Rhagor o ynysoedd Groeg ar restr cwarantîn Cymru

  • Cyhoeddwyd
ZanteFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o achosion Covid-19 wedi cael eu mewnforio i Gymru o ynys Zakynthos

Mae tair yn rhagor o ynysoedd Gwlad Groeg - Santorini, Serifos a Tinos - i gael eu hychwanegu at reolau teithio cwarantîn Cymru o ddydd Mercher am 04:00.

Mae'n golygu bod yn rhaid i bobl sy'n teithio o'r ynysoedd i Gymru dreulio cyfnod o 14 diwrnod dan gwarantîn ar ôl cyrraedd yma.

Mae Llywodraeth y DU wedi ychwanegu'r ynysoedd hyn at ei rhestr cwarantîn ar gyfer Lloegr yn barod.

Nid oedd y tair ynys ar restr Llywodraeth Cymru o ynysoedd eraill Gwlad Groeg i ddod dan gyfyngiadau teithio yr wythnos diwethaf.

Yr ynysoedd oedd ar restr cwarantîn Llywodraeth Cymru yn barod oedd Creta, Lesvos, Mykonos, Paros ac Antiparos a Zakynthos - sydd hefyd yn cael ei galw'n Zante.

Roedd Llywodraeth y DU wedi cyflwyno cyfyngiadau ar deithio yn ôl i Loegr o Creta, Lesvos, Mykonos, Santorini, Serifos, Tinos, a Zakynthos.

Nid aeth mor bell â Llywodraeth Cymru wrth osod rheolau ar deithwyr oedd yn dod i Gymru o Bortiwgal.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, fod y penderfyniad yn dilyn adolygiad o'r asesiadau diweddaraf gan y Gyd-ganolfan Bio-ddiogelwch.