Cyfyngiadau Caerffili: Sut mae'n effeithio arna i?
- Cyhoeddwyd

Ni fydd hawl gan bobl deithio i mewn nac allan o Sir Caerffili heb reswm digonol o hyn ymlaen
Sir Caerffili ydy'r awdurdod cyntaf yng Nghymru ble mae cyfyngiadau yn cael eu hail-gyflwyno.
Er mwyn rheoli nifer yr achosion o Covid-19 bydd cyfyngiadau yn dod i rym am 18:00 ddydd Mawrth.
Cafodd 98 o bobl yr ardal brawf positif yn yr wythnos flaenorol, ac mae'r gyfradd o'i gymharu â maint y boblogaeth gyda'r uchaf yng Nghymru a Lloegr erbyn hyn.
Mae hyn yn golygu nifer o newidiadau i'r 181,000 o bobl sy'n byw yn y sir, ac mae disgwyl i Lywodraeth Cymru fanylu'n bellach ar y cyfyngiadau newydd yn ddiweddarach.
Ond beth yn union fydd yn newid?

Gwahardd teithio i mewn ac allan o'r sir
Unwaith y daw'r rheolau newydd i rym, ni fydd neb yn gallu dod i mewn i'r sir na'i gadael - gan gynnwys yn nhrefi Caerffili, Ystrad Mynach, y Coed Duon, Trecelyn, Rhymni a Rhisga - heb 'esgus rhesymol'.
Mae 'esgus rhesymol' yn golygu teithio i'r gwaith os na allwch weithio gartref, i roi gofal i rywun arall neu i ymweld mewn achos o argyfwng.
Mae teithio am fwyd a meddyginiaeth hanfodol hefyd yn cael eu hystyried yn esgusodion rhesymol, felly fe fydd pobl yn cael gadael y sir os ydyn nhw'n teithio i archfarchnad neu fferyllfa.
Cymdeithasu ac ymweld â theulu
Mae'r rheolau ar gyfer cyfarfod dan do yn newid.
Ni fydd ffrindiau a theulu bellach yn cael cyfarfod dan do, tra bydd aros dros nos hefyd yn cael ei wahardd.
Ni fydd cartrefi estynedig yn cael cwrdd, gan olygu yn y bôn na allwch fynd i mewn i gartref unrhyw un arall yn y sir.
Mae cwrdd â phobl o'r tu allan i'ch cartref estynedig y tu mewn yn parhau i fod wedi'i wahardd yng ngweddill Cymru hefyd.

Mae dros 1,600 o bobl yn ardal sir Caerffili wedi cael eu profi dros yr wythnos ddiwethaf
Ysgolion, bwytai a thafarndai
Bydd ysgolion yn parhau ar agor, oni bai bod yna achos yn cael ei gadarnhau o fewn dosbarth.
Y tro hwn, yn wahanol i pan gafodd cyfyngiadau eu cyflwyno y tro cyntaf, ni fydd rhaid i dafarndai a bwytai gau.
Rheol newydd ar wisgo mygydau
Bydd rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb pan yn mynd i mewn i unrhyw siop.
Mae hi eisoes yn orfodol ar unrhyw un i wisgo mwgwd wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Amserlen ar gyfer y cyfnod newydd
Bydd y cyfyngiadau'n dod i rym am 18:00 ar nos Fawrth, 8 Medi.
Yn ôl Gweinidog Iechyd Cymru, Vaughan Gething AS, mae disgwyl i'r cyfyngiadau fod yn eu lle yng Nghaerffili am rai wythnosau o leiaf am eu bod nhw'n disgwyl gweld cynnydd pellach yn niferoedd yr achosion positif dros y dyddiau nesaf.
Fe gadarnhaodd hefyd y bydd yr heddlu a'r awdurdod lleol yn gweithredu'r rheolau newydd ac y bydd ganddyn nhw'r hawl i ddirwyo pobl os ydyn nhw'n eu torri.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020
- Cyhoeddwyd7 Medi 2020