Safon Uwch: Penderfyniadau israddio'n 'anghredadwy'

  • Cyhoeddwyd
Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Disgyblion yn derbyn eu canlyniadau o bellter diogel yn Ysgol Glan Clwyd, Llanelwy

Mae Aelod Senedd Llafur wedi disgrifio'r modd y penderfynwyd israddio rhai graddau Safon Uwch fel "anghredadwy".

Dywedodd Mike Hedges AS, aelod Dwyrain Abertawe, ei fod yn ymwybodol o ddisgyblion yn cael gradd is na'r amcangyfrifon "heb i samplau o'u gwaith gael eu gwirio".

Mae Mr Hedges a'i gyd-aelod Llafur David Rees yn galw am adolygiad o'r system a welodd 42% o'r graddau terfynol yn is na'r amcangyfrifon gan athrawon.

Mynnodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams ei bod yn hyderus fod y system yn deg ac yn "gadarn iawn".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gobeithio cyhoeddi mwy o fanylion am y broses apelio graddau yr wythnos nesaf.

Dywedodd Mr Rees, AS Aberafan, ei fod yn ymwybodol o achosion unigol lle nad oedd israddio yn "adlewyrchu gallu'r disgybl".

"Mae angen adolygu hynny a sicrhau i ni'n hunain nad oes yr un disgybl wedi cael ei drin yn annheg.

"Rhaid sicrhau fod pob myfyriwr yn derbyn gradd sy'n adlewyrchu eu gallu ac sydd ddim yn eu rhoi dan anfantais i unrhyw fyfyrwyr eraill ar draws y DU."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yng Ngholeg Merthyr wrth i ddisgyblion gasglu eu canlyniadau ddydd Iau

Dywedodd AS Canol Caerdydd, Jenny Rathbone, ei bod wedi derbyn gwybodaeth sy'n awgrymu fod ysgolion mawr sy'n gwasanaethu disgyblion difreintiedig wedi "cael eu colbio gan leihad anesboniadwy mewn graddau".

Ychwanegodd Mr Hedges y dylai pob disgybl dderbyn y graddau amcangyfrif "oni bai fod rheswm da i beidio gwneud hynny".

"Mae angen adolygiad ar unwaith," meddai, "oherwydd ry'n ni'n sôn am ddyfodol pobl ifanc fan hyn."

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ddydd Iau y bydd myfyrwyr sy'n anhapus gyda'u graddau yn medru apelio heb orfod talu.

Roedd Plaid Cymru wedi galw am hynny, a dywedodd llefarydd addysg y blaid, Sian Gwenllian, fod angen i'r broses apelio fod yn "gadarn ac annibynnol".

Ychwanegodd: "Rhaid i ddisgyblion sy'n aros am ganlyniadau TGAU yr wythnos nesaf gael eu trin gyda mwy o drugaredd na'r rhai gafodd eu graddau Safon Uwch, a rhaid cyhoeddi unrhyw newidiadau yn gynt yn hytrach na hwyrach."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae data Cymwysterau Cymru yn dangos bod tua 94% o'r graddau naill ai yr un fath neu o fewn un gradd i'r graddau o'r Ganolfan Asesu.

"Mae hyn cyn unrhyw addasu o ganlyniad i'r 'llawr' AS a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg.

"Rydym hefyd wedi gofyn i Gymwysterau Cymru ystyried a oes modd ymestyn sail i apelio ar gyfer holl gymwysterau Safon Uwch, AS a TGAU, ac rydym yn disgwyl medru rhoi mwy o wybodaeth am hyn yr wythnos nesaf.

"Ni ddylai unrhyw fyfyriwr o Gymru fod dan anfantais yn erbyn myfyrwyr eraill o'r DU.

"Rydym yn falch bod UCAS yn adrodd y nifer mwyaf o ddysgwyr o Gymru yn cael cynnig lle mewn prifysgol ers 2011 yn dilyn cyhoeddi canlyniadau heddiw."