Safon Uwch: Canran uwch yn derbyn gradd A*
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd bach wedi bod yn nifer y myfyrwyr Safon Uwch sydd wedi derbyn y gradd uchaf posib, A*.
Ond mae'r canlyniadau terfynol ar gyfartaledd dipyn yn is na'r rhai a gafodd eu hamcangyfrif gan athrawon, cyn cael eu haddasu'n ddiweddarach gan y bwrdd rheoli.
Ddydd Mercher dywedodd y Gweinidog Addysg na fyddai canlyniadau graddau Safon Uwch disgyblion yn is na'r rhai yr oeddynt wedi eu cyflawni fel gradd mewn arholiadau AS.
Dywedodd y rheoleiddiwr arholiadau fod y graddau yn rhai "ystyrlon a chadarn".
Ond mae cymdeithas sy'n cynrychioli arweinwyr ysgolion a cholegau Cymru yn dweud bod y model gafodd ei ddefnyddio i benderfynu ar ganlyniadau "wedi cael effaith ddinistriol".
Beth yw'r canlyniadau?
Mae'r ffigyrau swyddogol yn dangos bod 98.6% o fyfyrwyr wedi ennill A*-E, gyda 10.8% o'r ymgeiswyr wedi llwyddo i gael A*.
Yng Nghymru, mae bechgyn yn parhau i berfformio'n well na'r merched ar radd A*, gan gofnodi 0.8 pwynt canrannol ar y blaen.
Ar y graddau eraill, mae'r merched yn parhau i wneud yn well na'r bechgyn, gyda 99% o ferched yn llwyddo i gael graddau A*-E o'i gymharu â 98.2% o'r bechgyn.
Mae 42.2% o raddau yn is na'r asesiadau gwreiddiol, 53.7% yr un fath a 4.1% yn uwch.
O ran canlyniadau Safon Uwch Gyfrannol (AS), mae'r canlyniadau'n dangos cynnydd bach, gyda 22.2% o'r holl raddau a ddyfarnwyd yn rhai A, o'i gymharu â 20.3% yn 2019.
Mae canran yr ymgeiswyr yn ennill graddau A-E yn dangos twf bach, gyda 91.4% yn ennill y graddau hyn.
Dywedodd prif weithredwr Cymwysterau Cymru, Philip Blaker, nad oedd y broses eleni wedi rhoi grwpiau penodol o ddisgyblion dan anfantais.
"Rydyn ni wedi dadansoddi bylchau cyrhaeddiad eleni o'i gymharu â blynyddoedd blaenorol - gan edrych ar agweddau fel rhyw, oedran a chymhwyster ar gyfer prydau ysgol am ddim", meddai.
"Nid yw ein dadansoddiad yn dangos unrhyw wahaniaethau ystadegol arwyddocaol eleni o'i gymharu â blynyddoedd eraill."
Gwarantu canlyniadau
Ond yn sgil y newidiadau munud olaf i'r system graddau mae Cymwysterau Cymru yn dweud y dylai disgyblion wirio eu graddau heddiw.
Ychwanegodd y corff "na ddylai dysgwyr Safon Uwch dderbyn canlyniad gradd mewn pwnc yn Haf 2020 sy'n is na'u gradd lefel UG gyfatebol".
"Os yw'r radd yn is, caiff ei disodli gan yr un radd â'r hyn a gafwyd ar gyfer y Safon UG - bydd CBAC yn cyhoeddi graddau diwygiedig cyn gynted â phosibl.
"Os oes angen, dylai dysgwyr sy'n dymuno symud ymlaen i Addysg Uwch gysylltu â'u darpar brifysgol i roi gwybod iddynt am y newid."
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, bod disgyblion "wedi aberthu'n fawr" oherwydd yr amgylchiadau eithriadol, a cy dylent fod yn falch o'r "penderfyniad yr ydych wedi ei wneud i oresgyn yr amser heriol hwn".
"Fel y cyhoeddwyd ddoe, rydym wedi gwarantu na all gradd safon uwch derfynol dysgwr fod yn is na gradd UG.
"Gall myfyrwyr yng Nghymru, a darpar gyflogwyr a phrifysgolion ledled y DU, fod yn sicr bod eich graddau Safon Uwch yn adlewyrchu eich gwaith ac arholiadau a asesir yn allanol.
"Rwy'n gobeithio y cewch chi'r graddau roeddech chi wedi gobeithio amdanyn nhw, a gallwch barhau â'ch taith addysgol yn yr hydref.
"Er y bydd llawer ohonoch yn fodlon ar eich canlyniadau ac yn llawn cyffro am eich cam nesaf, os na chawsoch yr hyn yr oeddech wedi'i obeithio, mae digon o opsiynau a chyngor ar gael ar Cymru'n Gweithio."
Er y gwarant am ganlyniadau, dywedodd sawl disgybl iddyn nhw dderbyn graddau is na'r disgwyl fore Iau.
Mae Deio Owen wedi bod yn astudio yng Ngholeg Meirion Dwyfor, ac fe gafodd raddau is na'i safon AS.
"Dwi'm yn siŵr pryd na be'... Dwi'm yn gwbod be' di'r system apêl, felly dwi'm yn gwbod be' dwi am neud rŵan.
"Dyle fo gael ei drwsio ond dwi ddim yn gwbod pryd, felly mae hyn yn peri gofid i fi rwan."
Yn ymateb fore Iau, dywedodd Llywodraeth Cymru nad oes angen i fyfyrwyr boeni, ac y byddai CBAC yn cyhoeddi graddau sydd wedi eu haddasu "cyn gynted â phosib".
Dadansoddiad ein Gohebydd Addysg a Theulu, Bethan Lewis
Ar ôl i'r arholiadau gael eu canslo, roedd y gwaith o benderfynu ar raddau yn anochel yn gymhleth.
Mae hynny wedi ei waethygu gan newidiadau munud olaf i'r system - wedi'i ysgogi gan bryder ynghylch effaith proses safoni ledled y DU, sydd wedi gostwng graddau a oedd wedi cael eu hamcangyfri' gan athrawon.
Mae data a ryddhawyd heddiw yn dangos bod dros 40% o raddau Safon Uwch yng Nghymru wedi eu haddasu yn is.
Gobaith y llywodraeth yw y bydd cyhoeddiad neithiwr yn rhoi hyder ychwanegol nad yw disgyblion dan anfantais ond bydd yn cymryd peth amser i weithio allan effaith lawn system a gafodd ei ddylunio ar gyfer amgylchiadau unigryw eleni.
'Anghyfiawnderau clir'
Dywedodd Eithne Hughes, Cyfarwyddwraig Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru (ASCL) bod aelodau'n siomedig iawn gyda'r canlyniadau.
"Rydym wedi derbyn llawer o alwadau gan arweinwyr ysgol yn mynegi eu rhwystredigaeth, eu dryswch, a'u siom ynghylch y canlyniadau a ddyfarnwyd i'w myfyrwyr.
"Maent yn adrodd bod graddau wedi cael eu gostwng mewn ffordd sydd, yn eu barn nhw, yn gwbl annheg ac annymunol, ac maent yn hynod bryderus am yr effaith niweidiol ar y bobl ifanc dan sylw.
"Gweithiodd arweinwyr ysgol yn galed iawn i ddarparu graddau cywir i fwrdd arholi CBAC, gan ddilyn yr holl ganllawiau yn ofalus, ac maent yn siomedig bod y model ystadegol a ddefnyddiwyd wedyn i safoni'r graddau hyn wedi cael effaith mor ddinistriol.
"Byddwn yn gweithio i ddeall mwy am yr hyn sydd wedi digwydd, ond ein hargraff ar unwaith yw bod y broses ystadegol wedi creu anghyfiawnderau clir."
Beth yw'r broblem?
Mae'r corff sy'n rheoleiddio cymwysterau eisoes wedi nodi bod y graddau sy'n cael eu hamcangyfrif yng Nghymru wedi bod yn rhy hael.
Dros y ddegawd ddiwethaf mae cyfran y graddau uchaf wedi cyrraedd rhyw chwarter, llynedd roedd tua 27%.
Ond yn ôl Cymwysterau Cymru pe bai wedi dilyn yr hyn oedd wedi ei amcangyfrif ar gyfer yr haf yma - byddai dros 40% wedi bod yn raddau A ac A*.
Roedd y ganran hon yn cael ei gweld yn "hael", felly er mwyn cadw hygrededd yr arholiadau - i gyflogwyr a phrifysgolion - ac i fod yn deg â myfyrwyr, mae'r corff wedi diwygio'r canlyniadau.
Oes modd apelio?
Bydd yn rhaid apelio trwy ysgol neu goleg yn hytrach na mynd yn uniongyrchol at fwrdd arholi CBAC - ac mae'n broses gyfyngedig er enghraifft y bwrdd arholi'n defnyddio'r data anghywir i bennu gradd terfynol.
Ni fydd ysgolion a cholegau yn gallu ailystyried y graddau yr oedden nhw wedi amcangyfrif yn wreiddiol ac os fydd camgymeriadau yn dod i'r amlwg yn sgil yr apêl, ni fydd disgyblion eraill yn gweld gostyngiad yn eu graddau yn ôl y bwrdd arholi.
Mae 'na bryder wedi bod am y broses safoni sy'n edrych ar ganlyniadau blaenorol ysgolion a cholegau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020