Bwrdd Iechyd Betsi yn cydnabod problemau recriwtio
- Cyhoeddwyd
Mae menyw gafodd wybod bod ei gofal gan dîm iechyd meddwl cymunedol Betsi Cadwaladr yn dod i ben yn ddisymwth yn dweud ei bod wedi ei "brifo" ac yn "flin" am y penderfyniad.
Mewn cyfweliad gyda rhaglen Newyddion S4C dywedodd y fenyw, sydd am aros yn ddienw, mai dim ond drwy lythyr y cafodd ei hysbysu, a wnaethon nhw chwaith ddim ymgynghori â hi ynglŷn â'r penderfyniad.
"Ges i lythyr yn post yn deud bo' nhw 'di cau case fi," meddai.
"O'n i'n devastated. 'Di brifo. Yn flin. Ond lwcus o'dd genna'i rywun i actio ar fy rhan i ac apelio. Dau neu dri mis wedyn ddaru nhw ddweud eu bod nhw'n wrong i gau case fi a deud sori."
'Hefo fi am fis neu ddau'
Mae'n dweud hefyd fod nifer o bobl wahanol wedi bod yn rhoi cymorth iddi ac nad oedd hynny yn gweithio.
"Dwi 'di cael chwech care co-ordinator dros ddwy flynedd. Weithia' maen nhw ond hefo fi am fis neu ddau cyn newid," meddai.
"Dwi'n methu adeiladu trust wedyn. Dwi'n ffeindio fo'n anodd trystio pobl i ddechrau. Ond gan bod nhw'n newid o hyd, fedrai ddim adeiladu trust ac mae'n neud o'n anodd i fi fod yn agored hefo nhw."
Dyw profiadau fel hyn ddim yn anghyffredin medd Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr, sy'n cynrychioli buddion cleifion, ac mae'n bwnc difrifol lle "gall fod yn fater o fyw neu farw i gleifion eu hunain".
Heriau recriwtio
Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi cyfaddef eu bod nhw'n ei chael hi'n anodd sicrhau dilyniant gofal i gleifion iechyd meddwl am eu bod yn wynebu heriau recriwtio a chadw staff.
Maent hefyd yn dweud eu bod yn benderfynol o wella mynediad i ofal yn y gymuned.
Mae pryderon wedi bod ers amser am wasanaethau iechyd meddwl cymunedol yng ngogledd Cymru gan y rhai sy'n derbyn triniaeth eu hunain, gwleidyddion a'r cyngor iechyd cymuned.
Roedd problemau o fewn gwasanaethau iechyd meddwl yn un o'r rhesymau roddodd Llywodraeth Cymru'r bwrdd iechyd dan fesurau arbennig dros bum mlynedd yn ôl.
Llynedd cafodd adolygiad o wasanaethau iechyd meddwl cymunedol Betsi Cadwaladr ei gynnal.
Yn ôl yr adolygiad therapïau seicolegol roedd y rhain yn cynnwys "diffygion data anferthol, gweithdrefnau anaddas, diffyg gweledigaeth a goruchwyliaeth a theimlad o anobaith a diymadferthedd llwyr am sut i wella'r gwasanaeth".
Mae Geoff Ryall-Harvey, prif swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Betsi Cadwaladr, yn gofidio bod sawl bai wedi bod yn y maes hwn.
"Mae'n peri gofid i'r cyngor iechyd cymuned fel llais cleifion. Ond gall fod yn fater o fyw neu farw i gleifion eu hunain," meddai.
"Ry'n ni'n derbyn rhwng 50 a 60 cwyn am y gwasanaeth iechyd meddwl bob blwyddyn.
"Pan gaiff penderfyniadau eu gwneud sydd ddim yn boblogaidd gyda'r cleifion neu sydd yn erbyn eu dymuniad, ry'n ni'n aml yn clywed nag ydyn nhw wedi bod yn rhan o'r penderfyniadau amdanyn nhw."
Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wrthod gwneud cyfweliad gyda rhaglen Newyddion.
Yn ôl Plaid Cymru mae cwestiynau ganddo i'w hateb.
"Os ydy llywodraeth yn cymryd y penderfyniad - y penderfyniad cywir yn yr achos yma - i roi'r bwrdd mewn mesurau arbennig, mae hynny'n golygu bod ganddyn nhw gyfrifoldeb i ddod â'r bwrdd allan o'r mesurau hynny, ac mae gyda ni weinidog yn fan hyn sy'n hoff iawn o olchi ei ddwylo a dweud nad ei gyfrifoldeb o ydy hyn," meddai llefarydd.
"Ond i bob pwrpas y llywodraeth sy'n uniongyrchol gyfrifol am Betsi Cadwaladr ac mewn pum mlynedd, maen nhw wedi methu â gwneud yr hyn oedd angen ei wneud o ran gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd."
Mewn datganiad, dywedodd David Fearnley, uwch-gyfarwyddwr meddygol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr eu bod nhw'n cydnabod bod ymddiriedaeth a pherthynas agos rhwng gweithwyr iechyd a chleifion yn hollbwysig.
Ond, fel nifer o ddarparwyr iechyd meddwl y gwasanaeth iechyd gwladol, maen nhw'n dweud eu bod nhw'n cael hi'n anodd darparu'r dilyniant gofal hoffen nhw oherwydd problemau yn recriwtio a chadw gweithwyr.
Roedden nhw hefyd yn dweud eu bod nhw'n benderfynol o wella mynediad i ofal yn y gymuned ac yn ystyried sut i weithredu argymhellion yr adolygiad i'r gwasanaeth ar hyn o bryd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020
- Cyhoeddwyd21 Mai 2020
- Cyhoeddwyd20 Mai 2020