Pwllheli: Enwi heddwas fu farw mewn digwyddiad jet-sgïo
- Cyhoeddwyd
Mae heddwas fu farw mewn digwyddiad yn ymwneud â jet-sgïo oddi ar arfordir Pwllheli wedi ei enwi'n lleol fel Barry Davies.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig ar ôl 16:30 brynhawn Sadwrn i adroddiadau fod dyn wedi disgyn oddi ar y modur i'r dŵr.
Er gwaethaf "ymyrraeth feddygol helaeth", bu farw'r swyddog yn y fan a'r lle.
Nid oedd ar ddyletswydd ar y pryd.
Mae cannoedd o deyrngedau wedi'u rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol i "swyddog ymroddgar a thad".
Dywedodd ei deulu ei fod "wrth ei fodd efo'i swydd" gan ddiolch i'r gwasanaethau brys am geisio'i achub.
Mewn teyrnged, dywedodd y Prif Gwnstabl Carl Foulkes: "Rydym yn hynod drist i gadarnhau marwolaeth un o'n heddweision a fu farw tra oddi ar ddyletswydd heddiw, ac mae ein cydymdeimlad twymgalon yn mynd at ei deulu, ffrindiau a chydweithwyr."
Dywedodd Mark Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru: "Mae colli cydweithiwr yn ddiwrnod tywyll iawn i ni i gyd.
"Mae plismona yn deulu agos a heno rydym yn galaru am farwolaeth 'un o'n rhai ni'.
"Trwy gydol y dyddiau a'r wythnosau nesaf byddwn yma i gefnogi'r teulu, ffrindiau a chydweithwyr yn ystod yr amser anodd hwn ac rydym yn mynegi ein cydymdeimlad twymgalon i bawb sy'n gysylltiedig."
Dywed Heddlu'r Gogledd nad ydyn nhw mewn sefyllfa i ryddhau mwy o fanylion ar hyn o bryd.
'Bonheddwr a cholled i'r gymuned'
Mewn teyrnged ar ei thudalen Facebook personol fore Sul, dywedodd yr Aelod Seneddol lleol ei bod yn "hynod drist" i glywed y newyddion.
"Roeddwn yn adnabod y swyddog, er na wnaf ei enwi gan nad yw'r heddlu wedi rhyddhau'i enw eto," meddai Liz Saville Roberts.
"Roedd o wedi fy helpu yn gynharach eleni. Roedd yn fonheddwr o heddwas: yn golled i'r heddlu ac i'w gymuned.
"Pob cydymdeimlad â'i deulu, ei gyd-swyddogion a'r ffrindiau."
Y penwythnos diwethaf, bu farw dynes yn dilyn gwrthdrawiad rhwng cwch a jet-sgïo ar Afon Menai ger Porthaethwy.