S4C i lansio gwasanaeth newyddion digidol

  • Cyhoeddwyd
iplayer
Disgrifiad o’r llun,

Mae ffigyrau yn dangos bod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer y gwylwyr ar-lein

Mae S4C wedi dweud y byddan nhw'n lansio gwasanaeth newyddion digidol fydd yn ceisio apelio at gynulleidfa iau.

Y bwriad, meddai'r sianel, ydy bod pobl ifanc yn "medru cael newyddion amrywiol yn y Gymraeg, ar ffurf fideo a thestun, pryd bynnag a lle bynnag maen nhw eisiau".

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C, ei fod yn teimlo fod bwlch yng ngwasanaethau S4C ar hyn o bryd.

Dywed bod angen i'r sianel, "fel darlledwr cyhoeddus, fod â gwasanaeth newyddion sy'n ffit ar gyfer y dyfodol".

"Mae rhaglen Newyddion S4C yn 'neud yn dda i ni," meddai, "ond mae ymchwil yn dangos fod cynulleidfa y rhaglen honno dros 65 oed a'r hyn sydd wedi fy nharo ers i fi ddod i'r swydd yw o ble mae'r gynulleidfa iau yn cael ei newyddion.

"Fel yr unig ddarlledwr cyhoeddus Cymraeg, mae'n gwbl amlwg bod yn rhaid i ni ddatblygu gwasanaeth digidol Cymraeg gan mai'r darogan yw y bydd llai o bobl yn edrych ar raglenni newyddion teledu yn ystod y blynyddoedd nesaf."

Mae S4C yn gobeithio dibynnu ar sawl ffynhonnell i gael deunydd ar gyfer y gwasanaeth er mwyn cynyddu dewis y defnyddiwr.

"Ry'n mewn trafodaethau gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys y BBC," ychwanegodd Geraint Evans.

"Ry'n ni wedi cael sgyrsiau gyda'r BBC am gydweithio yn yr un modd ag ry'n ni'n cydweithio ar gyfer y rhaglen deledu.

"Mae'r BBC yn ddylanwadol iawn yng Nghymru ond mae'n bwysig bod pobl yn cael newyddion o ffynonellau eraill hefyd."

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Wrth i bapurau lleol wynebu trafferthion, mae S4C yn gobeithio y bydd y gwasanaeth newydd yn llenwi'r bwlch

Ychwanegodd ei bod hi'n bosib y bydd peth o'r newyddion yn dod y tu hwnt i Gymru ond "bod S4C yn ymwybodol o ba mor werthfawrogol yw'r gynulleidfa Gymraeg o newyddion lleol".

Dywedodd hefyd ei fod yn gobeithio y bydd y gwasanaeth yn llenwi'r bwlch sydd yna ers i rai papurau lleol orfod cael gwared â swyddi.

Darparu i ddysgwyr

"Byddwn yn edrych yn benodol ar becynnu deunydd ar gyfer cynulleidfa ddigidol," ychwanegodd.

"Mae cyfoeth o gynnwys fideo ar gael i ni - bydd rhywfaint yn dod o'r gwasanaeth newyddion, ma' 'da ni raglenni materion cyfoes sy'n cynhyrchu straeon newyddion, mae gennym newyddion chwaraeon, newyddion gwledig a newyddion lleol - ry'n ni hefyd am ddatblygu newyddion i ddysgwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Mae S4C, sydd yn gweithredu o Yr Egin yng Nghaerfyrddin, eisoes wedi hysbysebu am olygydd i'r gwasanaeth

"Rwy'n teimlo mai camau bach ry'n ni wedi'u cymryd i'r cyfeiriad digidol yng Nghymru.

"Mae penodi dau newyddiadurwr yn ystod cyfnod Covid a oedd yn benodol yn adrodd o gynadleddau Llywodraeth Cymru ac yn cyhoeddi ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod diddordeb yn y math yma o newyddiadura.

"Mae ffigyrau diweddar yn dangos bod y rhai sy'n gwylio Newyddion ar Facebook wedi cynyddu 500%. Ry'n ar fin wynebu cyfnod hynod o ddiddorol gydag etholiadau'r Senedd, gadael yr UE ac mae'r diddordeb yn sgil effeithiau Covid yn parhau - digwyddiadau sy'n galw am wasanaeth newyddion digidol.

"Mae e'n poeni fi bod canran helaeth o wylwyr Newyddion S4C dros 65 oed. Dywedodd 75% o'r rhai wnaethon ni eu holi eu bod yn cael eu newyddion drwy ffynonellau digidol.

"Prin yw'r ddarpariaeth yn y Gymraeg a'r hyn ry'n ni am ei wneud yw llenwi'r bwlch. Ry'n am ddarparu gwasanaeth newyddion i bobl yn y Gymraeg - yn ddigidol, fel mae'n digwydd ar ba bynnag ddyfais."

Ychwanegodd Mr Evans nad yw S4C wedi clustnodi nifer penodol o swyddi.

Yr wythnos hon fe wnaethon nhw hysbysebu am olygydd i'r gwasanaeth.

"Ry'n am gymryd pethau gam wrth gam," meddai, "bydd lot o'r newyddion yn cael ei greu mewn mannau eraill, hynny yw wrth i raglenni gael eu cynhyrchu.

"Ry'n ni'n gobeithio sefydlu'r gwasanaeth cyn diwedd y flwyddyn."