Diwylliant o 'fwlio' a 'cham-drin' mewn adran yn Betsi
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-therapydd yn adran iaith a lleferydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi disgrifio diwylliant o ofn a bwlio tra'n gweithio yno.
Mewn cyfweliad egsgliwsif gyda rhaglen Newyddion S4C mae Bethan Mair Williams yn sôn am reolwyr yn poenydio staff gan feicro-reoli eu hamserlenni a chanolbwyntio ar bethau dibwys fel cofnodion golchi dwylo.
Dywed bod yna "lot o fwlio yn mynd ymlaen... awyrgylch diddiwedd o gam-drin a chorneli'n cael eu torri" a "sefyllfa lle'r oedd pobl yn anhapus iawn, pobl off gwaith, lot o grio yn y swyddfa".
Mae'n honni hefyd bod gwasanaethau i gleifion yn cael eu cwtogi ac yn cael eu tynnu o ysgolion arbennig a bod llinellau ffôn i therapyddion ond ar gael ar adegau cyfyngedig yn ystod y dydd.
Gwrthod cyhoeddi adroddiad
Rhai blynyddoedd yn ôl cafodd bargyfreithiwr o Abertawe ei gomisiynu i ymchwilio i honiadau am yr amodau gwaith o fewn yr adran. Ond er ei fod e wedi paratoi adroddiad i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, mae'r bwrdd wedi gwrthod cyhoeddi'r adroddiad.
Daw hyn lai na deufis wedi i'r Comisiynydd Gwybodaeth ddyfarnu y dylai bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, sydd dan fesurau arbennig ers dros bum mlynedd, gyhoeddi adroddiad Holden i bryderon yn uned iechyd meddwl Hergest ysbyty Gwynedd.
Maen nhw ar hyn o bryd yn apelio'r penderfyniad hwnnw.
Yn ôl Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr dyw'r adroddiad ynglŷn â phryderon yn yr adran iaith a lleferydd heb ei gyhoeddi am fod pobl wedi rhoi tystiolaeth gyda'r "disgwyliadau" y byddai'r hyn maent wedi dweud yn gyfrinachol.
Maent hefyd yn dweud eu bod wedi adnabod a datrys sawl canfyddiad "ac mae gwaith yn dal i ddigwydd i gwblhau gwelliannau tymor hir."
'Dicter yn llosgi'
Mewn recordiad o'i thystiolaeth i'r bargyfreithiwr Jonathan Walters, mae'r therapydd iaith a lleferydd Bethan Mair Williams, i'w chlywed yn crio tra yn dweud: "Mae'n dorcalonnus pan y'ch chi wedi bod yn gweithio i sefydliad ers 20 mlynedd, yn cefnogi grŵp o bobl sydd ar yr ymylon ac wedyn yn cael eich trin fel ydw i ac eraill wedi ein trin gan y sefydliad.
"Mae dicter ac anghyfiawnder yn llosgi ynof i dros y modd mae'r bwrdd iechyd yn trin pobl."
Dywedodd hefyd wrth raglen Newyddion bod ei chyfnod gyda'r bwrdd wedi gadael ei ôl arni.
"Oedd hi'n uffernol. Dwi'n berson reit gry' a dwi'n gallu delio hefo pob math o betha' ond o'dd mynd mewn i'r gwaith, o'dd o jest...weithia' o'n i'n mynd mewn i gwaith yn eistedd yn y car am ryw hanner awr ac yn mynd syth i chwydu achos o sbïo nôl, o'dd o jest yn awful.
"Mae'n dal i effeithio arna'i yn fawr iawn."
Fe ddywedodd rhai eraill oedd yn gweithio yn yr adran iaith a lleferydd ac a roddodd dystiolaeth i'r bargyfreithiwr eu bod nhw'n rhannu pryderon Bethan Mair Williams.
Mae Ms Williams wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth i gael copi o'r adroddiad llawn gan y bwrdd iechyd.
Ond ar Awst 13eg, fe gafodd hi wybod na fydden nhw'n ei ryddhau.
Dywedodd y bwrdd iechyd bod "y manylion wedi eu rhoi 'yn gyfrinachol'" ac felly doedd dim angen iddyn nhw ddefnyddio prawf budd cyhoeddus.
Serch hynny, mae copi o argymhellion y swyddog Betsi Cadwaladr a gomisiynodd yr adroddiad wedi cael eu cyhoeddi ar ôl cais rhyddid gwybodaeth lwyddiannus. Ond mae talpiau mawr wedi eu dileu. Mae o leiaf 19 o argymhellion wedi eu rhestru yn y ddogfen honno.
Ond mae Bethan Mair Williams yn mynnu nad yw hynny'n ddigonol.
'Haeddu gwell'
"Dwi'n nabod lot ohonyn nhw (y bobl roddodd dystiolaeth), a dwi wedi gweithio gyda nhw am flynyddoedd, a dwi'n gwybod bod nhw wedi dod ymlaen i siarad am eu profiadau efo'r awydd o rannu rhein a gwneud yn siŵr bod nhw'n cael gwrandawiad teg.
"O'dd na ddim byd yn guddiedig amdano fe o gwbl. Be ydy'r pwynt chwythu'r chwiban os oes neb yn mynd i wybod am beth wyt ti'n cwyno?
"Mae pobl gogledd Cymru yn haeddu gwell na hyn ac mae pobl sy'n gweithio i bwrdd Betsi yn haeddu triniaeth well na beth maen nhw wedi cael," meddai.
Yn ôl llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew RT Davies, mae cwestiynau pellach i'w gofyn am hyn.
"Dyma adroddiad arall gan y bwrdd iechyd sy'n cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru sydd heb gael ei gyhoeddi i ni allu ei ystyried," meddai.
"Oni bai eich bod chi'n ystyried canfyddiadau adroddiadau fel hyn, sut ydych chi'n gallu datrys y problemau?
"Dro ar ôl tro, ry'n ni'n cael enghreifftiau fel hyn, a'r bwrdd iechyd yn osgoi ymateb. Dyw e ddim digon da."
'Torri cyfrinachedd'
Mewn datganiad, dywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Byddai cyfranwyr i'r adroddiad wedi cymryd rhan gyda'r disgwyliad bod eu datganiadau unigol yn cael eu cadw yn hollol gyfrinachol. Byddai rhyddhau'r wybodaeth yn torri'r cyfrinachedd hwnnw."
Dywed y bwrdd iechyd hefyd bod "gwybodaeth am unigolion" yn yr adroddiad ac y gallai "rhywun gael eu hadnabod" pe byddai'r adroddiad yn cael eu rhyddhau.
Dywedodd Adrian Thomas, Cyfarwyddwr Therapi a Gwyddoniaeth Iechyd gyda'r bwrdd bod yr adroddiad wedi ei lunio ar ôl i bryderon gael eu codi gan aelod o staff yn yr adran iaith a lleferydd.
"Mae sawl canfyddiad wedi cael eu hadnabod a'u datrys ac mae gwaith yn dal i ddigwydd i gwblhau gwelliannau tymor hir.
"Mae'r rhain yn cynnwys recriwtio mwy o bobl i swyddi clinigol i wella capasiti, gwella gweithdrefnau, dargyfeiriadau a chefnogaeth i weithwyr a chleifion a hyfforddiant ychwanegol i staff drwy'r gwasanaeth.
"Rydyn ni wedi creu grŵp llywio i oruchwylio'r argymhellion, ac wedi estyn gwahoddiad i Gyngor Iechyd Cymuned y Gogledd i ddewis aelod i ymuno a'r grŵp hwnnw."
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru mai mater i'r bwrdd iechyd oedd hwn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Gorffennaf 2020
- Cyhoeddwyd2 Awst 2020
- Cyhoeddwyd28 Mai 2020