Ymgyrch i greu coedwig i ymestyn ar hyd a lled Cymru

  • Cyhoeddwyd
CoedwigFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae 19.4% o dir Cymru wedi'i orchuddio â choedwigoedd a choed

Bydd ymgais i greu coedwig genedlaethol i ymestyn ar hyd a lled Cymru yn cael ei lansio gan y Prif Weinidog yn ddiweddarach.

Dywedodd Mark Drakeford y byddai'r cynllun yn diogelu natur tra'n hybu twristiaeth.

Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys gwerth £15m o grantiau i gefnogi plannu coed.

Ond mae gwrthbleidiau a rhai elusennau amgylcheddol wedi rhybuddio bod Cymru ar ei hôl hi'n ddifrifol o ran targedau i ehangu coetiroedd.

Cerdded hyd y goedwig

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw creu "rhwydwaith ecolegol cysylltiedig", gan uno ardaloedd o goedwig sy'n bodoli'n barod drwy blannu rhai newydd.

Y syniad ydy y bydd pobl yn medru cerdded ar hyd y goedwig o un rhan o'r wlad i'r llall, yn dilyn esiampl Llwybr Arfordir Cymru, sy'n denu miliynau o ymwelwyr pob blwyddyn.

Does yna ddim map swyddogol eto - bydd cyfarfodydd a digwyddiadau'n cael eu cynnal dros y misoedd nesaf gyda busnesau, tirfeddianwyr a chymunedau i ddatblygu cynllun ar gyfer cyflawni'r prosiect.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd coedwigoedd sy'n bodoli'n barod yn cael eu huno drwy blannu rhai newydd

Ond ar ben £5m sydd wedi'i glustnodi yn barod yn y gyllideb ddiweddaraf, bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi gwerth £10m o grantiau newydd drwy gynllun Glastir i alluogi ffermwyr a rheolwyr tir i blannu coed.

"Er mwyn cenedlaethau'r dyfodol mae'n ddyletswydd arnom ni i ddiogelu natur rhag peryglon ein hinsawdd wrth iddi newid, ond bydd amgylchedd naturiol iach hefyd yn amddiffyn ein cymunedau rhag y peryglon rydyn ni ein hunain yn eu hwynebu," meddai Mr Drakeford.

Ychwanegodd bod y manteision yn cynnwys helpu atal llifogydd, gwella ansawdd aer, tynnu nwyon tŷ gwydr niweidiol o'r atmosffer, adfer pridd ar gyfer tyfu bwyd a darparu lloches ar gyfer bywyd gwyllt.

'Uchelgais heriol a hirdymor'

I lansio'r prosiect, fe fydd Mr Drakegord yn ymweld â Pharc Gwledig Ystâd y Gnoll yng Nghastell-nedd, lle mae Coed Cadw wrthi'n creu'r goedwig newydd fwyaf yn hanes yr elusen.

Bydd 150,000 o goed brodorol yn cael eu plannu dros y bum mlynedd nesaf, gan greu coedwig sydd yr un maint ag oddeutu 100 o gaeau rygbi.

Bydd y safle'n cael ei ddefnyddio ar gyfer rhan nesaf prosiect Plant! y llywodraeth, sy'n plannu coeden am bob plentyn sy'n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru.

Dywedodd Natalie Buttriss, pennaeth Coed Cadw bod yr elusen yn gobeithio y byddai'n "darparu lle anhygoel i bobl fwynhau ymarfer corff iach yn yr awyr agored", gan arwain at "amgylchedd sy'n fwy iach a gwydn hefyd".

Ffynhonnell y llun, Geohgraph
Disgrifiad o’r llun,

Bydd 150,000 o goed brodorol yn cael eu plannu ym Mharc Gwledig Ystâd y Gnoll dros y bum mlynedd nesaf

Yn ôl y gweinidog amgylchedd Lesley Griffiths, sy'n mynychu'r lansiad hefyd, bydd creu rhwydweithiau newydd o goedwig yn "uchelgais heriol a hirdymor".

"Dwi'n gwybod y bydd busnesau a chymunedau ac, yn benodol ein ffermwyr a'n coedwigwyr, am helpu i greu'r Goedwig Genedlaethol," meddai.

"Yn y flwyddyn nesaf byddwn yn cynnal trafodaethau helaeth er mwyn i ni allu llunio'r rhaglen mewn modd sy'n galluogi pawb i wneud cyfraniad."

Pryder amaethwyr

Er ei fod yn cydnabod y byddai ffermwyr yn croesawu buddsoddiad newydd, dywedodd Glyn Roberts, llywydd Undeb Amaethwyr Cymru na fyddai o blaid gweld coed yn cael eu plannu "ar raddfa fawr yng Nghymru".

Ychwanegodd y byddai'n cael "effaith niweidiol ddifrifol ar amaeth a bywyd cefn gwlad".

"Os ydych chi'n cael gwared ar agwedd amaethyddol y tir rydych yn cael gwared ag asgwrn cefn ein hardaloedd gwledig - sydd yn creu economi ac yn galluogi pobl i fyw yn yr ardaloedd hyn", meddai.

"Rhaid edrych ar y darlun ehangach a pheidio canolbwyntio ar un elfen pan rydym yn trafod mater cymhleth fel newid hinsawdd. Fel ffermwyr mae gennym ni gymaint mwy o ateb i'r broblem na mae pobl yn sylweddoli."

Cymru'n methu ei tharged

Mae'r gwrthbleidiau, yn ogystal â rhai elusennau amgylcheddol, wedi annog gweithredu cynt i blannu coed fel rhan o ymdrechion i daclo newid hinsawdd.

Mae pwyllgor deisebau'r cynulliad wedi bod yn trafod cyflwyniad gan Coed Cadw a Chyfeillion y Ddaear, sydd wedi'i lofnodi gan dros 4,300 o bobl, yn galw ar weinidogion i gynyddu targedau ar gyfer creu coedwigoedd newydd yng Nghymru i 5,000 hectar y flwyddyn.

Ar hyn o bryd mae'r llywodraeth yn anelu i blannu 2,000 hectar y flwyddyn, gan gynyddu i 4,000 hectar "mor gyflym â phosib".

Ond mae'r ffigyrau diweddaraf yn dangos bod Cymru ymhell ar ei hôl hi, gyda 525 hectar yn unig wedi'u plannu yn 2018-19.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y gobaith yw y bydd pobl yn medru cerdded ar hyd y goedwig o un rhan o'r wlad i'r llall

Mae'r corff sy'n cynghori'r llywodraeth ar y pwnc - Pwyllgor Newid Hinsawdd y DU - wedi galw am gynnydd sydyn a sylweddol mewn lefelau plannu coed os am gyrraedd y targedau cyfreithiol i dorri allyriadau tŷ gwydr erbyn 2050.

Dywedodd AC Plaid Cymru, Leanne Wood wrth y pwyllgor ei bod hi wedi'i "siomi" gan ddiffyg gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar "un o'r materion gwleidyddol mwyaf canolog o'n hamser".

"Ry'n ni wedi clywed lot am yr uchelgais a'r bwriad i blannu niferoedd mawr o goed ond ry'n ni'n siarad am wneud hynny dros gyfnod hir iawn - dyw hynny ddim yn [ymateb i] argyfwng - a ry'n ni mewn sefyllfa o argyfwng yn nhermau hinsawdd a llifogydd," meddai.

Beth yw'r ystadegau diweddaraf am goed yng Nghymru?

Roedd 'na 309,000 hectar o goedwig yng Nghymru ym mis Mawrth 2019, gan gynrychioli 14.9% o arwynebedd y wlad.

Mae 'na 92,700 hectar o goed y tu allan i fforestydd hefyd, yn bennaf ar dir amaethyddol, mewn trefi a dinasoedd neu ar hyd ffyrdd a rheilffyrdd.

Mae hyn yn golygu bod oddeutu 19.4% o dir Cymru wedi'i orchuddio â choedwigoedd a choed.

Y gred yw bod hyn yn amsugno cyfwerth ag 1.84 miliwn o dunelli o garbon deuocsid bob blwyddyn.

Mae coed hefyd yn helpu i hidlo llygredd niweidiol o'r aer; y gred ydy bod coedwigoedd Cymru wedi tynnu gwerth 16,211 o PM10 yn 2015.

Ffynhonnell: Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad Cenedlaethol.