Gall 'technoleg clyfar' helpu cymunedau gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae gan y defnydd o dechnoleg clyfar y potensial i hybu cymunedau gwledig, yn ôl astudiaeth newydd a gomisiynwyd gan gwmni BT.
Fe ddywed yr adroddiad y gallai dyfeisiadau sy'n cysylltu â'i gilydd drwy'r we fod o gymorth mawr i feysydd fel amaethyddiaeth a thwristiaeth yng Nghymru.
Ond mae'r astudiaeth yn pwysleisio y gall hyn ond digwydd os ddaw cefnogaeth i'r rhai sy'n mabwysiadu'r dechnoleg yma yn gynnar, a bod buddsoddiad mewn band eang cyflym a symudol mewn ardaloedd cefn gwlad.
Wrth drafod amaeth mae'r adroddiad yn dweud sut y mae dyfeisiadau synhwyro'n cael eu defnyddio eisoes mewn profion yng Ngymru i ddangos i ffermwyr sut y gallan nhw olrhain a rheoli eu stoc o bell, gan helpu i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd.
O ran twristiaeth, mae chwyldro wedi bod yn y defnydd o dechnoleg digidol dros y blynyddoedd diweddar, gyda ffonau symudol, gwasanaethau mapio ac apiau eraill yn trawsnewid y modd y mae ymwelwyr yn ymwneud gyda lleoliadau i dwristiaid.
Ymhlith y sefydliadau busnes amaeth a thwristiaeth sy'n cael eu nodi yn yr adroddiad mae:
Fferm Glynllifon, Caernarfon (Grŵp Llandrillo Menai): Defnyddio dyfeisiadau cysylltiol i fonitro'r tymheredd mewn oergelloedd lle mae brechlynnau'n cael eu cadw, monitro giatiau anifeiliaid a dyfais i fonitro lleoliad da byw;
Wi-fi Aberteifi: Cynllun wi-fi tref Aberteifi yn darparu cysylltiad gyda'r we mewn sawl lleoliad strategol yng nghanol y dref, ac mae data o'r app wi-fi yn mesur gwybodaeth bwysig am nifer yr ymwelwyr, o ble maen nhw'n dod, pa mor hir y maen nhw'n aros a phethau eraill sy'n gwneud gwahaniaeth i'r niferoedd.
Dywedodd Rhodri Owen, rheolwr Fferm Coleg Glynllifon: "Mae'n un o'r cyfleoedd mwyaf sydd gyda ni i wneud ffermydd yn fwy effeithlon, yn fwy diogel ac yn iachach.
"Mae'r data o'r teclynnau synhwyro yma yn galluogi ffermwyr i wneud gwell penderfyniadau yn gynt.
"Un budd arall annisgwyl yw bod y dechnoleg wedi gwneud gwaith y fferm yn fwy diddorol. Ry'n ni nawr yn medru mesur a monitro pethau na fydden ni wedi breuddwydio gallu gwneud yn fasnachol 10 mlynedd yn ôl."
Dywedodd cyfarwyddwr Grŵp BT yng Nghymru, Nick Speed: "Mae'r dechnoleg yn datblygu'n gyflym, ac rwy'n falch iawn bod atebion cefn gwlad dyfeisgar yn cael eu treialu yma yng Nghymru.
"Ond mae heriau amlwg i'r twf yn y dechnoleg yn y sectorau gwledig, gan gynnwys y buddsoddiad cychwynnol sydd ei angen ar fusnesau, a pha mor gyflym y gall y bwlch rhwng cysylltiad gwe dinesig a gwledig gael ei gau.
"Y cwestiynau sy'n dod o lawer o sectorau gwledig yw 'dyw e ddim yn berthnasol i 'musnes i' neu 'does gen i ddim yr amser' neu 'beth fyddai'n cael nôl o 'muddsoddiad?'.
"Un o argymhellion clir yr adroddiad yw i gydweithio i wella sgiliau digidol cefn gwlad, ac i roi clod i'r rhai sydd wedi mabwysiadu'n gynnar ac sy'n gwneud pethau rhyfeddol yn barod."
Yn gynharach eleni fe wnaeth BT gyhoeddi buddsoddiad o £12bn er mwyn galluogi i Openreach ddod â band eang ffeibr i fwy na 20m eiddo ar draws y DU gyda sylw arbennig i ardaloedd gwledig, erbyn canol y 2020au.
Mae'r cwmni hefyd wedi lansio pentrau i gynorthwyo busnesau bach neu ganolig ei maint - llawer mewn ardaloedd cefn gwlad - i wella sgiliau digidol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2020
- Cyhoeddwyd22 Ebrill 2020