Pro14: Scarlets 32-12 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Fe sgoriodd Steff Evans ddau gais yn erbyn y Gleision ddydd SadwrnFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Fe sgoriodd Steff Evans ddau gais yn erbyn y Gleision ddydd Sadwrn

Roedd yna fuddugoliaeth i'r Scarlets adre brynhawn Sadwrn yn erbyn y Gleision ond doedd yna ddim torf i gymeradwyo y naill dîm na'r llall.

Petai yna dorf mi fyddent wedi cael gwledd wrth i'r tîm cartref, yn bennaf, sgorio un cais ar ôl y llall ond roedd yna ddau gais i'r ymwelwyr hefyd.

Ed Kennedy a sgoriodd y cais cyntaf i'r Scarlets ac yna fe ddaeth dau gais gan Steff Evans ac fe groesodd Sam Louisi a Johnny McNicholl hefyd yn llwyddiannus gyda Leigh Halfpenny yn sgorio gweddill y pwyntiau.

Yn goron ar y ceisiau roedd yna bwynt bonws i'r Scarlets.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd cais Matthew Morgan yn yr ail hanner obaith i'r Gleision

Josh Adams a Matthew Morgan sgoriodd geisiau'r Gleision gyda Jarrod Evans yn trosi'n llwyddiannus wedi'r cais cyntaf.

Mae gemau cynghrair y Pro14 yn ôl wedi seibiant o bum mis oherwydd argyfwng coronafeirws ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd timau o'r un genedl yn wynebu ei gilydd mewn gemau darbi cartref ac oddi cartref.

Fe ddaw'r tymor i ben gyda rownd gynderfynol a rownd derfynol.

Y timau fydd yn gorffen yn y ddau safle uchaf yn Adrannau A a B fydd yn chwarae yn y rownd gynderfynol.