Coedwig gymunedol yn cynnig gobaith i hen bentref glofaol
- Cyhoeddwyd

Mae Ian Thomas o fenter Croeso i'n Coedwig yn gobeithio y bydd y cynllun yn creu cyfoeth yn lleol
Mae pentref yn y Rhondda yn gobeithio defnyddio darn o goedwig leol er budd y gymuned.
Mae 'prosiectau perchnogaeth gymunedol' eisoes yn boblogaidd yn Yr Alban, lle mae trigolion lleol yn cymryd cyfrifoldeb dros ddarn o dir ac yn ei ddefnyddio i gynhyrchu incwm i'r gymuned, trwy dyfu coed neu lysiau er enghraifft..
Nawr mae rhai o bobl Treherbert yn gobeithio rheoli darn o goedwig, 1.5 milltir sgwar, er mwyn datblygu'r cynllun perchnogaeth gymunedol cyntaf yng Nghymru.
Mae prosiect Skyline yn gobeithio gallu creu swyddi, tyfu coed ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy, a thyfu llysiau ar y safle yn y dyfodol. Mae'r grŵp hefyd yn awyddus i annog defnydd o'r goedwig ar gyfer addysg a hamddena.
Maen nhw wedi derbyn £250,000 o wahanol ffynonellau i ddatblygu'r syniad ymhellach, ac yn gobeithio denu grantiau pellach gan y Loteri Genedlaethol yn y dyfodol.
Dywedodd Lee Williams, un o wirfoddolwyr Skyline: "Ar ôl popeth yr ydym wedi bod drwyddo yn yr ardal yma, efo'r pyllau glo, diffyg gwaith a swyddi wedi cael eu cymryd oddi wrthym, byddai hyn yn rhywbeth y gallwn ei gadw a'i amddiffyn.
"Os yw pobl yn teimlo mai nhw sy'n berchen rhan ohono, fe wnawn nhw fwy i'w ddiogelu a'r gobaith yw y bydd yn tyfu."

Mae coedwigoedd yn amgylchynu llawer o hen gymunedau glofaol y Rhondda
Cafodd Skyline ei ffurfio gan gwmni ynni lleol, Green Valleys, a'r fenter gymdeithasol leol, Croeso i'n Coedwig, sy'n cynnal prosiectau iechyd a lles yno.

Cafodd ymgynghoriad ei gynnal efo pobl leol i weld beth oedd eu dymuniadau ar gyfer y fenter
Swyddi, tai fforddiadwy a chyfle i dyfu llysiau oedd y prif bwyntiau a godwyd gan bobl mewn ymgynghoriad am y prosiect perchnogaeth gymunedol.
Yn ôl Ian Thomas, cyfarwyddwr Croeso i'n Coedwig, nid oedd pobl leol yn cael llawer o fudd pan oedd coedwigoedd yn cael eu cwympo gan gwmniau o'r tu allan.
"Yr hyn yr ydym yn gynnig ydi newid yn y ffordd y mae'r goedwig yn cael ei rheoli," meddai.
"Efallai y byddwn yn cadw rhannau o goedwig, ond yn torri ambell i goeden er mwyn eu defnyddio ar gyfer prosiectau economaidd yn y gymuned, fel adeiladu tai.
"Dydyn ni ddim yn sôn am ailgreu'r diwydiant glo gyda 10,000 o swyddi, ond gallwn fod yn siarad am tua 100 i 200 o swyddi tymor-hir, diogel ac sy'n talu'n dda yma.
"Cadw arian yn y cymunedau yw'r hyn yr ydym yn gobeithio'i wneud yn y fan yma.
"O'r tu allan rydym yn cael ein gweld fel hen gymuned lofaol ddifreintiedig, [ond] mae gennym dirlun cyfoethog, cyfoeth o hanes diwylliannol, ac mae llawer o bobl yn cael bywydau da iawn yma, yn defnyddio'r adnoddau naturiol. Mae'n le gwych i fyw."

Mae Ian Thomas o Croeso i'n Coedwig yn cynnal gweithgareddau awyr agored ar gyfer pobl sy'n unig neu'n dioddef salwch
Mae'r fenter yn awyddus i ehangu tu hwnt i Dreherbert, a dywed rheolwr y prosiect, Melanie Newton, y gallai rhagor o gymunedau Cymru elwa o goedwigoedd yn eu hardaloedd hwy.
"Rydym wedi ein hamgylchynu gan goedwigoedd ond yn aml iawn nid ydym yn eu gweld nhw," meddai.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020