Codi pontydd: Sgwrs a chân gyda Mared
- Cyhoeddwyd
Bydd gwrandawyr Radio Cymru eisoes yn gyfarwydd â'i llais o ganeuon fel "Dal yn y Teimlad" ac "Y Reddf" ond pwy yw'r person tu ôl i'r llais? Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda'r gantores.
Un o Lanefydd ger Dinbych yw Mared Williams ac mae'n dweud ers iddi fod yn ifanc bod cerddoriaeth wastad wedi bod yn rhan o'i bywyd.
"Yn yr ysgol gynradd, mewn eisteddfodau, roedd Mam a Dad yn chwarae miwsig. Dw i wastad wedi jest canu."
"Tra o'n i yn yr ysgol ro'n i'n gwneud sioeau cerdd a nes i ddysgu chwarae piano a gitâr ac mi wnaeth hynny fy ngalluogi i ysgrifennu caneuon a chyfeilio i fi fy hun."
Ond, mae ei thalent a'i diddordeb mewn cerddoriaeth a pherfformio yn mynd tu hwnt i sioeau ysgol a nosweithiau llawen lleol.
Yn yr ysgol uwchradd, roedd hi'n aelod o'r band Y Trŵbz a fu'n gigio'n helaeth mewn gwyliau di-ri yng Nghymru ac mae hi'n dal i berfformio gyda nhw yn achlysurol.
Dilyn gyrfa
Dewisodd ganlyn ei chariad ar gerddoriaeth ac aeth i astudio cerddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds. Treuliodd dair blynedd yno yn chwarae mewn bandiau, yn arbrofi gyda cherddoriaeth electronig a cherddoriaeth jazz. Ar ôl hynny, cododd ei phac a symud i Lundain i wneud gradd meistr mewn sioeau cerdd.
"Drwy'r masters yna ges i swydd ac o'n i arni tan fis Mawrth." Y swydd honno oedd rhan yn sioe Les Miserables yn Theatr Sondheim ar y West End.
"Nes i ddechrau ymarfer ym mis Hydref 2019 a naethon ni agor ym mis Ionawr. Nes i wneud tri mis yn swyddogol yn perfformio yn ensemble y sioe bron bob nos. Ro'n i'n ail eilydd i ran Éponine. Ges i gyfle i wneud y rhan mewn 'cover run' jest cyn i'r theatrau gau. Felly ges i wneud y rhan mewn ymarfer!"
Roedd y swydd honno'n fod i bara tan fis Hydref i Mared ond fe drawodd y coronafeirws hynny oddi ar ei echel, a dod adref i ogledd Cymru wnaeth Mared.
Ond, roedd ganddi haearn arall yn y tân ac felly bwrodd ymlaen gyda'r prosiect hwnnw - ei halbym, 'Y Drefn.
"Nes i ddechrau recordio fy albym i llynedd efo I KA CHING a'i orffen ym mis Hydref felly mi oedd hwnnw'n barod i fynd gen i. Mae'n gasgliad o ganeuon o dros y chwe mlynedd diwethaf - felly mae 'na ganeuon nes i sgwennu pan o'n i yn yr ysgol arno."
"Do'n i ddim yn siŵr a o'n i wedi ffendio fy sŵn [cyn recordio] felly oedd y profiad o drefnu'r caneuon a'u rhoi efo band yn brofiad newydd nes i ei fwynhau a dysgu lot ohono fo."
"Pan ddaeth y lockdown, doeddwn i ddim yn siŵr pa bryd fyddai orau i ryddhau albym. Ond nes i feddwl, does 'na ddim amser 'iawn'. Ond mae pobl adre ac yn barod i wrando ar fiwsig yr un fath ag arfer. Felly 'mond ffendio'r alternative i gigio oedd rhaid."
Bu Mared ar daith gyda Blodau Papur llynedd ac ymddangosodd yng nghyngerdd Dathlu 50 Sain yn Pontio, Bangor gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Band Pres Llaregub felly mae'n hen law ar gigio.
Rhoddodd y cyfnod clo amser i Mared a'r criw yn I KA CHING feddwl am sut i hyrwyddo'r albym. Felly, anfonwyd yr albwm at ei chyfoedion, merched eraill y sîn gerddoriaeth Gymraeg, er mwyn cael eu hymateb nhw i 'Y Drefn'.
Bu'r ymateb yn ffafriol a dweud y lleiaf gyda phobl fel Lleuwen, Lisa Jên (9Bach), Sian James, Ani Glass a Lisa Angharad (Sorela) yn defnyddio geiriau fel 'cysurus', 'difregwawd', 'digymar', 'celfydd' ac 'arallfydol' i'w disgrifio. Mae eu hymatebion i'w gweld ar draws gyfrifon cymdeithasol Mared ac I KA CHING.
Trac yr wythnos
Yr wythnos hon, mae 'Pontydd', sef sengl ddiweddaraf Mared yn drac yr wythnos ar Radio Cymru.
"Mae'r gân yn gân jazz a dw i'n meddwl ei bod hi'n bwysig cydnabod ein bod ni wedi benthyg diwylliannau pobl eraill a bod pobl eraill yn benthyg ein diwylliant ni. Mae'n bwysig cofio o le mae hynny wedi dod. Am dyna be mae hi, basically."
Perfformiodd Mared fersiwn byw o'r gân yn Stiwdio Sain yn arbennig i Cymru Fyw.
Hefyd o ddiddordeb: