'Mwy o blismona' wedi pryderon am nifer ymwelwyr

  • Cyhoeddwyd
Traeth
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder bod cadw pellter yn mynd yn fwy anodd mewn mannau poblogaidd

Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn cynyddu eu presenoldeb ar y ffyrdd ac mewn cymunedau y penwythnos hwn yn dilyn pryderon am nifer yr ymwelwyr â rhai ardaloedd.

Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, Carl Foulkes nad yw'r galw yn uwch na haf arferol, ond bod angen sicrhau bod ymwelwyr yn cadw at y canllawiau coronafeirws.

Daw wedi i gynrychiolwyr gwleidyddol ysgrifennu at y Prif Weinidog, Mark Drakeford, yr wythnos hon yn galw arno i ystyried mesurau "fel mater o frys" wedi i "niferoedd digynsail" ymweld â threfi glan môr a thraethau Gwynedd y penwythnos diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio'r angen i fwynhau'r wlad "mewn modd diogel".

Mae disgwyl i'r penwythnos hwn fod yn un braf ar draws y wlad, a gyda hynny daw pryderon am nifer yr ymwelwyr mewn rhai mannau.

'Y galw ar lefel arferol'

"Mae'r galw ar lefel arferol ar gyfer cyfnod yr haf," meddai'r Prif Gwnstabl Foulkes wrth Radio Wales fore Gwener.

"Mae angen i ni wneud yn siŵr bod pobl yn dilyn y canllawiau, sicrhau bod pobl yn cadw pellter priodol a chydnabod nad ydy Covid-19 wedi mynd i ffwrdd a'r effaith y gall hynny gael ar gymunedau sydd wedi bod yn eithaf tawel am gyfnod hir.

"'Da ni rŵan yn gweld lot mwy o bobl yn heidio yno, a dyna pam 'da ni wedi cynyddu ein plismona y penwythnos hwn, ar y ffyrdd ac mewn cymunedau lleol.

"Dyma fydd y penwythnos cyntaf y bydd tafarndai yn cael agor dan do, felly 'da ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol am ein bod yn cydnabod yr effaith all hynny ei gael ar ein cymunedau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o ddirwyon wedi'u rhoi i ymwelwyr ag Eryri dros yr wythnosau diwethaf

Dywedodd y Prif Gwnstabl bod ffaith fod nifer yr ymwelwyr wedi cynyddu mor sydyn ers codi'r cyfyngiadau ar deithio wedi gwneud y newid yn "fwy amlwg" i bobl leol.

"Roedd hi'n anochel, pan ddaeth teithio dramor yn anodd iawn, y byddai pobl yn edrych yn nes at adref. 'Da ni wedi gweld rhai cyfnodau prysur iawn," meddai.

"Roedd y cyfnodau prysur yna ar lefel go debyg i'r hyn y byddwn ni'n ei gael fel arfer yn yr haf, ond yn amlwg 'da ni'n mynd yn syth o gyfnod distaw iawn i un prysur.

"Mae hynny wedi'i wneud yn fwy amlwg i'n cymunedau.

"Ond o safbwynt plismona mae'r lefelau fel yr hyn fyddwn ni'n ei weld fel arfer dros yr haf."

'Cofiwch gadw eich pellter'

Mae'r Dirprwy Weinidog Twristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas hefyd wedi pwysleisio'r angen i drigolion ac ymwelwyr fwynhau'r hyn y gall Cymru ei gynnig mewn modd diogel.

"Gallwn oll gymryd rhai camau er mwyn cadw ein hunain, ein teuluoedd a'n cymunedau yn ddiogel," meddai.

"Cofiwch gynllunio ymlaen llaw a sicrhau eich bod yn deall y trefniadau lleol er enghraifft y cyfleusterau parcio.

"Os bydd y lleoliad yn brysur iawn beth am ystyried lleoliad arall sy'n llai prysur - mae digon o ddewis.

"Cofiwch gadw pellter cymdeithasol, ac aros dau fetr i ffwrdd o bobl eraill, hyd yn oed pan fyddwch yn yr awyr agored ac ar y stryd."

Ffynhonnell y llun, Matthew Horwood
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r AS lleol wedi erfyn ar bobl i beidio casglu mewn grwpiau mawr ym Mae Caerdydd

Ardal arall sydd wedi bod yn bryder i'r heddlu a thrigolion lleol ydy Bae Caerdydd, sydd wedi gweld nifer o bobl yn casglu yno ar benwythnosau.

Mae'r Aelod Seneddol dros yr ardal, Stephen Doughty wedi erfyn ar bobl i beidio casglu yno ar gyfer "parti enfawr" y penwythnos hwn.

"Mae'n bwysig cofio mai lleiafrif o bobl ydy'r rhain, ond mae casglu mewn grwpiau mawr yn ei ddifetha i bawb arall sy'n ceisio mwynhau'r tywydd braf," meddai.

"Cyfrifoldeb yr unigolion sy'n mynd yno yw hyn.

"Mae 'na ddigonedd o fwytai a bariau yno - fe allwch chi fwynhau eich hunan a chefnogi busnesau lleol mewn ffordd ddiogel a chyfrifol.

"Mae pawb wedi bod sownd gartref - mae hi wedi bod yn amser anodd i bawb - ond mae pobl yn colli eu bywydau."