Ceisio gwneud bywyd yn haws
- Cyhoeddwyd
Mae Hanna Hopwood Griffiths, fel nifer ohonon ni, yn berson prysur, sydd yn trio jyglo pob math o gyfrifoldebau.
Felly mae hi wedi mynd ati i greu cyfrif Instagram newydd, gyda'r bwriad o geisio Gwneud Bywyd yn Haws, drwy drafod a rhannu syniadau a chyngor am amryw bynciau.
Bu Hanna'n sgwrsio ar raglen Bore Cothi ar Radio Cymru am ei her newydd.
"Mae Instagram yn rhywbeth dwi wedi dod yn gyfarwydd ag e dros y misoedd diwetha', wrth fod ar ddi-hun lot yn y nos, yn bwydo fy mab bach i. Fi'n joio'r teimlad ti'n gallu ei gael o Instagram o ymollwng a mynd ar goll.
"Ond dwi hefyd yn cael llond bol - yn enwedig yn ystod y cyfnod clo - gweld yr holl bethe perffaith 'ma sy'n gallu 'neud i chi deimlo'n wael ambell waith.
"Dwi'n gwybod 'dim fel yna mae bywyd go iawn' - mai snapshot o bethau gorau bywyd yw e - ond mae e dal yn anodd i gofio 'na.
"Felly, mae hynny'n elfen sydd yn dod i mewn i'r dudalen hon."
Caniatáu cynnwys Instagram?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.
Mae Hanna yn agored yn ei chyfrif am fywyd bob bydd - dyw pethau ddim yn gallu bod yn berffaith o hyd.
O fron-fwydo, i reoli amser, i sefyll fyny dros eich daliadau, mae hi'n ceisio dechrau sgyrsiau am y pethau bach rhwystredig mewn bywyd sydd yn cymryd amser rhywun, ac yn ceisio dod o hyd i ffyrdd i wneud pethau yn symlach:
"O'n i rhwng dau feddwl o ran y teitl - 'gwneud bywyd yn haws' - achos rili mae mywyd i'n hawdd. Ond nid dyna beth dwi'n ddweud. Dwi jest mo'yn gwneud y mwyaf o'r amser prin 'ma sy' gyda ni.
"Fi eisiau trio gwella y pethau bach 'na ni'n gorfod eu gwneud yn ein bywydau dyddiol ni, sy' jyst yn mynd â'n hamser ni. A falle bo' ni ddim yn eu gwneud nhw yn y ffordd fwya' effeithiol.
"[Fel] bod mwy o amser gyda ni i fod gyda'r bobl ni'n eu caru, gwneud y pethe ni mo'yn gwneud, brwydro dros y pethau ni'n credu ynddyn nhw.
"Dwi'n teimlo falle bod ni'n styc mewn rhyw fath o ddiwylliant o fod yn brysur. Hyd yn oed yn ystod y cyfnod clo, pan oedd amser i arafu... achos fod yr holl brysurdeb 'ma ar gael ar flaenau ein bysedd ni, ar y ffôn, ar y cyfrifiadur, fi'n teimlo ein bod ni wedi mynd yn styc a ddim wir yn gwerthfawrogi pa mor brin yw amser."
Ymchwilio a gofyn am gyngor
O luniau o bethau bob dydd ac adolygiadau o lyfrau all gynnig cyngor, i sgyrsiau gydag arbenigwyr a phobl ddiddorol, mae yna amrywiaeth o gynnwys ar y dudalen. Ond mae hi'n pwysleisio nad oes ganddi'r atebion i gyd o bell ffordd:
"Dwi ddim yn arbenigwraig. Does dim unrhyw fath o grebwyll na hygrededd 'da fi i fod yn traethu am fywyd. Dwi'n trial ffocysu ar y pethau dwi yn gallu ei wneud - ymchwilio. Dyna dwi wedi cael fy hyfforddi i wneud - crynhoi a chasglu gwybodaeth.
"Dwi wir yn mwynhau. Dwi wedi bod yn darllen pethau fel hanes y peiriant golchi (mae'n well gen i ddarllen am hanes y peiriant golchi na gwneud y golch!). Hanes tupperware, hanes sannau... trio plethu bywyd heddi gyda fy niddordebau i, sef ymchwilio hanes a hanes Cymru.
"O'n i isie dysgu wrth bobl sy'n dda am wneud y pethe 'ma. [Fel] tips dwi'n ei gael wrth Mam-gu, a lot o'n ffrindiau i, sy'n gwneud pethau fel blaen-gynllunio prydau bwyd.
"Gyda bwydo o'r fron, er enghraifft, o'n i ddim yn gwybod y bydde hi mor anodd. Ges i amser caled. Felly pethe bach fel pa glustog 'nath helpu fi, pa un oedd werth yr arian.
"O'n i'n meddwl byse hi'n neis cael platfform i drafod a dysgu am bethau drwy gyfrwng y Gymraeg a dysgu beth mae pobl eraill wedi ei wneud i'w helpu nhw, er mwyn gwneud bywyd yn haws."
Dim byd yn tabŵ
Mae'r cyfrif yn trafod pob math o elfennau, meddai Hanna. Bydd hi'n sôn ychydig am bethau sy'n codi wrth fagu teulu, ond mae hi'n pwysleisio nad cyfrif i rieni yn unig yw hwn.
Yn ogystal, er bydd peth sôn am iechyd, nid iechyd yn unig yw'r ffocws. Eto, mae hi'n teimlo bod angen lle i drafod pethau sydd yn effeithio ar nifer ohonom, a bod cael safle fel hyn ar y we yn gallu bod yn gyfle da i bobl rannu profiadau:
"Dwi'n teimlo fod menywod a chyrff menywod dal yn tabŵ llwyr, a pan mae pethau fel'na - o mhrofiad i - wedi cael eu trafod yn Gymraeg yn y gorffennol, maen nhw fel arfer yn rhyw fath o jôc. Dyw e ddim yn jôc.
"Does dim rhaid i bob un siarad yn agored am bethau fel yna - dwi ddim yn teimlo'n gyfforddus yn siarad yn agored am bethau fel'na. Ond mae pobl sy' mo'yn ac mae pobl sy'n fodlon.
"Ni'n clywed drwy'r amser fod byw tu ôl i sgrin yn gallu esgor ar ymddygiad gwael ar-lein, ond mae e hefyd yn gallu caniatáu pobl i gydnabod bo' nhw'n teimlo bach ar goll weithie. Mae cael y sgrin yn caniatáu pobl i rannu pethau heb orfod ei 'neud e wyneb-yn-wyneb, sy'n gallu bod yn anoddach."
Dim ond ers diwedd Awst mae'r cyfrif wedi bodoli, ac mae eisoes yn datblygu a newid, meddai, felly mae Hanna yn gyffrous i weld beth a ddaw:
"Fi'n siŵr bod 'na bobl mas 'na sydd ddim yn joio fe, ond 'na'r peth braf am bethe heddi, mae 'na rywbeth bach mas 'na i bawb. Dydy pawb ddim yn mynd i hoffi popeth, a ma' hynny'n iawn 'da fi.
"Ond mae'r ymateb wedi bod yn hollol anhygoel. Os fi'n onest, dwi wrth fy modd pan mae rhywun yn mynd mas o'u ffordd nhw i hala neges fach i ddweud eu bod nhw'n joio."
Hefyd o ddiddordeb: