'Angen eglurder' ar ganllawiau digwyddiadau ieuenctid
- Cyhoeddwyd
Wrth i nifer o ysgolion perfformio ailagor, mae pryderon nad oes modd i gymdeithasau ieuenctid fel yr Urdd a'r Ffermwyr Ifainc ailymgynnull yr un pryd.
Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, mae modd i'r sector preifat ailddechrau gan lynu at ganllawiau Covid-19.
Ond ar gyfer gweithgareddau ieuenctid mewn canolfannau cymunedol, mae angen caniatâd y cyngor lleol.
Nawr mae arweinwyr yn gofyn i Lywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd cliriach i glybiau fel bod cysondeb.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cydweithio'n agos â'r sector ieuenctid a phobl ifanc wrth ddatblygu'r canllaw Covid-19.
Mae Sioned Page Jones yn hyfforddi gydag Aelwyd yr Urdd Hafodwenog a Chlwb Ffermwyr Ifanc Penybont, Sir Gaerfyrddin.
Ond tra bod nifer o ysgolion perfformio preifat wedi ailymgynnull yr wythnos hon - does dim grŵp dawnsio na chôr yn aros am eu harweiniad hi ar hyn o bryd.
Yn ôl canllawiau Llywodraeth Cymru, mae modd i'r rhai sy'n llogi lleoliad preifat ailgydio yn eu gweithgareddau os ydy'r canllawiau priodol yn eu lle.
Ond mae angen i'r rhai sy'n cwrdd mewn canolfannau cymunedol fel y ffermwyr ifanc ac aelwydydd yr Urdd gydlynu â'u sefydliadau yn ganolog, swyddogion y lleoliad a'u cyngor sir lleol, cyn ailymgynnull.
"I ni fel Aelwydydd yr Urdd a'r rhai sydd fel arfer yn cwrdd mewn neuadd bentref, ni'n gorfod aros a chamu nôl tipyn bach achos ma' bach mwy o ganllawiau, sy'n iawn, achos dyna'r ffordd cywir i neud e a'r ffordd saffa.
"Ond mae'n drueni, a ni'n gobeithio bo' ni ddim yn mynd i golli aelode achos bod sefydliade preifat yn gallu dechre nawr."
Cysuro aelodau a'u rhieni
Yn ôl Sioned, mae'n bwysig fod bobl ifainc yr ardal yn cael gwybod pryd y bydd modd bwrw ati unwaith eto.
"Dyna drafodon ni yn ein cyfarfod ni - mae'n bwysig bo' ni'n rhoi'r neges mas 'na bod ni YN dod nôl, ni ddim yn siŵr pryd, ond i sicrhau yr aelode a rhieni bod rhywbeth yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol agos."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cydweithio'n agos â'r sector ieuenctid a phobl ifanc wrth ddatblygu'r canllaw Covid-19
"Sefydliadau unigol sy'n gyfrifol am y penderfyniadau i ehangu neu ail agor gwasanaethau, ac mae'n bwysig bod hynny'n cael ei wneud ar lefel leol er mwyn caniatáu gwahaniaethau ar hyd a lled Cymru," meddai'r llefarydd.
Ond cysondeb sydd ei angen yn ôl Sioned Page Jones.
"Dyw'r cysondeb ddim 'na - dyw e ddim yn dod o'r Llywodraeth a dweud y gwir, achos ma' nhw 'di gadael e i'r cynghorau sir i benderfynu be sy'n ca'l dechre.
"Ni'n byw mewn ardal lle ni'n agos i'r ffin â Sir Benfro a Cheredigion, felly gallen ni fod yn clywed am ganllawie hollol wahanol a cha'l cwestiynau wedyn wrth rieni - 'wel pam so chi' gallu neud 'na?'.
"Ac o ran y dawnsio - ni ddim yn gallu ishte lawr a chael cyfarfod mewn neuadd gymunedol, ond ni'n gallu chwysu a pwldagu dros ein gilydd.
"Fi ddim yn deall - ma ishe i'r Llywodraeth i roi mwy o ganllaw i gael cysondeb dros Gymru gyfan."
A hwythau yn y sector preifat, cafodd Ysgol Berfformio Glanaethwy wybod rai dyddiau yn ôl bod modd iddyn nhw ailagor.
"'Dan ni wrthi fel lladd nadroedd rŵan yn clirio," eglura'r cyd-gyfarwyddwr, Cefin Roberts.
"Ma' gynnon ni fynedfa i fewn ac allan o'r dosbarthiadau. Fyddan nhw ddim yn cyfarfod syth ar ôl ei gilydd. Ma' 'na 20 munud i ni fynd o gwmpas yn ll'nau eto."
Ond mae'n dweud nad yw'r canllawiau yn gwbwl eglur i ysgolion perfformio chwaith.
"Dwi'n meddwl y bydde'r canllawiau wedi gallu bod ychydig bach mwy manwl," meddai Mr Roberts, "ond mi ydach chi'n medru dilyn rhyw fath o gwrs ar y we, i neud yn siŵr bo' chi'n deall be ydy'r rheolau.
"Ond dwi'n meddwl efo rheolau perfformio - er enghraifft canu neu weiddi, neu ddawns neu ystum corfforol - 'da ni am aros nes daw yna fwy o ganllawiau dwi'n meddwl. 'Da ni am beidio canu."
Dywedodd Urdd Gobaith Cymru eu bod yn y broses o hyfforddi eu holl arweinwyr mewn adrannau cymunedol fel eu bod yn barod ar gyfer yr adeg pan fydd hi'n ddiogel i blant a phobl ifanc gyfarfod â'i gilydd wyneb yn wyneb.
"Mae'r Urdd wedi creu proses 5 cam," meddai llefarydd, "(a) gobeithiwn yn bydd y broses drylwyr hon yn galluogi ein canghennau a chlybiau cymunedol i gyfarfod yn ddiogel yn y modd mwyaf addas pan fydd yn briodol i wneud hynny."
Ac mae CFfI Cymru wedi nodi eu bod bellach yn medru dechrau ar y broses o ddod â'u haelodau yn ôl at ei gilydd yn ddiogel, gan ofyn i bob clwb a ffederasiwn ddilyn arweiniad swyddogol, er mwyn diogelu pawb.
"Yn ystod y cyfnod hwn o gyfyngiadau mae CFfI Cymru wedi dilyn ac yn parhau i ddilyn canllawiau fel y nodwyd gan Lywodraeth Cymru.
"Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a gweithredu yn unol â'r canllawiau a ddarperir."
Ond ar hyn o dyw hi ddim yn glir pryd yn union y bydd modd i aelodau Aelwydydd yr Urdd na'r Ffermwyr Ifanc ailymgynnull wyneb yn wyneb.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
- Cyhoeddwyd3 Awst 2020
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf 2020