Achub tri o bobl wedi i gwch droi drosodd ar y Fenai

  • Cyhoeddwyd
Afon MenaiFfynhonnell y llun, Getty Images

Cafodd tri o bobl eu hachub ar ôl i gwch pysgota bach droi drosodd ar Afon Menai brynhawn Sadwrn.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau eu bod wedi cael eu galw gan dystion wedi i'r cwch fynd i drafferthion am tua 13:30.

Cafodd badau achub o Fiwmares a Bangor a hofrennydd Gwylwyr y Glannau eu gyrru i'r digwyddiad ond llwyddodd i gwch preifat oedd yn pasio dynnu'r tri o oedolion o'r dŵr.

Cafodd y tri eu cymryd i Borthaethwy ac fe aeth un i Ysbyty Gwynedd am eu bod wedi llyncu dŵr yn ystod y digwyddiad.