Trefn gosod graddau yw'r 'ateb gorau dan yr amgylchiadau'
- Cyhoeddwyd

Bydd y graddau'n yn cael eu rhyddhau i ddisgyblion ym mis Awst
Y system ar gyfer dyfarnu cymwysterau TGAU a Safon Uwch yr haf hwn yw'r drefn orau o dan yr amgylchiadau, yn ôl pennaeth bwrdd arholi mwyaf Cymru.
Dywedodd prif weithredwr CBAC fod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod graddau'n cael eu penderfynu mewn "ffordd gytbwys a theg", ar ôl i'r arholiadau gael eu canslo yn sgil coronafeirws.
Mae ysgolion a cholegau wedi cyflwyno'r graddau y bydden nhw wedi disgwyl i'r disgyblion gyrraedd, ac mae CBAC yn prosesu'r canlyniadau.
Bydd y graddau'n cael eu rhyddhau i ddisgyblion ym mis Awst.
Fydd ymgeiswyr ddim yn gallu apelio'n uniongyrchol at CBAC eleni, er y bydd ysgolion a cholegau yn gallu herio'r broses.

Dywedodd Mared ei bod yn rhwystredig peidio â chael "unrhyw reolaeth" dros ei graddau
Roedd Mared, sydd ym Mlwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yng Nghaerdydd, i fod i sefyll arholiadau Safon Uwch.
"Mae'n eitha' anodd oherwydd does gen i ddim unrhyw reolaeth dros ba raddau dwi'n mynd i gael a dwi methu gweithio a gwthio fy hun i gael y graddau gorau posib," meddai.
"Ond mae hefyd 'di bod yn neis gyda dim stress gydag adolygu ar gyfer yr arholiadau."

Dywedodd Morgan bod y cyrff arholi'n "gwneud y gorau allan nhw" dan yr amgylchiadau
Myfyriwr TGAU yw Morgan, sydd hefyd yn teimlo'n rhwystredig ond yn gweld bod y sefyllfa'n anodd.
"Dwi'n meddwl maen nhw'n gwneud e yn y ffordd mwyaf teg, oherwydd maen nhw'n cymryd mewn i ystyriaeth ein gwaith cwrs ac felly dwi'n meddwl maen nhw 'di gwneud y gorau allan nhw o'r sefyllfa maen nhw 'di derbyn," meddai.
Mae athrawon eisoes wedi anfon graddau at CBAC ar gyfer yr holl ymgeiswyr TGAU, Uwch Gyfrannol (AS), Safon Uwch a Bagloriaeth Cymru, yn ogystal â rhestri disgyblion mewn trefn o fewn graddau.
Yna, caiff y wybodaeth honno ei phrosesu gan y bwrdd arholi er mwyn sicrhau ei bod yn gyson â'r modd y mae'r disgybl a'r ysgol wedi perfformio mewn blynyddoedd blaenorol.

Dywedodd Ian Morgan fod CBAC yn gwneud eu gorau i fod yn "gytbwys a theg"
Dywedodd Ian Morgan, prif weithredwr CBAC, ei bod yn "broses weddol gymhleth".
"Mae llawer iawn o ddata yn cael ei ddefnyddio o ystod o wahanol ffynonellau," meddai.
'Cynnal hygrededd y cymwysterau'
Dywedodd eu bod yn chwilio am ganlyniadau "gweddol debyg" i flynyddoedd blaenorol.
"Yr hyn nad ydych chi eisiau yw bod y canlyniad yn gwyro gormod y naill ffordd, naill ai tuag i fyny neu i lawr," meddai.
"Ar ddiwedd y dydd rydyn ni'n trafod TGAU a Safon Uwch ac mae'n bwysig ein bod ni'n cynnal hygrededd y cymwysterau hynny - mae'n bwysig i'r dysgwyr o ran symud ymlaen.
"Rydyn ni mewn cyfnod hynod o anodd... ac rwy'n credu mai'r ateb rydyn ni wedi'i gynnig yw'r ateb gorau y gallwn ni ei gynnig o dan yr amgylchiadau.
"Does dim arholiadau felly mae'n rhaid i ni ddod o hyd i broses ac rydyn ni wedi ceisio gwneud hynny ar y cyd mewn ffordd gytbwys a theg."

Dywedodd Iwan Pritchard fod fformiwla sy'n edrych ar berfformiad blaenorol yn fwy anodd i ysgolion newydd
Fel ysgol gymharol newydd, dosbarth Blwyddyn 13 eleni yw'r ail i wneud Safon Uwch yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.
Dywedodd y prifathro, Iwan Pritchard fod fformiwla sy'n edrych ar berfformiad blaenorol yn fwy anodd i ysgol fel Bro Edern.
Mae'n dweud ei bod yn bwysig nad yw athrawon yn rhy hael, ond y dylai barn ysgolion gyfrif.
"Mae'n bwysig bod hygrededd y graddau i'r disgyblion yn parhau," meddai.
"Ond oherwydd na yw'r disgyblion yn cael sefyll arholiadau, dydyn ni ddim yn gwybod mewn gwirionedd sut y bydden nhw wedi gwneud yn arholiadau'r haf ac felly 'swn i'n dweud bod e'n bwysig ein bod ni yn derbyn y dystiolaeth sydd gan ysgolion."

Dosbarth Blwyddyn 13 eleni yw'r ail i wneud Safon Uwch yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern.
Roedd yna ganllawiau i ysgolion a cholegau i'w helpu i gyrraedd gradd deg.
Dywedodd grŵp cydraddoldeb hiliol fod rhieni o rai cymunedau wedi codi pryderon y gallai system sy'n seiliedig ar raddau wedi eu penderfynu gan athrawon roi eu plant dan anfantais oherwydd rhagfarn.
"Yn ystod y cyfnod clo, pan ddechreuon ni ymchwilio am effaith anghyfartal Covid-19 ar bobl o gefndir lleiafrifoedd ethnig fe ddechreuon ni'r ymgynghoriadau eang iawn hyn," meddai Patience Bentu o Race Council Cymru.
"Drwy'r ymgynghoriadau hyn roedden ni'n cael adborth am y pryderon."
'Hyderus y bydd proses deg'
Mae'n fater y maen nhw wedi'i godi gyda'r Gweinidog Addysg, ac maen nhw'n fodlon gyda'r ymateb hyd yma.
"Rydyn ni'n hyderus iawn y bydd yn broses deg, ond dydy hynny ddim yn mynd i olygu ein bod ni'n mynd i anwybyddu'r pwnc," meddai Ms Bentu.
"Byddwn ni'n cadw llygad a gwylio beth sy'n digwydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2020