Ymestyn y sail dros apelio i ddisgyblion Safon Uwch

  • Cyhoeddwyd
derbyn canlyniadauFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Disgybl yn derbyn ei chanlyniadau yn Abertawe ddydd Iau

Mae disgyblion Safon Uwch bellach yn cael apelio os ydy eu graddau'n is na'r hyn yr oedd eu hathrawon wedi'i amcangyfrif.

Daw'r cyhoeddiad gan weinidog addysg Cymru yn dilyn ymateb chwyrn i'r canlyniadau ddydd Iau.

Roedd Llywodraeth Cymru wedi'u cyhuddo o "gefnu" ar rai disgyblion ar ôl i 42% o'r graddau gael eu hisraddio gan archwilwyr arholiadau.

Mynnodd Kirsty Williams ddydd Gwener ei bod yn hyderus fod y system yn deg ac yn "gadarn iawn".

Ond dywedodd ddydd Sadwrn y byddai modd i ddisgyblion apelio gyn belled â bod "tystiolaeth" y dylen nhw fod wedi derbyn graddau uwch.

Roedd y llywodraeth wedi wynebu beirniadaeth llym ar draws y sector addysg a thu hwnt yn dilyn y canlyniadau ddydd Iau.

Cafodd yr arholiadau eleni eu canslo oherwydd y pandemig coronafeirws, gyda graddau terfynol disgyblion Blwyddyn 13 yn ddibynnol ar amcangyfrifon athrawon.

Ond fe wnaeth Cymwysterau Cymru israddio rhai graddau ar ôl canfod bod rhai athrawon wedi bod yn "rhy hael".

Ddydd Mercher, oriau'n unig cyn i ddisgyblion dderbyn eu canlyniadau, fe wnaeth Kirsty Williams warantu na fyddai unrhyw un derbyn gradd is na'r hyn wnaethon nhw dderbyn y llynedd yn eu canlyniadau UG.

'Mwy o eglurder'

Mewn datganiad ddydd Sadwrn, dywedodd Kirsty Williams: "Rhoddais gyfarwyddyd i Gymwysterau Cymru yn gynharach yr wythnos hon i ehangu'r sail ar gyfer apelio am Gymwysterau Safon Uwch, UG, Tystysgrif Her Sgiliau a TGAU.

"Maen nhw wedi cadarnhau beth mae hyn yn ei olygu i fyfyrwyr. Yr wyf yn derbyn bod dysgwyr eisiau ac angen mwy o eglurder, a chredaf fod hyn yn cyflawni hynny.

"Bydd Cymwysterau Cymru a CBAC yn rhannu'r manylion llawn, ond gellir nawr gwneud apeliadau pan fo tystiolaeth o asesiadau mewnol y mae'r ysgol neu'r coleg wedi barnu eu bod ar radd uwch na'r radd a ddyfarnwyd iddynt.

"Mae sicrwydd na fydd neb yn cael gradd is wedi apelio, ac mae pob apêl yn rhad ac am ddim."

Ymestyn y sail dros apelio i TGAU hefyd

Dywed Cymwysterau Cymru eu bod wedi "gweithio'n agos gyda CBAC ac wedi ystyried y newidiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Lloegr er mwyn canfod y ffordd orau ymlaen i ddysgwyr Cymru".

O ganlyniad, meddai, mae'r corff wedi ymestyn y sail dros apelio ar gyfer TGAU, UG a Safon Uwch a chymwysterau Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion Ysgol Glan Clwyd yn derbyn eu canlyniadau dan drefn anarferol

"Bellach gellir apelio ar y sail bod tystiolaeth o asesiad mewnol sydd ym marn yr ysgol neu'r coleg ar radd uwch na'r radd a gyfrifwyd, a ddyfarnwyd," meddai datganiad.

"Bydd angen i dystiolaeth asesu fewnol fodloni meini prawf penodol, sy'n cael eu cwblhau ar hyn o bryd ac a gyhoeddir cyn bo hir."

Bydd CBAC yn darparu mwy o fanylion ar y broses apelio ar ddechrau wythnos nesaf.

Dadansoddiad Gohebydd Addysg a Theulu, Bethan Lewis:

Nid yw hyn yn mynd mor bell â dweud y bydd disgyblion sy'n anhapus yn cael y radd a amcangyfrifir ar eu cyfer gan athrawon.

Ond mae'n caniatáu i apeliadau fod yn seiliedig ar rywfaint o'r dystiolaeth sy'n cael ei ddefnyddio gan ysgolion a cholegau i benderfynu ar y graddau hynny.

Y gwahaniaeth mawr yw, cyn y newid hwn, mai dim ond ar sail weinyddol y gellid apelio - er enghraifft, pryderon bod y bwrdd arholi wedi defnyddio'r data anghywir.

Bydd mwy o wybodaeth yn ystod yr ychydig ddyddiau nesaf ond mae rhai cwestiynau ar unwaith am ymarferoldeb y cyfan.

Yn wyneb y cynnwrf ers cyhoeddi graddau, mae'n anochel y bydd nifer enfawr o apeliadau nawr bod y meini prawf wedi'u hagor.

Ond pa mor gyflym y gellir delio â'r rheini, pan fydd lleoedd mewn prifysgol mewn llawer o achosion yn dibynnu ar y canlyniad.

Bydd rhai yn dal i ddadlau y byddai'n symlach ac yn decach cyhoeddi'r graddau gwreiddiol a gyflwynwyd gan athrawon, fel y digwyddodd yn yr Alban.

Mewn ymateb i'r datblygiadau ddydd Sadwrn, dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price fod y "tro pedol yn gyfaddefiad nad oedd y system raddio yng Nghymru yn ffit i bwrpas".

"Yn lle ychwanegu mwy o gymhlethdod ac ansicrwydd, fe ddylai Llywodraeth Cymru gyfaddef eu bod wedi methu a derbyn graddau'r athrawon," meddai ar Twitter.

Ychwanegodd Mr Price y byddai'n cymryd rhan mewn protest sydd wedi'i drefnu gan ddisgyblion tu allan i'r Senedd ddydd Sul.

Cafodd cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ddydd Sadwrn ei groesawu gan y Ceidwadwyr Cymreig, ond rhybuddiodd y blaid fod angen "sicrwydd ar frys" y byddai'r system mewn lle mewn pryd i ddisgyblion gael eu derbyn i brifysgolion o'u dewis a hefyd na fyddai'r system "yn dymchwel" y sgil yr holl apeliadau sydd i'w disgwyl.