Ymchwilio i 'olion deinosor' mewn craig ar draeth
- Cyhoeddwyd
Mae olion traed y credir iddyn nhw gael eu gwneud gan ddeinosor yn cael eu hymchwilio gan y Natural History Museum.
Daeth yr olion i'r fei ar graig ar draeth Penarth, Bro Morgannwg.
Eisoes mae olion cyn hanesyddol wedi eu canfod ar yr un darn o'r arfordir.
Os fydd yr olion newydd yn cael eu cadarnhau, dywed arbenigwyr y byddai'r darganfyddiad yn un "cyffrous tu hwnt".
Dyma fyddai'r trydydd casgliad o olion deinosor yng Nghymru, ac fe fyddai'n hwb i dreftadaeth archeolegol yr ardal, yn ôl Cindy Howells o Amgueddfa Cymru.
"Os mai olion traed deinosor ydyn nhw, mae'n mynd i fod yn hynod gyffrous," meddai.
"Mae'r ychydig olion a welson ni rai blynyddoedd yn ôl wedi cynyddu mewn nifer, ac yn wir mae mwy wedi dod i'r golwg na phan welson ni nhw gyntaf rhai wythnosau nôl.
"Mae'r rhai newydd yn edrych yn well. Maen nhw'n fwy tebyg i olion deinosor."
Bydd y broses i wirio tarddiad yr olion yn canolbwyntio ar sawl maen prawf gan ymchwilwyr yr amgueddfa.
Ond un o'r prif arwyddion fyddai'n dangos bod yr olion yn rhai deinosor go iawn fyddai patrwm yr olion.
Ychwanegodd Ms Howells: "Os na fedrwch chi weld siâp pendant, gallwch chi yn aml chwilio am batrwm... er enghraifft fe allwch chi gael olion traed mewn patrwm pendant o dde-chwith ac yn y blaen.
"Fe fyddwch chi hefyd yn edrych ar faint a siâp y tyllau, a hefyd os oes mwd neu glai wedi codi ar ymyl yr olion [fyddai'n awgrymu anifail trwm yn cerdded mewn clai."
Mae'r ardal yn un lle gallai rhywun ddisgwyl darganfyddiad o'r fath, medd y daearegwr John Nudds o Brifysgol Manceinion, oherwydd presenoldeb clogwyni sy'n erydu o'r cyfnod Jurassig.
"Mae nifer enfawr o ffosiliau," meddai.
"Bobman ar y traeth ry'ch chi'n siŵr o ddod o hyd i ddarnau o graig Jurassig, ac mae ffosiliau yno mewn bron bob darn hefyd.
"Mae'n rhaid bod yna fwy, ac fe ddown nhw i'r fei rhyw ddydd."
Nid oedd y Natural History Museum am wneud sylw ar yr ymchwil ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2016
- Cyhoeddwyd26 Awst 2015