Rygbi Pro14 yn ôl: 'Hir yw pob aros'
- Cyhoeddwyd
![Liam Williams, Nick Tompkins, Josh Adams, Rhys Webb](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/11A72/production/_114060327_forgriff-1.jpg)
Barod i fynd: Liam Williams, Nick Tompkins, Josh Adams, Rhys Webb
"Hir pob aros". Ie'r hen gneuen honno fydd yn cael ei hadrodd gan gefnogwyr rygbi Cymru (ac ambell sylwebydd mae'n siŵr!) y penwythnos hwn.
Mae natur y gêm yn golygu ei bod hi'n anochel y byddai rygbi gyda'r ola o'r campau proffesiynol i ddychwelyd.
Ond o'r diwedd mae'r Pro14 yn dilyn esiampl Seland Newydd, Awstralia a Lloegr.
Efallai mai cyfyngiadau'r Covid oedd wrth wraidd y trefniadau, ond mewn gwirionedd does 'na ddim gwell ffordd o groesawu'r gystadleuaeth nôl na chyfres o gemau darbi - er mor rhyfedd bydd hi i chwarae'r gemau hynny mewn meysydd gwag.
Parc y Scarlets fydd y lleoliad cynta' yng Nghymru i gynnal gêm o rygbi ers y cyfnod clo.
Ond yn anffodus i'r Scarlets mae cyfyngiadau'r Covid yn golygu mai dim ond dau dîm o bob adran fydd yn mynd drwodd i'r gemau ail-gyfle yn hytrach na'r tri arferol.
![Parc y Scarlets](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/1699D/production/_114037529_gettyimages-1208581787.jpg)
Fe gafodd Parc y Scarlets ei droi'n ysbyty yn ystod cyfnod y pandemig
O ganlyniad mae'n rhaid iddyn nhw ennill eu dwy gêm nhw gyda phwyntiau bonws ac maen nhw angen i Munster gasglu un pwynt yn unig o'u dwy gêm nhw.
Hyd yn oed yn y dyddiau gwallgo hyn dyw hynny ddim yn mynd i ddigwydd!
Ond gyda gêm 8-ola Ewropeaidd i ddod yn erbyn Toulon mae'r gemau hyn y hollbwysig ym mharatoadau'r Scarlets sy'n dechrau ar gyfnod newydd arall.
Mae'r Kiwi carismataidd Brad Mooar wedi dychwelyd i feysydd cymharol ddi-Govid Christchurch, gyda'i gyd-wladwr Glenn Delaney yn ceisio cynnal y fflam.
Byddan nhw'n gweld ishe Kiwi arall, Hadleigh Parkes, ond bydd Tyler Morgan a Johnny Williams yn brwydro i lanw'i sgidiau. Mae'r digymar Liam Williams nôl hefyd felly mae'r disgwyliadau mor uchel ag arfer.
Ymarfer yng Ngerddi Soffia
Eu gwrthwynebwyr cynta fydd y Gleision, sydd wedi cael haf tawel.
Mae'u sefyllfa ariannol wedi'i gweld nhw'n gadael eu canolfan yn y Fro a pharatoi yng Ngerddi Soffia a hyd yn oed canolfan les gyhoeddus yn ardal Pentwyn yn y brifddinas.
![Prop Cymru, Dillon Lewis yn rhoi tymheredd cyn ymarfer Gleision Caerdydd](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/5722/production/_114060322_cdf_100720_bluestraining08.jpg)
Prop Cymru, Dillon Lewis yn rhoi ei dymheredd cyn ymarfer Gleision Caerdydd
Mwy o ergyd na cholli'u cartref ymarfer yw ymddeoliad yr wythwr bytholwyrdd Nick Williams.
Yn ceisio llanw'r bwlch bydd Sam Moore, a gynrychiolodd Loegr dan-20 ond sy'n gobeithio dilyn ôl traed ei dad, Steve a'i ewythr, Andy i dîm llawn Cymru.
Nôl i'w gwreiddiau hefyd daw Rhys Carre a Cory Hill, a gyda Willis Halaholo yn holliach ac ar dân i brofi ei fod e'n haeddu'r cam lan i lefel ryngwladol ar ôl anaf anffodus, mae golwg mwy cytbwys ar uned Parc yr Arfau.
![Alun Wyn Jones](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/5C15/production/_114037532_gettyimages-1211344744.jpg)
Mae'r bytholwyrdd Alun Wyn Jones yn barod am dymor arall wedi misoedd o seibiant
Bydd y Gweilch yn falch i weld diwedd ar dymor gwbwl drychinebus.
Ond bydd yr hyfforddwr hirben newydd, Toby Booth a'i brofiad yng nghynghrair gystadleuol Lloegr yn dod ag agwedd ffres ond bragmataidd i Stadiwm Liberty.
Bydd y saib gorfodol wedi gwneud lles i debyg Alun Wyn Jones a Justin Tipuric sydd ddim yn gwybod sut mae rhoi llai na chant y cant beth bynnag y sefyllfa.
Mae'r mab afradlon Rhys Webb nôl o borfeydd brasach Toulon, ac er nad oedd llo pasgedig i'w gyfarch, mae'n braf gweld un o'r hoff feibion eraill James Hook yn cadw'r cysylltiad teuluol drwy ymuno â'r tîm hyfforddi.
![Canolwyr Cymru, Jamie Roberts a Nick Tompkins yn ymarfer gyda'r Dreigiau](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/7E32/production/_114060323_cdf_110820_dragonstraining01.jpg)
Canolwyr Cymru, Jamie Roberts a Nick Tompkins yn ymarfer gyda'r Dreigiau
Does neb wedi denu mwy o sylw am eu gweithredoedd oddi ar y cae na'r Dreigiau.
Eiddigedd, atgasedd, anfodlonrwydd, ffafriaeth - mae'r gwaywffyn wedi bod yn hedfan at y rhanbarth sy'n rhannol dan berchnogaeth yr Undeb.
Ond mae Dean Ryan yn meddu ar groen rhino ac mae ganddo'r cymeriad a'r profiad i ddelio gyda'r cyfan ddaw i'w rhan.
Mae'r Dreigiau, fel y Scarlets, â'i golygon ar Ewrop i ddechrau ond y nod yn y pen draw bydd codi'r safon yn gyson i gyfiawnhau arwyddo Jamie Roberts, Nick Tompkins, Jonah Holmes a Joe Maksymiw i fynd gyda'r chwaraewyr ryngwladol arwyddwyd y llynedd.
Erbyn diwedd y tymor bydd y Dreigiau (ac ambell sylwebydd mae'n siŵr wrth edrych ar y tymor yn gyffredinol!) yn adrodd yr hen gneuen honno "yr olaf a fyddant flaenaf".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd12 Mawrth 2020
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020