Ymestyn rheolau cwarantin i fwy o leoliadau gwyliau
- Cyhoeddwyd
Bydd yn rhaid i deithwyr o Bortiwgal a rhai o ynysoedd Groeg hunan-ynysu am bythefnos ar ôl dychwelyd i Gymru o fore Gwener ymlaen.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd bod y penderfyniad wedi'i wneud o ganlyniad i'r "nifer fawr o achosion coronafeirws sydd wedi cael eu mewnforio i Gymru", yn enwedig o ynysoedd Groeg.
"Yn yr wythnos ddiwethaf mae dros 20 o achosion wedi'u cadarnhau mewn teithwyr ar un hediad o Zante i Gaerdydd," meddai Vaughan Gething.
Bydd y rheolau newydd yn dod i rym am 04:00 fore Gwener.
Dyma'r tro cyntaf i Gymru osod cyfreithiau gwahanol i rai Llywodraeth y DU ynglŷn â hunan-ynysu.
Mae'r rheol mewn grym i bobl sy'n dychwelyd i Gymru, dim ots os wnaethon nhw wneud hynny trwy ran arall o'r DU, fel meysydd awyr yn Lloegr.
Mae Ysgrifennydd Trafnidiaeth Llywodraeth y DU, Grant Shapps wedi dweud na fydd newidiadau o'r fath yn cael eu gwneud yn Lloegr ddydd Iau.
Ychwanegu Gibraltar a Polynesia Ffrengig i'r rhestr
Cafodd Portiwgal ei dynnu oddi ar restr y gwledydd y mae angen hunan-ynysu ar ôl ymweld â nhw bythefnos yn ôl, ond yn dilyn cynnydd mewn achosion mae'r wlad bellach yn cael ei ystyried yn llai diogel.
Ond ni fydd yn rhaid ynysu ar ôl bod i ynysoedd yr Azores neu Madeira.
Yr ynysoedd yng Ngroeg fydd yn rhaid ynysu ar ôl dychwelyd ohonynt ydy Antiparos, Crete, Lesvos, Mykonos, Paros a Zakynthos.
Yn gynharach yr wythnos hon cafodd pobl oedd yn teithio i Gymru o Zakynthos gais i hunan-ynysu, ond mae'r newidiadau ddydd Iau yn golygu bod modd rhoi dirwy i bobl sydd ddim yn gwneud hynny.
Mae Gibraltar a Polynesia Ffrengig hefyd wedi cael eu hychwanegu at y rhestr sy'n rhaid hunan-ynysu ar ôl ymweld â nhw.
Yn siarad gyda BBC Cymru, dywedodd Mr Gething ei fod yn gweithredu ar sail "cyngor clir" gan y ganolfan bioddiogelwch - sydd wedi mynd at bedair llywodraeth y DU.
Er ei fod wedi gobeithio trafod y mater gyda'r llywodraethau eraill, dywedodd Mr Gething nad oedd hynny'n bosib o fewn yr amser sydd ar gael iddo.
"Fy nghyfrifoldeb i ydy gwneud y dewis iawn i amddiffyn Cymru", meddai.
"Fy newis byddai gwneud hynny ar y cyd â'r gwledydd eraill pan yn bosib.
"Os nad yw'n bosib, mae'n rhaid i mi wneud y dewis iawn dros Gymru."
Ychwanegodd y gallai bobl gael dirwyon am beidio dilyn y rheolau, ond mai dyma oedd "y cam olaf un".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020
- Cyhoeddwyd2 Medi 2020
- Cyhoeddwyd31 Awst 2020