Dyn mewn cyflwr difrifol yn dilyn ymosodiad yn nhref Porth
- Cyhoeddwyd
Mae dyn yn yr ysbyty gydag anafiadau sy'n peryglu ei fywyd yn dilyn ymosodiad yn Rhondda Cynon Taf.
Dywedodd Heddlu De Cymru bod yr ymosodiad wedi digwydd ar Heol Eirw yn nhref Porth yn yr oriau mân fore Sul.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ble mae'n parhau gydag anafiadau difrifol iawn.
Mae'r heddlu wedi rhybuddio gyrwyr y gallan nhw wynebu oedi yn yr ardal wrth iddyn nhw gynnal ymchwiliad.
Mae unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad yn cael eu hannog i gysylltu â'r llu trwy ffonio 101.