Galw ar athrawon i osod graddau yn 2021 unwaith eto

  • Cyhoeddwyd
disgyblion

Mae yna alwadau ar i ganlyniadau TGAU a Safon Uwch y flwyddyn nesaf gael eu seilio eto ar asesiadau athrawon.

Daw hyn wedi ffrae ynglŷn â sut y gosodwyd canlyniadau Safon Uwch eleni yn dilyn canslo arholiadau oherwydd y pandemig coronafeirws.

Fe benderfynodd gweinidogion yr wythnos ddiwethaf i ddefnyddio amcangyfrifon athrawon yn lle.

Dywedodd Plaid Cymru na ddylai myfyrwyr orfod dibynnu ar arholiadau yr haf nesaf.

Ond rhybuddiodd Llywodraeth Cymru y gall dibynnu ar asesiadau yn unig ymgorffori bias.

Y mis hwn rhoddwyd canlyniadau Safon Uwch trwy broses safoni i ddechrau, gyda 42% o raddau yn cael eu hisraddio.

Ar ôl ymateb chwyrn, cefnodd Llywodraeth Cymru ar y canlyniadau a dyfarnu graddau gafodd eu hasesu gan ysgolion a cholegau'r myfyrwyr.

Ymddiheurodd gweinidog addysg Cymru, Kirsty Williams yn ddiweddarach.

'Ffiasgo'

Galwodd Siân Gwenllian, llefarydd addysg Plaid Cymru, am "sicrwydd" y bydd graddau Safon Uwch y flwyddyn nesaf yn seiliedig ar asesiadau athrawon, "yn hytrach na bod myfyrwyr yn gorfod dibynnu ar berfformiad arholiad yn dilyn taith addysgol mor aflonydd", gydag ymgeiswyr o bosib heb ganlyniadau AS i ddisgyn yn ôl arnyn nhw.

Galwodd Ms Gwenllian am ddiwygio'r ffordd y mae myfyrwyr yn cael eu hasesu, wrth baratoi ar gyfer cwricwlwm newydd Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Bu disgyblion yn protestio tu allan i'r Senedd yn dilyn y ffrae canlyniadau Safon Uwch

Gan ddyfynnu sylwadau gan Ms Williams y bydd y cwricwlwm yn helpu myfyrwyr i esblygu i fod yn "feddylwyr creadigol a beirniadol", dywedodd Ms Gwenllian: "Fy mhryder ydy na fydd y datgysylltiad yma rhwng addysgu ac asesu ond yn ehangu pan fydd y cwricwlwm newydd yn cael ei basio.

"Waeth pa mor flaengar ydy cwricwlwm newydd, tra bod Cymru yn glynu wrth ffurf hen ffasiwn o asesu arholiad, bydd yr un anghydraddoldebau a amlygwyd mor erchyll yn ystod y ffiasgo Safon Uwch yn parhau i hongian dros bennau ein disgyblion."

Addawodd y gweinidog addysg ddatganiad pellach yr wythnos ddiwethaf ar adolygiad annibynnol yn dilyn canslo arholiadau eleni.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae unrhyw gynnig i ddileu arholiadau yn peryglu rhoi mwy o bwysau ar asesiad athrawon ac athrawon.

"Mae astudiaethau gan Goleg Prifysgol Llundain ac eraill yn dangos bod dibynnu'n llwyr ar asesu athrawon yn peryglu rhagfarn a rhagfarn ac ymestyn y bwlch anfantais."