Apêl am atgofion gan deulu Dai Davies sy'n ddifrifol wael

  • Cyhoeddwyd
Dai DaviesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Dai Davies 53 o gapiau dros Gymru

Mae teulu cyn-golwr Cymru, Dai Davies yn apelio ar bobl i rannu eu hatgofion ohono wedi iddo dderbyn y newyddion bod ganddo ganser terfynol.

Mae Davies, 72, yn cael ei drin yn Hosbis Tŷ'r Eos yn Wrecsam ar ôl derbyn diagnosis o ganser y pancreas.

Fe wnaeth y golwr chwarae dros Abertawe, Everton, Wrecsam, Tranmere a Bangor yn ystod ei yrfa 17 mlynedd.

Enillodd 53 o gapiau dros Gymru - gyda'i ymddangosiad olaf dros ei wlad yn 1982.

Roedd yn aelod o'r tîm lwyddodd i drechu Lloegr oddi-cartref ym Mai 1977 - y tro cyntaf i hynny ddigwydd ers 1936.

Mae wedi bod yn sylwebydd ac yn gyfrannydd hefyd ar raglenni gemau rhyngwladol S4C yn dilyn ei ymddeoliad.

Yn enedigol o ardal Glanaman yn Sir Gâr, mae wedi ymgartrefu yn Llangollen, Sir Ddinbych yn fwy diweddar lle bu'n rhedeg clinig iechyd naturiol.

Apêl am atgofion

Dywedodd ei fab ar Facebook: "Mae Dad wedi cael gofal bendigedig yn Ysbyty Royal Lerpwl yn ddiweddar ar ôl cael gwybod bod ganddo gancr ar y pancreas.

"Mae Gareth, Rhian Angharad Davies a finne'n cael ei weld o yn Tŷ'r Eos, Wrecsam bob dydd erbyn hyn ac yn teimlo byddai'n braf iawn cael rhannu negeseuon ac atgofion efo fo.

"Os hoffech i ni basio neges ymlaen byddai'n bleser cael eu darllen iddo.

"Plîs anfonwch negeseuon ac atgofion at yr e-bost preifat yma:- daisaveswales@gmail.com".