Mark Drakeford yn amddiffyn proses arholiadau Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae'r prif weinidog Mark Drakeford wedi amddiffyn y broses safoni canlyniadau arholiadau Safon Uwch, yn dilyn tro pedol Llywodraeth Cymru brynhawn dydd Llun.
Dywedodd fod y penderfyniad wedi ei wneud i hepgor y broses safoni am eu bod "wedi clywed yn gynnar yn y dydd fod pethau'n symud mewn mannau eraill".
Bydd y system ddadleuol sydd wedi dyfarnu canlyniadau eleni yn cael ei hepgor, ac fe fydd myfyrwyr yn derbyn graddau ar sail asesiadau athrawon.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi'u cyhuddo o "gefnu" ar rai disgyblion ar ôl i 42% o'r graddau Safon Uwch gael eu hisraddio gan archwilwyr arholiadau allanol, cyn y tro pedol.
'Penderfynoldeb' i sicrhau tegwch
"Mae pob penderfyniad yr ydym wedi ei wneud yn seiliedig ar ein penderfynoldeb i sicrhau na fyddant (myfyrwyr) o dan anfantais o achos penderfyniadau sydd yn cael eu gwneud mewn rhannau eraill o'r DU," meddai Mr Drakeford.
"Roeddem yn benderfynol y byddem yn cael cae chwarae gwastad lle nad oedd yn pobl ifanc dan anfantais o gymharu gydag eraill."
Pan ofynnwyd iddo os oedd yr amser wedi dod i ymddiheuro i fyfyrwyr am y hyn oedd wedi digwydd, dywedodd ei fod yn ddrwg ganddo "dros y bobl ifanc hynny oedd wedi gorfod byw trwy gyfnod mor ansicr".

Myfyrwyr yn ystod protest yn erbyn y dull o safoni arholiadau ym Mae Caerdydd ddydd Sul
Ond roedd yn mynnu fod y system o safoni graddau yn "decach" na rhai mewn mannau eraill o'r DU - "system decach, system sydd wedi ei seilio mwy ar dystiolaeth".
"Byddai'r system wedi cynhyrchu'r canlyniadau Lefel A gorau erioed, gyda mwy o bobl ifanc yn mynd i'r brifysgol yng Nghymru nag erioed o'r blaen, mwy o bobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig yn mynd i brifysgolion, ac nid ydym yn clywed llawer ganddyn nhw wrth gwrs."
Ychwanegodd: "Rwyf yn deall fod rhai pobl yn teimlo nad oedd y system wedi eu trin yn deg, ond mae eu pryderon wedi eu rhoi o'r neilltu nawr."
Amddiffyn y drefn
Roedd arweinydd y Blaid Lafur drwy Brydain wedi cyhuddo llywodraeth y DU o fod yn anghymwys wrth drin y sefyllfa arholiadau. Dywed Mark Drakeford nad dyma'r achos gyda'i lywodraeth ei hun.
"Rydym wedi cael system yr wyf yn barod i'w hamddiffyn," meddai.

Roedd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams yng Ngholeg Merthyr wrth i ddisgyblion gasglu eu canlyniadau ddydd Iau
Pan ofynnwyd iddo os dylai Kirsty Williams ymddiswyddo, fe ychwanegodd: "Rwy'n credu fod Kirsty Williams wedi bod yn weinidog addysg gwych.
"Ac rwy'n meddwl y bydd ei record o'r bum mlynedd hon yn dangos y gwahaniaeth mae hi wedi ei wneud i fywydau pobl ifanc yng Nghymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Awst 2020
- Cyhoeddwyd14 Awst 2020
- Cyhoeddwyd13 Awst 2020
- Cyhoeddwyd13 Awst 2020