Pobl ardal Dinas Mawddwy i elwa o fand eang cyflym iawn
- Cyhoeddwyd
Ar ôl wyth mlynedd o ymgyrchu bydd 70 o gartrefi a busnesau yn ardaloedd gwledig Llanymawddwy a Chwm Cywarch yng Ngwynedd yn cael eu cysylltu hefo band eang cyflym iawn gan Openreach.
Mae rhai yn yr ardal ger Dinas Mawddwy wedi cael eu cysylltu yn barod a bydd mwy dros yr wythnosau nesaf.
Mae wedi bod yn frwydr hir iawn ac un sy'n edrych ymlaen yn fawr i gael band eang cyflym yn y dyfodol agos ydy Lisa Roberts, sy'n ffermio fferm Pennant hefo'i gŵr Sion.
"Mi wnaiff wahaniaeth mawr," meddai.
"Ar y funud 'de ni'n ddibynnol ar y we drwy loeren felly'n amlwg mae'r cyflymdra yn dibynnu ar y tywydd ac ar y funud 'de ni'n cael cyflymder isel iawn.
"Mi wnaiff o fywyd yn haws, 'de ni'n dibynnu ar y we rŵan am gymaint o bethe ar gyfer y ffarm, mae gennym ni fythynnod gwyliau.
"Dwi'n dychwelyd i'r gwaith rŵan a gweithio o adref felly mae'n hanfodol i'n bywyd bob dydd ni yma."
Daeth y gymuned wledig yn ne Gwynedd at ei gilydd i gydweithio er mwyn hel yr arian angenrheidiol.
Gwnaed hyn drwy dalebau gwerth rhyw £100,000 gan yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon a chyfrannodd Llywodraeth Cymru arian hefyd yn ogystal â chwmni Openreach.
I ddod â band eang cyflym iawn i'r ardal bu'n rhaid i Openreach osod 21 cilomedr o geblau ffibr o'r gyfrinfa yn Nolgellau.
"Mae hwn wedi bod yn sialens beirianyddol enfawr i'n peirianwyr lleol," meddai Connie Dixon, cyfarwyddwr Partneriaeth Openreach yng Nghymru.
"Ond trwy ddarparu band eang cyflym iawn i gymuned Llanymawddwy mi rydyn ni'n pwysleisio ein bwriad i wneud band eang cyflym iawn ar gael i gymaint o bobl a phosib ar draws Cymru gan gynnwys yr ardaloedd sy'n anodd eu cyrraedd."
Yn ôl y cynghorydd sir lleol John Pughe Roberts mae cael band eang cyflym i'r ardal yn benllanw blynyddoedd o waith.
Dywedodd y bydd y datblygiad o fudd mawr i bobl leol a busnesau'r ardal yn ogystal â'r genhedlaeth ifanc o ran addysg a'r economi.
"Mae o'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i fusnesau lleol," meddai.
"Mae 'na un yn cyfieithu i wahanol gwmnïau ac ati ac mae rhai eraill yn cadw tai haf, wrth gwrs bydd y rheiny yn gallu gwneud popeth ar-lein."
Ychwanegodd y bydd cymunedau eraill hefyd yn gallu elwa ar gynllun o'r fath gydag ychydig o ymdrech.
"Unrhyw gymuned sydd hebddo fo rŵan cerwch amdano fo," meddai.
"Os ydach chi isio fo mae 'na ffordd i gael pob peth ond rhaid i chi weithio'n galed."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd3 Medi 2020
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020