£32m i wella amseroedd profion coronafeirws
- Cyhoeddwyd

Bydd Llywodraeth Cymru'n gwario hyd at £32m fel rhan o'r ymdrech i wella amseroedd prosesu profion coronafeirws.
Fe fydd tri labordy rhanbarthol yn dechrau gweithio 24 awr y dydd ac am saith diwrnod yr wythnos.
Hefyd, bydd chwe labordy yn cael eu sefydlu mewn ysbytai gydag offer profi cyflym.
Mae'r data diweddaraf yn dangos bod 56% o'r profion sy'n cael eu prosesu yn labordai GIG Cymru yn dod yn ôl o fewn diwrnod.
Mae medru cael canlyniadau cyflym i brofion yn cael ei weld fel rhan allweddol o system brofi ac olrhain lwyddiannus.
Fe fydd yr arian ychwanegol yn talu am staff ychwanegol i'r tri labordy yng Nghaerdydd, Abertawe a Bodelwyddan o fis Hydref.
Bydd y labordai newydd yn cael eu creu mewn ysbytai yn Llanelli, Treforys, Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful, Llandochau a Chwmbrân, ac fe fyddan nhw'n dechrau ar eu gwaith ym mis Tachwedd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: "Bydd y buddsoddiad yma yn sicrhau fod gennym y gallu yng Nghymru i gyflawni'n strategaeth Profi, Olrhain a Gwarchod a chadw coronafeirws o dan reolaeth, ac i fod yn barod at y gaeaf.
"Rwy'n gobeithio na fydd rhaid i ni ddefnyddio'r adnoddau ychwanegol fydd yn cael eu creu gyda'r buddsoddiad, ond rhaid i ni fod wedi paratoi."
Tra'n croesawu'r capasiti ychwanegol, dywedodd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies fod "rhaid sicrhau y bydd yr adnodd ychwanegol yma'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol" gydag arian trethdalwyr.

Dadansoddiad adran wleidyddol BBC Cymru
Ers wythnosau mae'r data'n awgrymu nad yw nifer y profion sy'n cael eu prosesu yn labordai Cymru yn cyrraedd y nod 24 awr.
Ers wythnosau hefyd mae gweinidogion wedi bod yn dweud eu bod am weld gwelliant.
Y pris, mae'n ymddangos bellach, yw £32m.
Nid rhyw chwarae bach yma ac acw yw hyn i geisio cynyddu faint o samplau sy'n cyrraedd y labordai, neu eu bod yn cyrraedd yn drefnus - mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol mewn recriwtio a pheiriannau er mwyn cynyddu gallu labordai'r GIG yng Nghymru.
Mae'r 'Lighthouse Labs' sydd wedi eu gosod ar draws y DU ac sy'n gweithio 24 awr y dydd wedi dangos pa mor gyflym mae modd prosesu profion.
Gobaith Llywodraeth Cymru yw bod y buddsoddiad yma yn cyflawni rhywbeth tebyg fel bod y cynllun Profi, Olrhain a Gwarchod yn debyg o lwyddo os fydd coronafeirws yn dychwelyd erbyn y gaeaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Awst 2020
- Cyhoeddwyd4 Awst 2020
- Cyhoeddwyd29 Gorffennaf 2020