Tro pedol arholiadau: 'Buddugoliaeth i fyfyrwyr Cymru'

  • Cyhoeddwyd
Protest myfyrwyr yn Mae Caerdydd ddydd Sul

Mae myfyrwyr wedi disgrifio'u "rhyddhad anferthol" ar ôl sicrhau'r graddau y bu'n "rhaid brwydro i'w cael".

Penderfynodd Llywodraeth Cymru ddydd Llun y bydd myfyrwyr Safon Uwch a TGAU yn derbyn graddau ar sail asesiadau athrawon, yn hytrach nag algorithm dadleuol.

Mae'n golygu felly bod modd i rai, oedd yn credu bod eu breuddwydion mewn deilchion, fwrw ymlaen â'u cynlluniau o ran addysg uwch.

Dywed prifysgolion eu bod "yn gweithio'n galed i osod ymgeiswyr ar eu cyrsiau dewisol".

Dagrau hapusrwydd

Cafodd Maia Gould o Lan-gors ger Aberhonddu siom aruthrol o sylweddoli fod ei breuddwyd o yrfa mewn meddygaeth yn y fantol ar ôl derbyn A*,B,C,D. Roedd athrawon yn Ysgol Uwchradd Crucywel yn disgwyl iddi gael A*, A, A, B.

Dywedodd fod cyhoeddiad ddydd Llun "yn fuddugoliaeth ddiamod i holl fyfyrwyr Cymru".

Disgrifiad o’r llun,

Mae Maia Gould yn gobeithio astudio meddygaeth yn Lerpwl

"Wnes i ddechrau llefen yn syth," meddai Maia, sy'n bwriadu astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Lerpwl. "'Sai'n credu rwy' erioed wedi bod mor hapus yn fy mywyd.

"Nid dim ond drostaf fi hyn, ond dros bawb. [Y graddau Safon Uwch] yw'r peth pwysicaf i'ch cael chi ar y camau nesaf o'r ysgol i'r brifysgol."

Ond ychwanegodd fod penderfyniadau anodd, o bosib, yn dal ar y gorwel, gan fod gymaint o lefydd ar gyrsiau prifysgol wedi llenwi.

"Croesi bysedd, ga'i le yn Lerpwl - eleni os gallen nhw, neu flwyddyn nesaf os bydd rhaid gohirio - neu lle eleni ym Mhrifysgol Southampton," meddai.

"Gynted ag y glywais y newyddion, roeddwn ar y ffôn gyda [Phrifysgol] Lerpwl, yn trafod y camau nesaf.

"Mae'n dal yn mynd i fod yn anodd i'r prifysgolion geisio gael yr holl lefydd ar gyfer yr holl fyfyrwyr."

Yn y cyfamser, mae Maia'n dathlu cael y graddau roedd wedi eu disgwyl.

"Sa i'n gwybod a ydw i wedi bod mor stressed yn fy mywyd. Agor y canlyniadau... gweld nad oeddwn nhw beth roeddwn ni angen. Dyw e ddim yn rywbeth bydde unrhyw un yn dymuno mynd trwyddo. Rwy'n teimlo gymaint o ryddhad."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Riley Mann yn gobeithio gallai fynd i'r brifysgol o'i ddewis nawr

Roedd Riley Mann o Gaerdydd yn disgwyl cael graddau A*, A, A ond yn hytrach fel gafodd B,B,C.

Torrodd ei galon wrth feddwl fod y freuddwyd o astudio ffiseg ym Mhrifysgol Bryste ar ben, ond mae bellach yn teimlo'n fwy gobeithiol.

"Rwy'n teimlo lawer gwell nag o'n i ddydd Iau," meddai.

"Mae'n edrych fel bod popeth yn mynd i'r cyfeiriad cywir a byddai'n mynd i'r brifysgol ble rwyf eisiau mynd iddo ac yn haeddu bod yna."

Mae prifysgolion yng Nghymru wedi croesawu'r cyhoeddiad a chanmol myfyrwyr am fod mor "wydn, ymroddgar a hyblyg mewn amgylchiadau heriol".

Maen nhw'n cynghori myfyrwyr i drafod yr opsiynau posib gan addo y bydd y sefydliadau'n "gwneud pob ymdrech... i sicrhau nad ydy prosesau eleni yn eu rhoi dan anfantais".