Cais i wneud mwy o welliannau i Gastell Caernarfon

  • Cyhoeddwyd
argraff artist o'r adeiladau dros droFfynhonnell y llun, Cadw
Disgrifiad o’r llun,

Argraff artist o'r adeiladau dros dro o fewn muriau Castell Caernarfon

Bydd caffi newydd a lifft i fynd ag ymwelwyr i rannau sydd heb eu gweld o'r blaen ymhlith mesurau newydd i geisio gwella profiad ymwelwyr i Gastell Caernarfon.

Cafodd rhan gyntaf y cynllun £3.3m ei gymeradwyo y llynedd, ac mae'n cynnwys sefydlu adeiladau dros dro o fewn muriau'r castell er mwyn clirio Porth y Brenin cyn y gallai y prif waith adeiladu ddechrau.

Ond mae cynllun manwl yr ail ran wedi cael eu cyflwyno i adran gynllunio Cyngor Gwynedd, ac maen nhw'n cynnwys agor rhannau o'r castell am y tro cyntaf - gan gynnwys y ffenestri sy'n edrych allan dros y dref.

Mae'r castell - sydd yn un o Safleoedd Treftadaeth y Byd - yn denu tua 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Ffynhonnell y llun, Mike Searle/Geograph

Yn ôl Cadw - y corff sy'n gofalu am henebion ar ran Llywodraeth Cymru - bydd y cynllun yn cynnig mynediad i lefelau uchel am y tro cyntaf ac yn datblygu profiadau rhyngweithiol a rhithiol.

Bydd lifft gwydr newydd yn arwain ymwelwyr drwy Borth y Brenin i ddec gwylio newydd ar y top.

Y nod yn y pen draw yw gwella profiad yr ymwelwyr, yn enwedig y rhai sy'n methu cael mynediad llawn i rannau o'r castell.

Fe ddywed y nodyn cynllunio: "Yn ychwanegol, bydd y prosiect yn caniatáu i waith cadwraeth sylweddol gael ei wneud i'r porthdy, gan gynnwys dileu unrhyw ymyraethau blaenorol.

"Yn ogystal, mae gwaith archeolegol gafodd ei wneud yn y gwaith paratoadol i ddarparu cyfleusterau wedi cynyddu'r ddealltwriaeth o'r Ward Isaf ac ardaloedd y tu allan i Dŵr yr Eryr, a bydd hynny'n gwella'r dehongliad ac esboniad o'r safle cyfan."

Mae disgwyl i adran gynllunio Cyngor Gwynedd ystyried y cais yn y misoedd nesaf.