Gobaith trigolion i godi £1m i adfer melin hynafol
- Cyhoeddwyd
Mae criw o drigolion pentref Aberdaron yn Llŷn yn gobeithio codi miliwn o bunnoedd i adfer melin hynafol yn y pentref.
Mae Melin Daron wedi bod yn segur ers pumdegau'r ganrif ddiwethaf ac mae'r adeilad wedi dirywio'n arw.
Ond mae'r peiriannau yn dal y tu mewn iddi, a'r bwriad ydi adfer y felin a'i defnyddio unwaith eto i wneud blawd i'w gludo i Fecws Islyn dros y ffordd i wneud bara a'i werthu'n lleol.
Mae'r adeilad presennol yn dyddio o'r 19eg ganrif ond mae yna gofnod fod melin ar y safle yn 1252, ac mae'n debyg ei bod wedi cael ei defnyddio dros y canrifoedd tan y ganrif ddiwethaf.
Trosglwyddo i grŵp cymunedol
Rhyw bum mlynedd yn ôl prynwyd y felin gan Geraint a Gillian Jones, sydd berchen Becws Islyn.
Bellach mae'r felin wedi ei throsglwyddo i grŵp cymunedol er mwyn denu grantiau i'w gweddnewid, ac yn ôl Geraint Jones mae yna gynlluniau uchelgeisiol i'w hadfer i'w hen ogoniant.
Y bwriad ydi defnyddio'r felin i gynhyrchu blawd a fydd wedyn cael ei ddefnyddio yn y becws i bobi bara a'i werthu'n lleol.
"Mae'r building wedi bod yn segur ers rhyw 50 mlynedd," meddai. "A'r plan rŵan ydi ein bod ni'n mynd i'w throi hi yn ôl yn felin, a gobeithio ein bod ni'n mynd i dyfu rhywfaint o'r cynnyrch ar fferm adra yn lleol, ac hefyd ar Ynys Enlli os yn bosib.
"'Dan ni'n chwilio am dipyn o arian - 'dan ni'n meddwl o gwmpas tua miliwn o bunnoedd i wneud y prosiect.
"'Dan ni wedi dechra hefo grantiau bach, 'dan ni wedi cael un grant gan yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol, ac un arall gan Architectural Heritage hefyd.
"Ond mae'n beryg y bydd rhaid i ni swnian mwy ar bobl i gael mwy o arian, ac os oes yna rywun allan yna isio helpu yn ariannol neu o ran llafur, mi fyddan ni'n falch iawn."
Ar un adeg roedd y felin yn eiddo i Abaty Enlli, ac roedd grawn yn cael ei gynaeafu ar Enlli a'i gludo i'r felin. Roedd blawd wedyn yn cael ei gludo'n ôl i'r ynys.
Dogfennau'r dadlennol
Mae Glyn Roberts yn hanesydd lleol sydd wedi ymchwilio i hanes melinau Llŷn.
"Mae gynnon ni ddogfen yn mynd yn ôl i 1252 yn ymwneud ag Abaty Enlli ac mae yna sôn yn y ddogfen honno am felin Aberdaron, ond mae'n debyg fod yna felin yma dipyn cyn hynny," dywedodd.
"Ac ychydig yn nes ymlaen yn 1352 mae Edward III yn gwneud arolwg o'i eiddo yng Nghymru ac yn y ddogfen honno mae'n dweud fod Abaty Enlli yn berchen ar bump melin i gyd yn Llŷn.
"Ac felly oedd y drefn yn y Canol Oesoedd tan 1536 pan wnaeth Harri'r Wythfed ddiddymu'r mynachlogydd a chymryd yr eiddo drosodd i'r Goron.
"Mae yna ddogfen yn yr Archif Genedlaethol yn Llundain yn datgan fod Harri'r Wythfed yn gosod melin Aberdaron i ŵr o'r enw Ifan Gwyn."
Mi barhaodd y felin i gynhyrchu blawd nes i'r melinydd olaf farw ar ddechrau pumdegau'r ganrif ddiwethaf.
Bwriad y grŵp lleol sy'n gobeithio adfer Melin Daron ydi y bydd hi nid yn unig yn atyniad i ymwelwyr ond hefyd y bydd plant yr ardal yn cael mynd yno i ddysgu sut mae gwneud bara a dysgu rhywfaint mwy am hen hanes pen draw Llŷn.
Ond mi fydd angen gwaith caled a bydd angen codi llawer o arian i gyrraedd y nod.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mai 2020
- Cyhoeddwyd26 Mai 2020
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2020