Sbwriel ymwelwyr ger Llyn Padarn yn brawychu pobl leol

  • Cyhoeddwyd
Canran fach o'r sbwriel gafodd ei gasglu yn Llanberis wythnos yma
Disgrifiad o’r llun,

Canran fach o'r sbwriel gafodd ei gasglu yn Llanberis wythnos yma

Mae 'na bryder cynyddol ym mhentref Llanberis ynglŷn â faint o sbwriel sy'n cael ei adael gan ymwelwyr.

Yn ôl nifer o'r trigolion, mae mwy o bobl nag erioed wedi heidio i'r pentref yn ystod yr wythnosau diwethaf, a mae hynny wedi achosi nifer o broblemau.

Cafodd nifer o bobl y cylch eu brawychu wedi'r penwythnos ar ôl gweld y llanast adawyd gan bobl fu'n gwersylla ar Gae'r Ddôl ger Llyn Padarn.

Mae Eric Baylis yn un o dîm o wirfoddolwyr sy'n casglu sbwriel o gwmpas y pentref pob wythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Mae biniau'n llawn ac mae pobl yn gadael eu sbwriel wrth eu hymyl, medd Eric Baylis

"Mae o lot gwaeth eleni," meddai. "Mae o'n le mor boblogaidd."

Mae o'n teimlo fod angen mwy o finiau sbwriel, a dylid cadw toiledau cyhoeddus yn agored yn hirach er mwyn lleddfu'r broblem.

Yn ôl Emlyn Baylis o Grŵp Datblygu Llanberis, mae'r pentref yn falch o weld twristiaid.

Ond mae'n dweud fod yn rhaid sicrhau fod economi'r cylch yn elwa, a na ddylai ymwelwyr gael aros mewn faniau dros nos yn rhad ac am ddim yn ardal y 'lagoons' ger y llyn.

"Mi ddyla'r lagoons fod werth ffortiwn i Lanberis," meddai. "Mae o fyny i'r cyngor i wneud eu gwaith yn iawn."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ardal sy'n cael ei nabod fel y 'lagoons' yn aml yn brysur

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod yn cadw golwg ar y sefyllfa yn Llanberis a'u bod yn gwagio biniau sbwriel yn rheolaidd

"Yn ogystal, dylai'r rhai sy'n ymweld â'r sir mewn cartrefi symudol neu garafanau, neu unigolion sy'n bwriadu gwersylla, sicrhau eu bod yn gwneud trefniadau i aros mewn safleoedd carafanau a gwersylla trwyddedig cyn iddynt deithio," meddai llefarydd.