Prif weithredwr newydd i fwrdd iechyd y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi penodi prif weithredwr newydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Daw Jo Whitehead o Ogledd Cymru ac mae'n dechrau ar y gwaith ar ôl bod yn gweithio fel Prif Weithredwr Ysbytai ac Iechyd yn Queensland.
Dywed y llywodraeth bod y broses recriwtio wedi bod yn "gystadleuol" ond bod Ms Whitehead wedi dangos ei bod yn deall yr heriau iechyd a chymdeithasol sy'n bodoli yn yr ardal a'r ffordd i'w goresgyn.
Ers i'r bwrdd iechyd gael ei rhoi mewn mesurau arbennig yn 2015 mae sawl person wedi gwneud y rôl.
Gwnaeth y llywodraeth y penderfyniad i roi'r bwrdd iechyd o dan oruchwyliaeth ar ôl adroddiad damniol oedd yn nodi bod 'camdrin sefydliadol' wedi digwydd mewn ward iechyd meddwl yn Ysbyty Glan Clwyd.
Ar ôl hynny gadawodd y prif weithredwr ar y pryd, yr Athro Trevor Purt ac fe gamodd Simon Dean, Dirprwy Brif Weithredwr y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i'r adwy dros dro.
Yna ar ôl cael ei benodi yn 2016 gadawodd Gary Doherty y bwrdd ym mis Chwefror eleni i wneud rôl arall yn Ymddiriedolaeth y GIG Ysbytai Addysgu Sir Gaerhirfryn.
'Balch' o'r gwasanaeth
Dywedodd Jo Whitehead, sydd a 30 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes iechyd ei bod hi'n, "anrhydedd fawr i mi gael y cyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl a gwella canlyniadau iechyd ar draws ein cymunedau yng Ngogledd Cymru.
"Rwy'n benderfynol o helpu'r Bwrdd Iechyd i fodloni ei heriau a darparu gwasanaethau gofal iechyd y gall ein cymunedau a'n staff fod yn falch ohonynt."
Yn ôl cadeirydd y bwrdd iechyd, Mark Polin mae ganddi'r "arweinyddiaeth a'r profiad" sydd ei angen.
Bydd Jo Whitehead yn dechrau ar y gwaith ym mis Ionawr 2021 gyda Simon Dean, sydd wedi gwneud y rôl am yr ail waith fel interim, yn dychwelyd i'w waith blaenorol ym mis Medi.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething mae Simon Dean wedi, "darparu arweinyddiaeth gref yn ystod y saith mis diwethaf tra bo'r bwrdd iechyd wedi ymateb a gweithredu'n gyflym ac yn gadarn i COVID-19.
"Wrth i'r GIG gynllunio a pharatoi at heriau'r gaeaf, mae'n hollbwysig ei fod yn dychwelyd i'w rôl genedlaethol."
Am bedwar mis bydd Gill Harris, y Dirprwy Brif Weinidog a'r Cyfarwyddwr Nyrsio, yn cymryd drosodd fel Prif Weithredwr Dros Dro.
"Mae'r Cadeirydd a'r Bwrdd yn hyderus y bydd Gill Harris, gyda chymorth ei chydweithwyr, yn arwain y sefydliad yn dda yn ystod y pedwar mis nesaf ac yn rhoi cymorth strategol i'r Prif Weithredwr newydd ynglŷn â chynlluniau a chyfeiriad y bwrdd at y dyfodol," meddai Vaughan Gething.
Cyfle olaf
Dywedodd Llyr Gruffydd, Aelod o Senedd Cymru ar gyfer gogledd Cymru bod y rôl yma yn un o'r rhai "mwyaf heriol ym mywyd cyhoeddus Cymru".
"Mae'r bwrdd iechyd wedi cael cyfres o brif weithredwyr dros y ddegawd ddiwethaf sydd wedi methu a delio gyda'r problemau sylfaenol sydd yn wynebu gofal iechyd yng ngogledd Cymru," meddai.
Ychwanegodd ei bod hi'n "siomedig" ei bod hi wedi cymryd blwyddyn i benodi prif weithredwr newydd a'i fod yn gobeithio y bydd Jo Whitehead yn gallu cwrdd â'r her.
"Fodd bynnag mae hyn yn teimlo fel y cyfle olaf i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fel endid," meddai.
Dywedodd os nad yw'r penodiad yma yn gweithio "bydd yn rhaid i ni edrych ar ailstrwythuro eang o wasanaethau iechyd yn y gogledd".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd4 Chwefror 2020