Ymestyn y cyfnod hunan ynysu gyda Covid-19 i 10 diwrnod

  • Cyhoeddwyd
hunan ynysuFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r cyfnod sydd yn rhaid i bobl hunan ynysu os oes ganddyn nhw symptomau coronafeirws bellach wedi cael ei ymestyn o saith diwrnod i 10.

Daeth y datganiad ar y cyd gan swyddogion meddygol gwledydd y DU wrth i'r awdurdodau geisio atal ail don o'r feirws rhag taro.

Pwysleisiodd Dr Frank Atherton - prif swyddogol meddygol Cymru - "na ddylai neb fod dan unrhyw amheuaeth fod coronafeirws wedi mynd i ffwrdd".

Tan nawr, cyngor Llywodraeth Cymru oedd i bobl hunan ynysu adref a threfnu i gael prawf Covid-19 os oedd ganddyn nhw unrhyw symptomau.

Mae'r rheiny'n cynnwys peswch cyson newydd, tymheredd uchel, neu eich bod chi'n colli'ch gallu i flasu neu arogli.

'Diogelwch ychwanegol i eraill'

Nawr y cyngor yw i beidio gadael y tŷ am o leiaf 10 diwrnod - a mwy na hynny os nad ydych chi wedi gwella eto.

Mae'n rhaid i unrhyw un sydd yn byw gyda nhw aros adref am gyfnod o 14 diwrnod, dolen allanol - hyd yn oed os nad ydyn nhw'n sâl - er mwyn lleihau'r risg o ledaenu'r haint.

Mae'n rhaid i bobl hefyd hunan ynysu am 14 diwrnod os ydyn nhw wedi bod mewn gwledydd tramor, oni bai bod y rheiny ar y rhestr o eithriadau, dolen allanol.

"Mewn pobl symptomatig, mae Covid-19 yn fwyaf heintus ychydig cyn i'r symptomau ddechrau, ac am y dyddiau cyntaf ar ôl hynny," meddai'r datganiad.

"Mae'n bwysig iawn bod pobl sydd â symptomau yn ynysu eu hunain ac yn cael prawf, a fydd yn caniatáu olrhain cyswllt.

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Frank Atherton yw prif swyddog meddygol Cymru

"Mae tystiolaeth, er ei bod yn dal yn gyfyngedig, wedi cryfhau ac mae'n dangos bod gan bobl â Covid sydd â salwch ysgafn ac sy'n gwella bosibilrwydd isel ond real o fod yn heintus rhwng saith a naw diwrnod ar ôl i salwch ddechrau."

Dywedodd y prif swyddogion meddygol y byddai ymestyn y cyfnod hunan ynysu i 10 diwrnod felly yn "helpu i sicrhau diogelwch ychwanegol i eraill yn y gymuned".

"Mae hyn yn arbennig o bwysig er mwyn amddiffyn y rhai sydd wedi bod yn cysgodi, ac o flaen yr hydref a'r gaeaf pryd y gallem weld mwy o drosglwyddo i'r gymuned."

'Saith diwrnod yn rhy fyr'

Wrth siarad ar BBC Radio Wales dywedodd Dr Phil White, cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymreig Cymdeithas Feddygol Prydain, y byddai'r amser ychwanegol yn rhoi amser i symptomau'r haint ddatblygu'n iawn.

"Dwi'n meddwl beth maen nhw wedi penderfynu yw os oes gennych chi symptomau allai fod yn coronafeirws, a 'dyn ni'n dod lan i gyfnod y gaeaf ble mae llawer o bobl yn cael symptomau o'r fath, gallai fod yn unrhyw beth o beswch i dymheredd," meddai.

"Y cyfnod presennol yw saith diwrnod, ac o fewn yr amser yna, dylai coronafeirws fod wedi datblygu.

"Ond yn amlwg wrth i ni gasglu mwy o ddata, mae'n ymddangos bod saith diwrnod ychydig yn fyr, ac felly i fod yn saff, dylai rhywun hunan ynysu am 10 diwrnod os oes gennych chi unrhyw symptomau resbiradol o gwbl."

Ddim ar ben

Rhybuddiodd prif swyddog meddygol Cymru, Dr Frank Atherton, na ddylai neb feddwl am eiliad bod coronafeirws wedi mynd i ffwrdd.

Eglurodd Dr Atherton fod y penderfyniad i newid y cyfnod hunan ynysu wedi cael ei wneud am bod yna berygl "bychan ond real" bod modd trosglwyddo'r feirws rhwng diwrnod 7 a 10.

Galwodd ar bobl i gymryd y rheolau newydd "o ddifrif".

"Mae'n holl bwysig, er ein bod ni mewn sefyllfa ffodus yng Nghymru ar hyn o bryd, lle mae lefelau trosglwyddo'r feirws yn reit isel, ni allwn gymryd arnom y bydd hynny'n parhau.

"Ac wrth i ni gyrraedd y gaeaf a'r misoedd oerach, rydym yn gwybod y bydd yn haws i'r feirws gael ei drosglwyddo.

"Felly ni ddylai neb fod dan unrhyw amheuaeth fod coronafeirws wedi mynd i ffwrdd."

Dywedodd mai pobl Cymru oedd yn gyfrifol am blismona'r rheol.

"Mae'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom ei wneud i ddiogelu ein hunain, ein ffrindiau a'n cydweithwyr.

Ychwanegodd ei bod yn "holl bwysig" fod pobl yn cael prawf os oeddynt yn amau bod y feirws arnynt.