Ceffyl wedi marw mewn digwyddiad ar ffordd yn y Rhondda

  • Cyhoeddwyd
Ffordd HarcombeFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Ffordd Harcombe

Mae ceffyl wedi marw a dynes yn yr ysbyty yn dilyn "digwyddiad difrifol" yn Rhondda Cynon Taf.

Dywedodd Heddlu'r De bod y gwasanaethau brys wedi cael eu galw yn dilyn digwyddiad ar Ffordd Harcombe yn Llwynypia brynhawn Sadwrn.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod wrth i'r awdurdodau ddelio â'r digwyddiad.

Dywedodd yr heddlu bod y ddynes oedd yn reidio'r ceffyl bellach yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.