Tro pedol y llywodraeth ar ganlyniadau arholiadau
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweinidog Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd y system sydd wedi dyfarnu canlyniadau Safon Uwch eleni yn cael ei hepgor, ac fe fydd myfyrwyr yn derbyn graddau ar sail asesiadau athrawon.
Fe fydd hyn yn berthnasol i fyfyrwyr sydd yn aros am eu canlyniadau TGAU yr wythnos hon hefyd.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi'u cyhuddo o "gefnu" ar rai disgyblion ar ôl i 42% o'r graddau Safon Uwch eleni gael eu hisraddio gan archwilwyr arholiadau allanol.
Roedd arweinwyr addysg mewn chwe chyngor yng ngogledd Cymru wedi dweud yn gynharach ddydd Llun nad oedd ganddyn nhw "unrhyw hyder" yn y system oedd wedi dyfarnu canlyniadau Safon Uwch eleni.
Mynnodd Kirsty Williams ddydd Gwener ei bod yn hyderus fod y system yn deg ac yn "gadarn iawn."
Mewn tro pedol sylweddol ddydd Llun, dywedodd y gweinidog y bydd graddau A, UG, TGAU, Tystysgrif Her Sgiliau a graddau Bagloriaeth Cymru nawr yn cael eu dyfarnu ar sail Graddau Asesu Canolfannau.
Dywedodd y Gweinidog: "Gan weithio gyda Chymwysterau Cymru a CBAC rydym wedi ceisio dull sy'n darparu tegwch ac yn cydbwyso gwahaniaethau yn y safonau a gymhwysir i ddyfarniadau mewn ysgolion.
"O ystyried penderfyniadau mewn mannau eraill, mae cydbwysedd tegwch bellach yn gorwedd gyda dyfarnu graddau Asesu Canolfannau i fyfyrwyr, er gwaethaf cryfderau'r system yng Nghymru."
Asesiadau athrawon
Ychwanegodd y bydd yr holl ddyfarniadau yng Nghymru ar gyfer y graddau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf yn cael eu dyfarnu ar sail asesiad athrawon.
Dywedodd: "I'r bobl ifanc hynny, y cynhyrchodd ein system raddau uwch ar eu cyfer na'r rhai a ddyfarnwyd gan athrawon, bydd y graddau uwch yn sefyll."
Dywedodd y byddai "datganiad pellach ar adolygiad annibynnol o ddigwyddiadau yn dilyn canslo arholiadau eleni" yn cael ei gyhoeddi maes o law.
Ymateb y prifysgolion
Mewn ymateb i'r newyddion, dywedodd Prifysgolion Cymru, y corff sydd yn cynrychioli prifysgolion y wlad, na fydd myfyrwyr o dan anfantais o achos y broses eleni:
"Mae adrannau derbyn ceisiadau mewn prifysgolion wedi bod yn gweithio'n galed i leoli ymgeiswyr ar y cwrs o'u dewis, a byddant yn edrych ar amgylchiadau pob ymgeisydd sydd wedi gwella eu canlyniadau o ganlyniad i'r cyhoeddiad heddiw, er mwyn sicrhau y gallant ddechrau ddilyn cwrs lle bynnag y bo modd y tymor hwn.
"Ein cyngor i fyfyrwyr fyddai cysylltu â'u dewis cyntaf o brifysgol, fydd yn hapus i drafod eu hopsiynau. Mae ganddyn nhw hefyd y dewis o wneud cais am gyrsiau trwy'r system glirio."
Ymateb gwleidyddol
Dywedodd Ysgrifennydd Addysg yr Wrthblaid ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Suzy Davies MS, fod y penderfyniad yn un fyddai'n rhoi "hyder" i fyfyrwyr yng Nghymru:
"Mae hwn wedi bod yn gyfnod eithriadol, a bydd y newyddion yma'n un i'w groesawu'n fawr i'r miloedd o fyfyrwyr Safon Uwch a oedd yr wythnos diwethaf yn edrych ar raddau is nag oedd wedi ei ragweld.
"Bydd hefyd yn rhyddhad i ddisgyblion sy'n disgwyl canlyniadau'r wythnos hon yn ogystal â chydnabod faint o ymdrech y mae athrawon wedi ei wneud.
"Bydd gan y myfyrwyr yma...yr hyder nawr i gynllunio eu haddysg neu eu dyheadau yn y dyfodol, a chyrraedd eu potensial."
'Llongyfarch yr ifanc'
Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Sian Gwenllian AS, fod y penderfyniad i'w groesawu, ond bod angen cynnal ymchwiliad. Galwodd hefyd am ymddiheuriad gan Lywodraeth Cymru:
"Mae hwn yn gyhoeddiad sydd i'w groesawu'n fawr, er ei fod yn hwyr iawn yn dod," meddai.
"Pobl ifanc Cymru sydd sydd piau'r fuddugoliaeth hon, wedi iddynt dangos gwell arweinyddiaeth na'u llywodraeth eu hunain."
Ychwanegodd: "Er ei fod yn anffodus na ddaeth y tro pedol hwn yr wythnos ddiwethaf, yn hytrach nag achosi cymaint o ansicrwydd a phryder diangen i fyfyrwyr, hoffwn longyfarch y bobl ifanc sydd wedi arwain yr ymgyrch hon mor fedrus.
"Mae angen ymchwiliad llawn i'r llanast hwn, a dylai Llywodraeth Cymru ymddiheuro i ddisgyblion, athrawon ac ysgolion am yr hyn yr aethant drwyddo yn ystod yr wythnosau diwethaf.
"Peidiwch eto â chwestiynu proffesiynoldeb a chywirdeb ein hathrawon a gwaith caled ein disgyblion. Am heddiw, gadewch inni ddathlu bod cyfiawnder wedi ennill y dydd."
'Rhoi terfyn ar ffiasgo'
Wrth ymateb i'r newyddion am dro pedol y llywodraeth, dywedodd Eithne Hughes, Cyfarwyddwraig Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau Cymru (ASCL):
"Rydym yn croesawu penderfyniad y llywodraeth i roi terfyn ar y ffiasgo graddio drwy alluogi myfyrwyr i dderbyn graddau ar sail asesiadau athrawon yn hytrach na graddau sydd wedi eu cymedroli i lawr.
"Bydd myfyrwyr, rhieni ag athrawon yn rhoi ochenaid o ryddhad wedi dyddiau o dryswch a thristwch o achos yr anghysonderau oedd wedi codi o ganlyniad i'r algorithm lle gollwyd y dysgwr unigol.
"Bydd y penderfyniad yn golygu y bydd chwyddiant graddau eleni, ond mae hwn yn bris bach i'w dalu am gywiro'r anghyfiawnderau amlwg oedd wedi codi o ddefnyddio model ystadegol i gymedroli graddau.
"Fe fydd yn darparu rhyddhad o roi datrysiad sydyn i fyfyrwyr Lefel A, a sicrwydd i fyfyrwyr TGAU na fyddant yn dioddef y un anghyfiawnderau yn y canlyniadau sydd yn cael eu cyhoeddi'r wythnos hon."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd14 Awst 2020
- Cyhoeddwyd13 Awst 2020
- Cyhoeddwyd13 Awst 2020