Rhybudd am wyntoedd cryfion i Gymru ddydd Mawrth
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd am wyntoedd cryfion ar gyfer rhannau helaeth o Gymru ddydd Mawrth.
Fe allai'r gwynt, sydd o ganlyniad i Storm Francis, achosi trafferthion i deithwyr ac amharu ar y cyflenwad trydan, gyda'r perygl o goed yn disgyn mewn mannau.
Mae rhybudd melyn am law trwm ar gyfer siroedd Ceredigion, Conwy, Dinbych, Y Fflint, Gwynedd, Môn, Powys a Wrecsam wedi ei gyhoeddi hefyd.
Mae disgwyl i'r glaw trwm ddisgyn rhwng hanner nos ar nos Fawrth a 06:00 fore dydd Mercher.
Bydd y gwynt yn effeithio ar dde orllewin y wlad ganol bore, cyn symud i gyfeiriad y dwyrain a gweddill y wlad yn ystod y prynhawn a gyda'r nos.
Fe all hyrddio hyd at 70 m.y.a. ar yr arfordir a'r bryniau, gyda gwyntoedd o 55-60 m.y.a. yn gyffredinol. Bydd glaw trwm yn disgyn mewn mannau hefyd.
Er nad yw gwyntoedd o'r cryfder yma'n anarferol yn ystod misoedd y gaeaf, mae'n anarferol eu profi ym mis Awst.
Bydd y tywydd garw yn clirio erbyn bore dydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Awst 2020
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd10 Awst 2020