Dechrau gwaith dylunio adnewyddu gorsaf brysuraf Cymru

  • Cyhoeddwyd
Llun artist cynnar o sut all orsaf Caerdydd Canolog edrychFfynhonnell y llun, Cardiff Capital Region
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist cynnar o sut all orsaf Caerdydd Canolog edrych

Mae gwaith dylunio wedi dechrau fel rhan o gynllun gwerth £113m i uwchraddio gorsaf reilffordd brysuraf Cymru.

Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth y DU, Grant Shapps wedi rhyddhau £5.8m i Drafnidiaeth Cymru ar gyfer adnewyddu gorsaf Caerdydd Ganolog.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys gwella'r mynediad a'r capasiti, a sicrhau fod platfformau'n fwy addas ar gyfer trenau hirach.

Roedd y cyhoeddiad yn rhan o becyn ar gyfer rheilffyrdd Cymru, ond mae Llywodraeth Cymru'n galw am fwy o gyllid i fynd i'r afael â "degawdau o danfuddsoddi".

Cyflymu teithiau yn y de a'r gogledd

Mae'r arian ar gyfer Caerdydd Canolog yn rhan o'r £58m a gyhoeddwyd ar gyfer y cynllun y llynedd.

Cyhoeddodd Mr Shapps hefyd fod £3m ar gyfer uwchraddio signalau ar Lein y Cambrian, sydd i fod i'w gwblhau erbyn 2023.

Mae bron £2m hefyd wedi'i neilltuo ar gyfer "cymal nesaf gwaith datblygu" cynigion i gyflymu teithiau yng ngogledd a de Cymru.

Mae'r cynlluniau, sy'n archwilio'r posibilrwydd o wella traciau a chyflwyno gwasanaethau newydd, yn ymwneud â theithiau rhwng Caerdydd ac Abertawe, Cyffordd Llandudno a Chaer, a Thwnnel Hafren a Chaerdydd.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn gwneud "cynnydd sylweddol" o ran uwchraddio rheilffyrdd Cymru, gan restru gwerth £343m o fuddsoddiadau diweddar.

Mae'r swm yn cynnwys prosiectau sydd, fel cynllun Caerdydd Canolog, eisoes wedi'u cyhoeddi:

  • £3.9m ar wella gorsaf Bow Street erbyn 2021;

  • £2.9m i wella mynediad yn Nhregatwg, ym Mro Morgannwg - gwaith sydd bron ar ben; a

  • £76m i drydaneiddio Twnnel Hafren.

Dywedwyd yn 2016 mai £10m oedd cost trydaneiddio'r twnnel ac fe wnaeth amodau hallt a rhwd achosi trafferthion ac oedi.

Cafodd y cynllun ei gwblhau ym Mehefin, sy'n golygu gall trenau trydanol bellach deithio o Gaerdydd i Lundain.

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn rhoi £196m wrth drosglwyddo rhwydwaith rheilffyrdd y Cymoedd i Drafnidiaeth Cymru, a ddigwyddodd ym Mawrth - rhwydwaith sy'n sail i gynllun Metro De Cymru.

Mae'r swm yn uwch na'r ffigwr tybiedig hyd yn hyn - £125m - o ran cyfraniad Llywodraeth San Steffan i'r cynllun.

Ffynhonnell y llun, Graham Hogg/Geograph
Disgrifiad o’r llun,

Mae gorsaf Caerdydd Canolol yn cynnwys neuadd o garreg Portland a goleuadau Art Deco

Dywedodd Mr Shapps eu bod yn sicrhau "ystod o welliannau... ar draws Cymru, o welliannau seilwaith anferthol i greu gorsafoedd newydd, modern".

Mae'r gwelliannau hyn, ychwanegodd, "yn hanfodol i sicrhau teithiau gwell, cyflymach a mwy hwylus i deithwyr o fewn, i ac o Gymru".

Cafodd gorsaf bresennol Caerdydd Canolog, sy'n adeilad Gradd II, ei chodi yn y 1930au cynnar.

Mae disgwyl i awdurdodau lleol Rhanbarth Dinas Caerdydd gyfrannu £40m at y cynllun adnewyddu £113m, ac mae Trafnidiaeth Cymru'n buddsoddi £15m.

Y gobaith yw i'r gwaith ddechrau yn 2022, ond mae hynny'n ddibynnol ar ganlyniad y gwaith dylunio a datblygu.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r cyllid yma yn gam i'r cyfeiriad cywir ond mae angen llawer mwy i ddal i fyny â gwariant ar seilwaith rheilffyrdd Lloegr.

"Cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw seilwaith y rheilffyrdd ac rydym wedi amlygu'n glir yr angen brys i wneud yn iawn am ddegawdau o danfuddsoddi yng Nghymru.

"Mae hynny'n cynnwys canslo prosiectau allweddol, fel trydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe."