Pro14: Dreigiau 20-41 Scarlets

  • Cyhoeddwyd
CaisFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Llwyddodd y Scarlets i gadw eu gobeithion am le yn gêm gyn-derfynol y Pro14 yn fyw gyda buddugoliaeth nodedig a phwynt bonws dros y Dreigiau brynhawn Sadwrn.

Fe ddaeth naw cais i gyd, a buddugoliaeth gyfforddus i'r Scarlets yn y pen draw ar Rodney Parade.

Hon oedd buddugoliaeth gyntaf i'r dynion yn y crysau cochion ar y cae yma ers 2011.

Mae'r fuddugoliaeth yn golygu fod y clwb yn esgyn i'r ail safle uwchben Munster yng Nghynghrair B.

Bydd angen i Munster sicrhau dau bwynt yn erbyn Connacht ddydd Sul i gipio eu lle yn y gêm gyn-derfynol yn erbyn Leinster yn Nulyn.

Daeth ceisiau'r Scarlets gan Samson Lee, Steff Evans, James Davies, Johnny McNicholl, Tom Rogers a Dane Blacker, gyda Dan Jones yn ychwanegu 11 pwynt.

Jared Rosser, Taine Basham a Adam Warren oedd yn gyfrifol am geisiau'r Dreigiau, mewn gêm fywiog a chyffrous.

Roedd y fuddugoliaeth yn dod ar ddiwrnod arbennig i fachwr Cymru Ken Owens - fe ddathlodd garreg filltir gofiadwy ar ei 250fed ymddangosiad i'r clwb o dre'r sosban.

Roedd Owens yn un o chwe newid i'r garfan, gyda'r cefnwr Angus O'Brien, y mewnwr Kieran Hardy, Jake Ball yn yr ail reng a Sione Kalamafoni a James Davies yn hawlio eu lle.

Hon oedd gêm gyntaf Kalamafoni, y chwaraewr rhyngwladol o Tonga i'r Scarlets ar ôl cyrraedd o Gaerlŷr.

Dreigiau: Will Talbot-Davies; Jared Rosser, Adam Warren, Nick Tompkins, Ashton Hewitt; Sam Davies, Rhodri Williams (capten); Josh Reynolds, Elliot Dee, Chris Coleman, Max Williams, Matthew Screech, Aaron Wainwright, Taine Basham, Harrison Keddie.

Eilyddion: Ellis Shipp, Conor Maguire, Leon Brown, Joe Maksymiw, Huw Taylor, Luke Baldwin, Arwel Robson, Jack Dixon.

Scarlets: Angus O'Brien; Johnny McNicholl, Steff Hughes, Johnny Williams, Steff Evans; Dan Jones, Kieran Hardy; Wyn Jones, Ken Owens (capten), Samson Lee, Jake Ball, Lewis Rawlins, Ed Kennedy, James Davies, Sione Kalamafoni.

Eilyddion: Ryan Elias, Phil Price, Javan Sebastian, Josh Helps, Josh Macleod, Dane Blacker, Paul Asquith, Tom Rogers.