr 'gwarchod' yn syth oherwydd y risg oedd yn deillio o'i gyflwr.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Brayden ei eni gyda chlefyd ar ei galon

"Roedd meddwl amdano'n cael llawdriniaeth yng nghanol y pandemig yn frawychus, gan ei fod e mor fregus," meddai Emma.

"Roedd gen i ofn y byddai e'n dal e.

"Naethon nhw ein sicrhau ni y bydden nhw'n ceisio cael Brayden mewn yn y ffordd fwyaf saff posib.

"Ond byddai angen llawfeddygaeth ddargyfeiriol ar ei galon am sawl awr, a beth oedd yn dychryn fi oedd gwybod nad oedd unrhyw beth yn hollol saff."

'Ar ben fy hun'

Er yr ofn hwnnw, meddai, roedd hefyd yn gallu gweld cyflwr ei mab yn dirywio adref.

"Ro'n i'n gwybod, petai'n aros gartref, y gallai e farw a byddai dim byd allen ni wneud. Roedd hynny'n dychryn fi mwy," meddai.

"Roedd e'n sefyllfa erchyll i fod ynddo ac roedden ni mor ofnus ddim yn gwybod beth oedd y peth gorau i wneud."

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Emma mae Brayden yn "browd" o'r graith sydd ganddo ers y llawdriniaeth

Ar ôl penderfynu bwrw ymlaen gyda'r driniaeth fe deithion nhw o Bendyrus yn Rhondda Cynon Taf i Ysbyty Plant Bryste - ond cafodd y llawdriniaeth ei chanslo y tro cyntaf a bu'n rhaid dychwelyd eto'r wythnos ganlynol.

Bu'n rhaid i Emma gysgu ar wlâu ysbyty wrth aros i Brayden adfer, gan nad oedd unrhyw lefydd ar ôl yn ystafelloedd teuluol yr ysbyty.

"Roedd e'n anodd achos ro'n i wedi gadael gweddill y teulu adref ac ro'n i yna ar ben fy hun," meddai.

"Doedd neb yna oedd hyd yn oed yn gallu rhoi cwtsh i mi achos doeddech chi ddim yn cael."

'Gallu ymlacio nawr'

Roedd y llawdriniaeth yn llwyddiant, ac ar ôl dim ond pum niwrnod cafodd Brayden ddychwelyd adref.

Ers hynny mae wedi bod yn hunan ynysu adref, ond o ganol Awst ymlaen bydd y cyfnod cysgodi yn dod i ben yng Nghymru.

"Mae wedi bod yn anodd ar ei frodyr a'i chwaer achos yr unig beth maen nhw'n clywed gen i yw 'paid â chyffwrdd Brayden', 'paid â pheswch neu disian arno', 'golcha dy ddwylo," meddai Emma.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Brayden yn edrych ymlaen at gael mynd i chwarae yn y parc pan fydd y cyfnod 'gwarchod' drosodd

"Doeddwn i methu helpu ond ei lapio fe mewn gwlân cotwm, ond fi'n dechrau ymlacio nawr achos fi'n gwybod bod ei galon e wedi trwsio."

Mae Brayden nawr yn edrych ymlaen at gael dychwelyd i'r ysgol a gweld ei ffrindiau - yn ogystal â thrip i Disneyland, rhywbeth mae'r teulu'n gobeithio ei drefnu drwy elusen Heart Heroes.

"Mae 'na deimlad o euogrwydd bod y bachgen bach yma wedi bod drwy gymaint ac wedyn wedi gorfod cael llawdriniaeth yn ganol pandemig. Allai ddim disgrifio pa mor browd ydw i ohono."