"Y byd mor dawel a'r meddwl yn sgrechian cymaint o ofnau"
- Cyhoeddwyd
Mae Malan Wilkinson yn blogio ac ysgrifennu am iechyd meddwl ac fel nifer fawr o bobl ar draws Cymru ar hyn o bryd, mae hi'n ceisio delio gydag effaith seicolegol y pryder am coronafeirws.
Yma mae hi'n ysgrifennu am ei phrofiad dros yr wythnosau diwethaf a'r hyn mae hi'n ei wneud i ddygymod â'r sefyllfa a cheisio cadw'r meddwl yn iach.
Nid wy'n cofio cyfnod pan oedd y byd mor dawel a'r meddwl yn sgrechian cymaint o ofnau. Ond, yn wyneb COVID-19 mae'n rhaid delio â sefyllfa o'r fath.
Mae cenedl sy'n arfer cynnig breichiau agored wedi ymbellhau'n gymdeithasol a'n drysau wedi cau am y tro. Rwyf innau wedi ffeindio fi fy hun yn crio'n ddyddiol ar hap ac yn pendilio rhwng teimlo'n o lew ac yn isel.
Un o'r heriau mwyaf yn wyneb yr haint oedd colli trefn ar fyw ac ar fywyd. Methu codi pan oeddwn i'n o lew am wneud hynny cynt. Anghofio pa ddiwrnod oedd hi neu faint o'r gloch oedd hi.
Roeddwn i'n ei chael hi'n anodd gwneud y pethau bach ac hunan-ofalu. Roedd brwsio dannedd yn brifo a chribo fy ngwallt yn ormod o dasg o lawer. Cyn pen dim, roedd hi'n haws aros yn y gwely - drwy'r dydd - efo'r llenni wedi cau a meddyliau negyddol yn chwyrlio'n wyllt yn fy mhen.
Annobeithio efo bywyd
Dyma ddeffro un bore ac edrych yn y drych i weld fy ngwallt yn glymau byw. Roedd fy ngwallt yn sefyll i fyny ar ei ben ei hun a bod yn onest, a'm croen yn welw ar ôl dyddiau dan gynfas. Mi geisiais frwsio fy ngwallt i boen erchyll, dim ond i weld darnau ohono'n torri'n rhydd o'm mhen i ac yn hongian ar y brwsh.
Ro'n i wedi torri tu mewn a'r tu allan ac roedd gen i gywilydd - roeddwn i'n casáu fy hun. Ro'n i'n gwybod fod 'pawb yn yr un gwch' gyda thristwch ac ofn COVID-19 ond ro'n i wedi annobeithio efo bywyd a'm meddwl yn fy ngwahodd i lawr llwybrau hunan-ddinistriol. Roedd yn RHAID i rywbeth newid.
Ar ôl tri chwarter twb o conditioner gwallt, dau sbrê detangler a dwy awr a hanner o help gan fy chwaer Medi - roedd fy ngwallt i yn ôl yn llun o dderbyniol, ond llawer llai ohono.
Gwneud rhestr o bethau positif
Mae gen i CPN (nyrs seiciatryddol yn y gymuned) arbennig - ac er gwaetha'r COVID-19 dydi hi ond gwta alwad i ffwrdd. Felly fe ffoniais i hi a thrafod cyn gwneud rhestr o'r holl bethau positif yn fy mywyd.
O'r bore hwnnw 'mlaen, dwi'n edrych ar y rhestr yn feunyddiol ac yn ychwanegu pwyntiau/ticio tasgau bach hunanofal i ffwrdd pob dydd.
Mae pob un yn teimlo fel buddugoliaeth fach. Mae'n rhoi synnwyr cyflawniad i mi ac yn fy helpu. Mae'r gofal gan fy nyrs yn arbennig - dydw i ddim yn credu y byddwn i wedi dod drwyddi hebddi.
CANLLAW: Beth ddyliwn i ei wneud?
IECHYD MEDDWL: Tips gan Dr Ioan Rees
CYMUNED: Codi calon drwy godi canu dros y we
Gyda threigl amser, fe ddechreuais ambell i brosiect hamdden arall gan geisio ail gysylltu â natur, recordio flogiau dyddiol a threulio rhagor o amser efo Wini Lwyd, fy nghi a Smwj, fy nghath.
Ac wrth frwydro â'm cyflyrau iechyd meddwl (iselder ac Anhwylder Personoliaeth Ffiniol) rwyf innau wedi darganfod tawelwch yn y ffyrdd rhyfeddaf.
Pabell yn yr ardd
Roedd muriau'r tŷ yn cau amdanaf a'm hysbryd wedi plymio i ddyfnderoedd newydd. Dim amdani felly ond gosod fy mhabell yn yr ardd gefn a champio gyda Wini Lwyd. Teimlad hyfryd oedd deffro am bump y bore i ysgyfaint lawn o awyr iach ac i gôr o adar yn trydar yn yr ardd.
Ro'n i'n westai ym mhalas natur ac yn teimlo'n bur freintiedig yn sgil hynny - roedd natur wedi rhoi ei ystafell orau i mi ac wedi cynnig gobaith newydd yng nghanol y dryswch. Mi ddysgais i a Wini Lwyd hefyd sut i rannu mwy na bwyd BBQ a chyfeillgarwch - sut i rannu ein bywydau.
Amser Stori!
Cofio amser stori'n blentyn? Cefais wahoddiad yn ddiweddar gan Elen Medi Morgan i ymuno â grŵp Amser Stori! ar Facebook. Pobol yn darllen hoff straeon plant - ac mor fendigedig oedd hynny, er i mi feddwl ar y pryd efallai nad oedd y grŵp yn berthnasol i mi. OND - fe ges i sioc!
Efallai mod i eisiau dianc o benawdau hyll y newyddion, efallai mod i'n teimlo hiraeth am ddyddiau gwell. Efallai, wedi'r cyfan, mod i'n chwilio am ddiweddglo hapus. Ond, 'dw i 'di ffeindio fi fy hun yn gwrando eto ar y straeon arbennig hyn. Yn ymgolli yn symlrwydd y dweud ac yn ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) wrth wrando ar y straeon byrion.
Modd o fyfyrdod yw ymwybyddiaeth ofalgar sy'n cymell person i ganolbwyntio ar werthfawrogi'r eiliad yr ydyn ni ynddi yn y presennol. Yn wyneb realiti hyll yr haint sy'n ein plagio... cofiwn am un o arfau fwyaf trugarog dyn - dychymyg. Mewn amseroedd tywyll, gall y dychymyg gynnig hafan newydd i ni - hyd yn oed os mai 'dros dro' yn unig y perchnogwn yr hafan honno.
Tyrchu'n ddyfnach
Wna i ddim gwneud cyfrinach bod y cyfnod yma'n rhwydd. Mae gen i gysylltiad cyson â'm nyrs seiciatryddol ar hyn o bryd a 'dw i'n lwcus tu hwnt i dderbyn cefnogaeth o'r fath mewn cyfnod mor heriol.
Mae'n rhaid i ni gyd yn wyneb y sefyllfa, dyrchu ychydig yn ddyfnach am gysur, pwyll a chyfeiriad. Os glywa' i unrhyw un arall yn dweud mewn ffordd ddigon 'ffwrdd â hi' "Daw eto haul ar fryn" dwi bron â bod yn siŵr y gwnâi ffrwydro'n fil o ddarnau bach i gyfeiliant un sgrech boenus-fyddarol o'm ceg fy hun.
Peidiwch â chicio'ch hunain os na fedrwch chi (fel fi) deimlo 'gobaith' gweddill y genedl! Efallai, wedi'r cyfan mai arbed ein hemosiynau ydyn ni i'r bore hwnnw pan ddeffrwn i weld a phrofi golau gwawr newydd yn torri o flaen ein llygaid.
Hefyd o ddiddordeb: