Ystyried newid munud olaf i system graddau Safon Uwch
- Cyhoeddwyd
Mae newidiadau i'r broses o benderfynu graddau Safon Uwch disgyblion yn cael eu hystyried yng Nghymru, llai na 24 awr cyn y byddan nhw'n cael eu cyhoeddi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi bod mewn trafodaethau gyda chyrff arholi wedi i newidiadau mawr gael eu gwneud i'r system graddau mewn rhannau eraill o'r DU.
Mae disgyblion yn Lloegr wedi cael gwybod na fyddan nhw'n derbyn gradd is na'u harholiadau ffug, ac yn Yr Alban bydd graddau'n seiliedig ar farn athrawon.
Mae gweinidogion Cymru'n dweud eu bod eisiau sicrhau nad ydy disgyblion Cymru dan anfantais.
Dywedodd Cymwysterau Cymru a CBAC eu bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried y broses safoni yng Nghymru yn sgil y newidiadau yn Lloegr.
Mae disgwyl rhagor o fanylion gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddarach.
Beth yw'r newidiadau fan arall?
Yn Lloegr mae'r llywodraeth wedi addo na fydd disgyblion yn derbyn gradd is na'r hyn a gafwyd yn eu harholiadau ffug neu farn eu hathrawon.
Daw'r penderfyniad i newid y system yn Lloegr ar ôl i Brif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon orfod ymddiheuro wedi i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi yno yr wythnos ddiwethaf.
Bydd miloedd o ddisgyblion yno bellach yn derbyn y graddau gafodd eu hamcangyfrif gan athrawon yn hytrach na rai gafodd eu cyfrifo yn dilyn proses safoni.
Mae Plaid Cymru'n dweud y dylai'r Gweinidog Addysg ystyried system graddau tebyg i'r un yn Lloegr os yw'n dod i'r amlwg nad yw'r system bresennol yn gweithio yng Nghymru.
Dywedodd llefarydd y blaid ar addysg, Siân Gwenllian AS, bod angen ystyried newid y broses safoni yng Nghymru er mwyn sicrhau nad ydy disgyblion dan anfantais.
"Mae hyn o bosib yn opsiwn y bydd y Gweinidog Addysg eisiau ei ystyried os yw hi'n dod i'r amlwg ddydd Iau bod nifer o bobl ifanc yn cael eu methu gan y system," meddai.
Galwodd hefyd am gryfhau'r broses apêl, ac y dylai'r apeliadau hynny fod ar gael am ddim i bob disgybl.
Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar Addysg, Suzy Davies AS: "Mae disgyblion Cymru yn cael eu graddau AS wedi'u hystyried fel rhan o'u hasesiadau, ac fe fyddai'r rheini wedi dod o ganlyniad i broses arholi ffurfiol y llynedd.
"Yn Lloegr, lle nad oes data cyffelyb ar gael, mae canlyniadau ffug-arholiadau yn un maen prawf wrth asesu, ac yn ymddangos fel bod hynny'n gweithredu fel llawr yn hytrach na nenfwd yn y system asesu.
"Does yr un o'r ddwy genedl yn y sefyllfa drist a welwn yn Yr Alban."
Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i "dawelu meddyliau myfyrwyr na fyddant yn cael eu gosod o dan unrhyw anfantais yn sgil newidiadau munud olaf Llywodraethau'r Alban a'r DU".
Dywedodd yr Athro Sally Holland: "Mae'n hanfodol bod myfyrwyr yn derbyn gwybodaeth glir ynghylch sut wnaeth eu canlyniadau cael eu cyfrifo a bod system apêl hygyrch yn ei lle os yw eu canlyniadau unigol ddim yn cyfateb gyda'r hyn roeddent yn disgwyl derbyn petasai nhw wedi cael cyfle i eistedd arholiadau traddodiadol.
"Er ein bod ni wedi derbyn sicrwydd cryf ar gadw cydbwysedd yn y system gyfan dwi wedi bod yn gwbl glir ar yr angen i unigolion gael mynediad i system apêl deg a chyson a chael cyfle i apelio os nad yw eu canlyniadau yn cyfateb gyda'u proffil unigol a'u disgwyliadau.
"Rwy'n disgwyl i Lywodraeth Cymru heddiw dawelu meddyliau myfyrwyr na fyddant yn cael eu gosod o dan unrhyw anfantais yn sgil newidiadau munud olaf Llywodraethau'r Alban a'r DU."
'Yr opsiwn tecaf dan yr amgylchiadau'
Dywedodd llefarydd ar ran Cymwysterau Cymru: "Ry'n ni'n ymwybodol o'r newidiadau sy'n dod i'r amlwg yn Lloegr ac yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried effaith y penderfyniadau hynny ar y broses yng Nghymru.
"Yn y cyfamser, ry'n ni'n hyderus mai'r broses safoni ry'n ni wedi'i ddefnyddio yw'r opsiwn tecaf dan yr amgylchiadau."
Ychwanegodd CBAC mewn datganiad: "Mae CBAC yn ymwybodol o'r sylw yn y cyfryngau neithiwr am gyhoeddiad Ysgrifennydd Gwladol Lloegr am y defnydd o raddau ffug-arholiadau.
"Rydym yn aros am fanylion pellach gan adrannau'r llywodraeth a'r rheoleiddwyr cymwysterau.
"Pan fydd mwy o wybodaeth i'w rhannu, bydd i'w gweld ar ein gwefan. Diolch yn fawr i chi am eich amynedd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2020
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020
- Cyhoeddwyd23 Gorffennaf 2020