Y Bala i wynebu Standard Liege yng Nghynghrair Europa
- Cyhoeddwyd
Bydd Y Bala yn wynebu Standard Liege o Wlad Belg yn ail rownd ragbrofol Cynghrair Europa fis nesaf.
Mae hi'n bosib y bydd y gêm - y tro cyntaf yn hanes y clwb iddyn nhw gyrraedd y rownd yma - yn cael ei chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Bydd Cei Connah yn herio Dinamo Tbilisi o Georgia ac mae lleoliad y gêm honno hefyd i'w chadarnhau.
Bydd Y Seintiau Newydd oddi cartref yn erbyn B36 Tórshavn o Ynysoedd Y Ffaro.
Curodd Y Seintiau Tórshavn yn rownd ragbrofol gyntaf Cynghrair Y Pencampwyr bum mlynedd yn ôl.
Bydd y gemau un cymal yn cael eu cynnal nos Iau 17 Medi.