Cynnydd yng nghanlyniadau graddau TGAU eleni
- Cyhoeddwyd
Mae cynnydd sylweddol wedi bod yng nghanlyniadau TGAU eleni o gymharu gyda chanlyniadau y llynedd.
Daw y cynnydd o ganlyniad penderfyniad y llywodraeth i ddefnyddio asesiadau athrawon fel sail i'r graddau, yn hytrach nag asesiadau allanol.
Dywed Cymwysterau Cymru fod bron i dri chwarter y graddau eleni rhwng A* ag C, gyda chwarter y canlyniadau yn raddau A* a A - sef cynnydd o18.4% ers y llynedd.
Bu dadlau ffyrnig wythnos diwethaf yn dilyn cyhoeddiad fod 42% o raddau Safon Uwch oedd wedi eu hasesu'n allanol yn is nag asesiadau athrawon.
Penderfynodd Llywodraeth Cymru wneud tro pedol ar y graddau hynny, gan ddyfarnu graddau ar sail asesiadau athrawon yn y pen draw, fel sydd wedi digwydd gyda graddau TGAU ddydd Iau.
Dywedodd disgybl yn ysgol Mary Immaculate yng Nghaerdydd fod effaith y ffrae am ganlyniadau Safon Uwch wedi creu poen meddwl i fyfyrwyr TGAU.
"Ond o weld fy ngraddau heddiw, rwyf yn hapus iawn ag yn falch iawn ohona fi fy hun," meddai Louis. "Roedd y canlyniadau y rhai yr oeddwn ei angen."
Cyn tro pedol y llywodraeth, roedd algorithm wedi ei ddefnyddio i asesu a "safoni" graddau Safon Uwch.
74.5% yn raddau A*-C
Dywedodd Cymwysterau Cymru mai ei "amcangyfrif gorau" oedd bod 74.5% o raddau TGAU wedi'u dyfarnu yn A*-C, o'i gymharu â 62.8% yn 2019.
Ar gyfer TGAU, Safon Uwch, Safon UG a Bagloriaeth Cymru, mae disgyblion bellach yn derbyn y radd uchaf, p'un ai dyna oedd asesiad eu hathro neu'r graddau safonedig.
Er bod miloedd o fyfyrwyr yn cael canlyniadau TGAU, cyhoeddwyd ddydd Mercher y byddai canlyniadau BTec a gyhoeddwyd gan fwrdd arholi Pearsons yn cael eu dal yn ôl i'w ailraddio.
Dywedodd Elle Kidd ei bod yn "ddramatig" i beidio â darganfod canlyniadau ei harholiadau ddydd Iau yn dilyn cyhoeddiad gan y bwrdd arholi y byddai'n ail-raddio BTecs.
Wrth siarad ar BBC Radio Wales, dywedodd ei fod wedi achosi "straen diangen" iddi ac na all gadarnhau ei lle i astudio Lefel 3 yn y coleg y flwyddyn nesaf.
Roedd hi i fod i gael ei chanlyniadau BTec ddydd Iau ar gyfer ei chwrs teithio a thwristiaeth Lefel 2 yng Ngholeg Cambria, ger Wrecsam.
"Mae ryddhau'r newyddion y noson gynt yn ymddangos ychydig yn ddiangen ac wedi creu panig i fi a llawer o bobl," meddai.
"Fe wnaeth llawer ohonom ni glywed am hyn ar y cyfryngau cymdeithasol neu ar y newyddion."
'Problemau bwrdd arholi'
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, wrth Radio Wales ei bod yn "flin" bod hynny wedi digwydd i rai myfyrwyr, ond eglurodd ei bod yn broblem gyda'r bwrdd arholi Pearson, yn hytrach na CBAC.
"Yn amlwg nid dyna ddylai fod wedi digwydd. Mae'n ddrwg gen i fod Pearson wedi gwneud y penderfyniad hwnnw ac nid ydyn nhw wedi gallu gwneud y gwaith angenrheidiol," meddai.
"Rwy'n falch iawn bod CBAC wedi gallu gwneud eu haddasiadau i'w dyfarniadau ac nid yw'r myfyrwyr hynny yn cael eu heffeithio."
Ond dywedodd na allai ddweud faint o fyfyrwyr yng Nghymru fyddai'n cael eu heffeithio, er ei bod yn credu bod "mwyafrif" wedi dilyn cyrsiau BTec trwy CBAC.
Ychwanegodd fod CBAC wedi gallu addasu graddau mewn pryd, er mwyn iddynt allu cael eu cyhoeddi heddiw.
Datganiad
Dywedodd Pearson mewn datganiad eu bod yn bwriadu defnyddio'r un egwyddorion ar gyfer myfyrwyr sy'n derbyn canlyniadau BTec yr haf hwn - gan ddefnyddio asesiadau athrawon yn hytrach na rhai allanol.
"Byddwn yn ailraddio BTecs i fynd i'r afael â phryderon am annhegwch mewn perthynas â Lefel A a TGAU a sicrhau nad oes unrhyw fyfyriwr BTec dan anfantais."
Wrth ymateb i'r canlyniadau TGAU, dywedodd Eithne Hughes, Cyfarwyddwr undeb ASCL Cymru:
"Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr a'u hathrawon. Mae'r amgylchiadau wedi bod yn anodd tu hwnt, ac mae'r genhedlaeth yma o bobl ifanc wedi diodde' ansicrwydd digynsail, ac rydym yn dymuno'r gorau iddyn nhw i'r dyfodol.
"Dychwelyd at raddau'r ganolfan asesu oedd yr ateb tecaf o dan yr amgylchiadau, ond rhaid i ni gael gwybod pam na chafodd y problemau gyda'r algorithm eu rhagweld.
"Yn y tymor hir, mae hyd wedi dangos system arholiadau sy'n gorbwysleisio ystadegau. Rhaid i ni wneud yn well."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020