Newid y cyngor ynglŷn â chanu'r organ mewn eglwysi

  • Cyhoeddwyd
Cadeirlan TyddewiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd eglwysi wedi cael cyngor i beidio canu organ fel yr un yma yng Nghadeirlan Tyddewi

Dywed yr Eglwys yng Nghymru bod y cyngor ar ganu'r organ mewn eglwysi, yn sgil haint coronafeirws, wedi newid

Yn wreiddiol roedd Llywodraeth Cymru wedi nodi y dylid osgoi canu'r organ, canu, llafarganu a gweiddi am fod gweithgareddau o'r fath yn lledu haint coronafeirws.

Ond dywed yr Eglwys yng Nghymru eu bod bellach wedi cael canllawiau newydd sy'n nodi y dylai'r penderfyniad i ganu'r organ fod yn seiliedig ar asesiad risg a bod angen o hyd parchu rheolau pellhau cymdeithasol a glanweithdra.

Yn ôl Darren Millar, AS Gorllewin Clwyd, roedd rhai organyddion ac aelodau o eglwysi wedi'u cynhyrfu gan y mater ac ychwanegodd bod un gweinidog o'i etholaeth wedi cysylltu gydag ef i fynegi ei anfodlonrwydd.

Yn wreiddiol roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud nad oedd hawl "canu, llafarganu, gweiddi a/neu ganu offerynnau chwyth ac organau lle mae angen gwthio aer drwy'r system i'w gweithredu a hynny er mwyn atal yr haint rhag lledu".

Y cyngor oedd i ddefnyddio piano, offerynnau trydan neu gerddoriaeth oedd wedi'i recordio eisoes.

Mae cais wedi cael ei roi i Lywodraeth Cymru am ymateb.

Ond y cyngor bellach ar wefan y llywodraeth, dolen allanol yw y "dylai'r penderfyniad i ganu organau lle mae angen gwthio aer drwy'r system i'w gweithredu gael ei wneud ar sail asesiad risg a chydymffurfio gyda canllawiau cadw pellter cymdeithasol, hylendid dwylo a chlanhau.

"Cynghorir y dylid ystyried defnyddio offerynnau eraill megis allweddellau electronig neu fiwsig wedi recordio."