Gweinidog addysg yn 'gwarantu' canlyniadau Safon Uwch

  • Cyhoeddwyd
Gweinidog AddysgFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y cyhoeddiad mewn ymateb i'r hyn oedd wedi digwydd yn Lloegr a'r Alban

Ni fydd canlyniadau graddau Safon Uwch disgyblion yn is na'r rhai yr oeddynt wedi eu cyflawni fel gradd mewn arholiadau AS, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd myfyrwyr Safon Uwch yn derbyn eu canlyniadau ddydd Iau, ac roedd y llywodraeth wedi ymgynghori ar y funud olaf er mwyn osgoi sefyllfa fel yn Yr Alban.

Yno bu'n rhaid i'r llywodraeth ymddiheuro i fyfyrwyr yn dilyn cyhoeddi canlyniadau graddau gafodd eu cyfrifo yn dilyn proses safoni.

Mae'r gwrthbleidiau wedi croesawu'r newid, ond dywedodd Plaid Cymru ei fod yn gyfaddefiad bod y system yn ddiffygiol o'r dechrau.

Gweinidog yn 'gwarantu'

Mewn datganiad brynhawn dydd Mercher, dywedodd Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Kirsty Williams ei bod yn "hyderus" bod y system "yn deg i fyfyrwyr, yn gadarn yn yr hyn y mae'n ei fesur a'r arwyddion i gyflogwyr a phrifysgolion".

Ond er hynny, dywedodd bod rhaid sicrhau nad yw newidiadau mewn rhannau eraill o'r DU yn "rhoi myfyrwyr o Gymru dan anfantais".

Mae systemau wedi eu newid yn Lloegr a'r Alban wedi pryderon nad oedd marciau'n deg.

Ond dywedodd Ms Williams bod modd sicrhau myfyrwyr, cyflogwyr a phrifysgolion bod graddau yng Nghymru yn adlewyrchiad teg o'r gwaith.

"Daw bron i hanner y radd derfynol o arholiadau Lefel UG [Uwch Gyfrannol, neu lefel AS] - nid dyma'r sefyllfa mewn llefydd eraill."

Ffynhonnell y llun, PA Media

Ychwanegodd y gweinidog: "Rwy'n gwarantu na all gradd Safon Uwch derfynol dysgwr fod yn is na'u gradd AS.

"Os bydd myfyriwr yn derbyn gradd derfynol yfory sy'n is na'i radd AS flaenorol, yna bydd gradd ddiwygiedig yn cael ei chyhoeddi'n awtomatig gan CBAC.

"Bydd hyn yn golygu - ac rwyf wedi derbyn sicrwydd gan UCAS a phrifysgolion - y gall myfyrwyr siarad yn hyderus â'u darpar brifysgolion ynghylch eu graddau Safon Uwch."

Newid dros y DU

Roedd y llywodraeth wedi bod mewn trafodaethau gyda chyrff arholi wedi i newidiadau mawr gael eu gwneud i raddau mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae disgyblion yn Lloegr wedi cael gwybod na fyddan nhw'n derbyn gradd is na'u harholiadau ffug neu farn eu hathrawon.

Yn Yr Alban bydd graddau'n seiliedig ar farn athrawon, ar ôl i'r prif weinidog yna, Nicola Sturgeon, orfod ymddiheuro am rai canlyniadau.

Dywedodd Cymwysterau Cymru ei fod wedi derbyn cyfarwyddyd gan y gweinidog am yr hyn oedd i ddigwydd, ac "na ddylai dysgwyr Safon Uwch dderbyn canlyniad gradd mewn pwnc yn Haf 2020 sy'n is na'u gradd lefel UG gyfatebol".

Oherwydd y newid hwyr, dywedodd llefarydd y dylai disgyblion wirio eu graddau ddydd Iau.

"Os yw'r radd yr un fath neu'n uwch, yna nid oes angen gweithredu.

"Os yw'r radd yn is, caiff ei disodli gan yr un radd â'r hyn a gafwyd ar gyfer y Safon UG - bydd CBAC yn cyhoeddi graddau diwygiedig cyn gynted â phosibl.

"Os oes angen, dylai dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i Addysg Uwch gysylltu â'u darpar brifysgol i roi gwybod iddynt am y newid."

'System yn ddiffygiol'

Dywedodd llefarydd addysg yr wrthblaid yn Senedd Cymru, Suzy Davies AS, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Beth sydd wedi bod yn gwbl hanfodol yw sicrhau fod system deg ar gyfer graddio ein pobl ifanc ar eu canlyniadau Lefel A.

"Mae'n hanfodol i weld rhwyd diogelwch yn cael ei gweithredu yng Nghymru i sicrhau fod disgyblion yn cyflawni'r radd yr oeddynt wedi gweithio tuag ato."

Fe wnaeth Plaid Cymru groesawu'r newid hefyd, ond dywedodd Sian Gwenllian AS bod y newid hwyr yn "gyfaddefiad bod y system yn ddiffygiol o'r dechrau".

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd undeb athrawon UCAC mewn datganiad mai "croeso gofalus" oedd gan ei swyddogion i'r cyhoeddiad, a bod "pryder yn parhau... am y gweithdrefnau rhoddwyd yn eu lle yn y lle cyntaf, yn enwedig y modelu a fu ar y cynnydd rhwng UG a Safon Uwch".

"Mae perfformiad yn gallu amrywio'n fawr rhwng UG ac U2. Fodd bynnag, mae peth tystiolaeth i ddangos, er enghraifft, fod y rhai mwyaf galluog yn cynnal eu graddau o UG i U2, ac yn wir yn gallu rhagori arnynt. Gobeithiwn yn fawr y bydd y newid yn gwneud yn iawn am hynny."

Dywedodd Gareth Evans, Cyfarwyddwr Polisi Addysg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant bod yr ymyrraeth yn "anorfod... o gofio am ddigwyddiadau diweddar".

"Mae'r addewid o broses apelio estynedig ac am ddim i'w groesawu'n fawr, ac fe fydd yn mynd rhywfaint o'r ffordd tuag at liniaru pryderon llawer o ddisgyblion na fyddai wedi derbyn y graddau yr oeddynt wedi eu disgwyl.

"Tra bydd yn ddiamau o rhyw gysur i'r rhai sydd wedi perfformio'n dda hanner ffordd drwy eu Lefel A, fe fydd yn gysur prin i'r rhai oedd wedi gobeithio rhoi hwb i'w marciau ar ddiwedd y cwrs."